Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Roeddwn i’n awyddus i roi diweddariad ar raglen yr Ardaloedd Menter yng Nghymru ac yn benodol ar Fyrddau Cynghori Ardaloedd Menter Ynys Môn, Aberdaugleddau a Phort Talbot.
Yn fy natganiad ar 2 Mawrth 2022, wrth i bandemig COVID-19 ddod i ben ac yn dilyn Brexit, amlinellais fy nghynllun i ymestyn y penodiadau i'r Byrddau hyn am gyfnod o hyd at 12 mis ac i gynnal proses o adnewyddu aelodaeth y bwrdd ar ôl hynny.
Ers hynny, mae heriau economaidd a chymdeithasol difrifol a phellach wedi codi, fel y rhyfel yn Wcráin a'r argyfwng costau byw. O ystyried hyn a’r datblygiadau polisi pwysig sydd ar y gorwel wrth i ni ystyried dyfodiad posibl Porthladdoedd Rhydd (a ddatblygir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU), ymgysylltu pellach gan Lywodraeth y DU ar Ardaloedd Buddsoddi a chamau i sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforaethol, mae goblygiadau posibl i’n strwythurau llywodraethu rhanbarthol wrth i ni symud ymlaen.
Rwyf felly yn gwahodd Byrddau presennol Ynys Môn, Aberdaugleddau a Phort Talbot i barhau yn eu swyddi am gyfnod pellach o hyd at 12 mis a fydd yn rhoi hwb pellach i'r dull gweithredu ar sail lle i ddatblygu polisi economaidd yn ystod y cyfnod hwn. Bydd hyn yn caniatáu mwy o sicrwydd ar yr ôl troed sydd ar ddod wrth i ni symud ymlaen, y strwythur cynghori yn y dyfodol a allai ddod i'r amlwg a sut y bydd hyn, yn y pen draw, yn cefnogi ein camau i gyflawni’r Rhaglen Lywodraethu.
Hoffwn nodi fy ngwerthfawrogiad i'r Cadeiryddion - Mr Neil Rowlands, Mr Roger Maggs MBE a Mr Stan McIlvenny OBE – a phob Aelod arall o'r Bwrdd a'r awdurdodau lleol am gytuno i barhau i gefnogi’r rhaglen Ardaloedd Menter ac i ymgysylltu â hi. Hoffwn ddiolch hefyd i'r awdurdodau lleol a phartneriaid eraill ar draws yr Ardaloedd Menter eraill sy'n parhau i chwarae rhan bwysig wrth yrru ein hagenda gyffredin ymlaen.
Byddaf yn rhoi diweddariad pellach i'r Aelodau ar ddiwedd y flwyddyn galendr hon.