Edwina Hart, Y Gweinidog Economy, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Yn dilyn ymrwymiad a wnaed yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Ionawr, cynigiais roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am hynt ein strategaeth ar gyfer Sector y Diwydiannau Creadigol.
Yn 2010, lluniwyd gennym gynllun clir ac ystyrlon oedd yn rhoi blaenoriaeth i gefnogi’r sector creadigol masnachol ac fel y dengys yr ystadegau economaidd, mae economi greadigol Cymru wedi mynd o nerth i nerth. Mae’r nifer a gyflogir yn sector y diwydiannau creadigol yng Nghymru wedi cynyddu 52.2% ers 2005. Yn yr un cyfnod, mae nifer y mentrau sy’n gweithio yn y sector wedi cynyddu 32.2%. O’r holl sectorau rydym yn rhoi blaenoriaeth iddynt, dyma’r un sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf. Hefyd, o’r sectorau hynny, hon sydd â’r cyflogau amser llawn wythnosol cyfartalog uchaf.
Ers creu’r Panel yn 2010, rydym wedi helpu i greu neu ddiogelu dros 3,200 o swyddi yn y sector a denu rhagor na £150 miliwn o fuddsoddi i Gymru.
Mae llwyddiant cynyddol ein diwydiant ffilm a theledu yn glir, gyda llawer o gynyrchiadau ar y gweill fydd yn dod â miliynau o bunnau i economi Cymru. Mae’r De’n prysur dyfu fel y ganolfan gynhyrchu yr oedd Panel y Sector am ei rhagweld, gyda chyfleusterau ar hyd ‘Coridor Creadigol’ yr M4 yng Nghas-gwent, Gwynllŵg, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe.
Flwyddyn yn ôl, agorodd y Prif Weinidog Stiwdio Pinewood Cymru. Fel rhan o’r cytundeb â Pinewood Shepperton, creodd Llywodraeth Cymru gyllideb o £30 miliwn i fuddsoddi mewn mentrau masnachol i ddatblygu, cynhyrchu a dosbarthu cynyrchiadau ffilm a theledu. Dyna neges glir i ddiwydiant cyfryngau’r byd bod Cymru’n ganolfan gynhyrchu arwyddocaol a phwysig a bod ganddi’r sgiliau a’r talent, y nawdd a’r seilwaith i ddenu a chreu cynyrchiadau rhyngwladol o’r radd flaenaf.
Arweiniodd perthynas Llywodraeth Cymru a ddatblygodd dros dri thymor â chynyrchwyr Da Vinci’s Demons at ddenu Bad Wolf Ltd i Gymru. Disgwylir i Bad Wolf o dan arweiniad Jane Tranter a Julie Gardner greu 28 o gynyrchiadau teledu yng Nghymru ar gyfer brig y farchnad.
Daeth drama cwmni Fox The Bastard Executioner i Gymru hefyd. Cafodd ei ffilmio dros gyfnod o wyth mis yn Stiwdio Pinewood Cymru a’r Dragon Studios ger Pen-y-bont. Roedd Twentieth Century Fox Productions yn uchel eu clod o’r amser a gawsant yng Nghymru ac o’r gefnogaeth a gawsant gan Lywodraeth Cymru. Er na chaiff tymor arall o’r gyfres ei chynhyrchu, daeth Fox â phrysurdeb i Dragon Studios ar ôl segurdod a’i gadael yn gyfleuster sy’n barod i weithio ar gynyrchiadau yn y dyfodol.
Mae Bay Studios yn gartref ar hyn o bryd i ddrama ‘cyfnod’ fawr a fydd yn rhedeg tan fis Mai ac mae gennym nifer o gynyrchiadau mawr eraill yn yr arfaeth.
Mae ein busnesau cynhenid hefyd yn ffynnu. Caiff cyfres deg Doctor Who ei darlledu yng ngwanwyn 2017. Mae pumed gyfres Stella yn cael ei dangos ar Sky 1. A dechreuwyd ffilmio trydedd gyfres Y Gwyll/Hinterland yn Aberystwyth a’r cylch.
Yn ogystal, mae gennym gwmnïau llwyddiannus sy’n gweithio yn y gadwyn gyflenwi. Yn eu plith y mae Real SFX, cwmni effeithiau arbennig sy’n gweithio ym mhob rhan o Brydain ac sydd wedi ennill gwobrau BAFTA Craft a BAFTA Cymru am eu gwaith ar Dr Who. Enghraifft arall yw Andy Dixon Facilities, un o brif gyflenwyr cerbydau cynhyrchu a chynnal ar gyfer y diwydiant teledu a ffilm ac sydd wedi gweld twf mawr yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae prosiectau seilwaith wedi rhoi hwb i’r sector; Stiwdio Pinewood Cymru, Bay Studios a gwella ac adfywio Dragon Studio yn ogystal â GloWorks ym Mhorth Teigr, sydd bellach yn llawn.
Mae fy nghynllun cyflawni ar gyfer y sector yn rhoi blaenoriaeth hefyd i gefnogi deunydd digidol. Rydym wedi llwyddo yn hyn o beth yn y cyfryngau digidol. Mae’r Gronfa Datblygu Digidol yn helpu prosiectau sy’n mentro i farchnadoedd busnes newydd yn yr economi ddigidol ryngwladol trwy ddefnyddio technolegau newydd gan greu swyddi mawr eu gwerth yng Nghymru. Mae 78 o brosiectau wedi cael gwerth dros £2.5 miliwn o help trwy’r Gronfa Datblygu Digidol ers ei chychwyn yn 2011. Rydym newydd gefnogi tri phrosiect newydd sy’n creu swyddi yn y diwydiant gemau, gwerth £2.5 miliwn gan greu 227 o swyddi.
Yn adroddiad Tech Nation yn 2015, enwyd y De fel un o’r 5 clwstwr technegol sy’n tyfu fwyaf yn y DU, gan dyfu 87% ers 2010, gyda Bournemouth, Lerpwl, Llundain Fewnol a Brighton. O ran trosiant cyfartalog, mae’n cystadlu â Manceinion Fwyaf, Belfast, Sheffield a Llundain Fewnol.
Un o flaenoriaethau’r sector yw denu arian o Ewrop. Cafodd y Rhaglen Ewrop Greadigol newydd ei lansio ym mis Ionawr 2014. Llwyddodd Prifysgol Aberystwyth fydd yn arwain rhwydwaith llenyddiaeth o’r enw ‘Literary Europe Live’ mewn 16 o wledydd a Fiction Factory am gyfres tri Y Gwyll/Hinterland i ddenu nawdd. Mae Fiction Factory bellach wedi cael cyfanswm o €1.45 miliwn o nawdd MEDIA ar gyfer cyfres un a thair Y Gwyll/Hinterland.
O safbwynt gwireddu’r blaenoriaethau a osodais gyda Phanel Sector y Diwydiannau Creadigol, rydym wedi cael cryn lwyddiant ac mae’r ystadegau’n cadarnhau hynny. Y cam nesaf yw canolbwyntio ar ddatblygu’r gadwyn gyflenwi, sef y criwiau a’r gwasanaethau sydd gan Gymru, i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y gorau o’n llwyddiant diweddar.