Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
Rwyf wedi ymrwymo i fynd ati’n rheolaidd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am yr hyn sy’n cael ei wneud i ddatblygu cymorth ar gyfer Cwmni Dur Tata yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda Tata dros y misoedd diwethaf ac rwyf yn falch o fedru cyhoeddi ein bod wedi cytuno ar becyn cymorth sgiliau pwysig ar gyfer y cwmni.
Mae hyn yn newyddion da nid yn unig i weithfeydd Tata yng Nghymru ond hefyd i’r gweithwyr unigol sydd wedi gweithio’n ddiflino dros y flwyddyn a aeth heibio i barhau i gynhyrchu dur yng Nghymru. Mae hefyd yn tystio i’n hymrwymiad cadarn i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau dyfodol i weithfeydd Tata yng Nghymru ac mae’n dangos ein bod yn credu bod gan y diwydiant dur ddyfodol cynaliadwy yma.
Er mwyn datblygu ei fusnes a dod yn un o’r cwmnïau mwyaf blaenllaw yn y marchnadoedd allweddol, mae angen i Tata fynd ati’n barhaus i fuddsoddi yn ei bobl er mwyn meithrin eu gallu a gwella sgiliau’r staff sy’n dal yno ar ôl y diswyddiadau diweddar. Mae angen hefyd i Tata wella a datblygu mwy ar ei berthynas â’i gwsmeriaid a’i gadwyni cyflenwi er mwyn sicrhau bod y busnes yn hyfyw yn y tymor hir.
Mae’r cwmni’n buddsoddi mewn hyfforddiant cynhwysfawr er mwyn datblygu staff a rheolwyr ar draws yr holl safleoedd sydd ganddo yng Nghymru. Mae’r buddsoddiad hwnnw wedi arwain at nifer o brosiectau hyfforddi gwahanol er mwyn cyflawni’r amcanion hynny, ac maent yn cynnwys amrywiaeth o becynnau hyfforddiant. Byddant yn gwella gwaith cynllunio ar gyfer olyniaeth a’r modd y mae gwybodaeth yn cael ei rheoli, gan ganolbwyntio ar drosglwyddo’r wybodaeth a’r sgiliau sydd gan y gweithlu aeddfed i genhedlaeth iau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig £4,075,428 i helpu gyda chostau ariannol y prosiectau hyn, ac mae swm cyfatebol yn cael ei fuddsoddi gan y cwmni. Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos ein bod yn bendant o’r farn bod dyfodol i weithfeydd Tata yng Nghymru a’n bod yn benderfynol o gadw sgiliau yng Nghymru yn y tymor hir.
Rydym hefyd wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran diffinio pecyn ehangach o gymorth ar gyfer Tata. Bydd gofyn cael cytundeb ar fanylion yr amodau cyfreithiol rwymol a fydd yn gysylltiedig â’r pecyn hwn, a fydd yn fodd i amddiffyn y gweithlu a’r gymuned ehangach.