Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant
Ym Mawrth 2016, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y gwerthusiad o'r Ddeddf a thanlinellu gwaith rhagorol y Grŵp Gwerthuso i Randdeiliaid.
Sefydlwyd y Grŵp Gwerthuso i Randdeiliaid ym mis Gorffennaf 2017 i lywio sut y mae'r gwerthusiad yn symud ymlaen ac i chwarae rôl allweddol o ran datblygu'r cynllun gwerthuso. Mae'r Grŵp yn cynnwys ystod o gynrychiolwyr allanol ac arweinwyr polisi allweddol yn Llywodraeth Cymru, y tynnwyd rhai ohonynt o grwpiau rhanddeiliaid eraill a oedd yn ymwneud â datblygu a/neu roi'r Ddeddf ar waith. Mae’r cynrychiolwyr sy'n ymwneud â'r prosiect yn cynnwys:
• Cymdeithas Brydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol, Cymru;
• Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru;
• Cynghrair Henoed Cymru
• Gofalwyr Cymru;
• y Swyddfa Ystadegau Gwladol;
• Arolygiaeth Gofal Cymru;
• Fforwm Cymru Gyfan;
• Plant yng Nghymru;
• Y Comisiynydd Plant;
• Y Comisiynydd Pobl Hŷn;
• Anabledd Dysgu Cymru;
• Cynrychiolwyr yr Awdurdodau Lleol;
• Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol
• Gofal Cymdeithasol Cymru;
• Prifysgol Abertawe;
• Canolfan Cydweithredol Cymru;
• Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; ac
• aelod o’r cyhoedd
Hyd yma, mae’r grŵp wedi cynnig egwyddorion a chwmpas y gwerthusiad, a thrwy gydol y gyfres o gyfarfodydd mae'r grŵp wedi bod yn ystyried y cwestiynau allweddol a ddylai gael eu hystyried yn ystod y gwerthusiad. Gallaf gyhoeddi mai ar roi'r Ddeddf ar waith y bydd y ffocws cychwynnol. Bydd yn ymchwilio i sut y mae'r Ddeddf wedi'i rhoi ar waith a'i chyflwyno, ac yn nodi ffactorau sydd wedi helpu neu lesteirio ei heffeithiolrwydd. Bydd y gwerthusiad wedyn yn ystyried effaith y Ddeddf ar bobl y mae arnynt angen gofal a chymorth a gofalwyr y mae arnynt angen cymorth. Bydd hefyd yn ystyried beth fu effaith y Ddeddf ar bartneriaid allweddol megis yr awdurdodau lleol, ymarferwyr a'r trydydd sector. Bydd adroddiadau ymchwil sy’n crynhoi canfyddiadau’r gwerthusiad yn cael eu cynnal trwy gydol y cyfnod gwerthuso.
Mae’r Grŵp Gwerthuso i Randdeiliaid a swyddogion Llywodraeth Cymru bellach yn datblygu manyleb ar gyfer y gwerthusiad a fydd yn destun ymarfer tendro yng Ngwanwyn 2018. Bydd y gwerthusiad cychwynnol yn dechrau yn yr hydref 2018 am gyfnod o dair blynedd o leiaf. Rwyf yn bwriadu cyhoeddi cynllun gwerthuso llawn yn yr hydref 2018, pan fydd y contract wedi'i ddyfarnu. Er mwyn parhau â'r dull gweithredu cyd-gynhyrchiol bydd y grŵp yn parhau i chwarae rhan drwy gydol y gwerthusiad llawn.
Gallaf gyhoeddi hefyd fy mod wedi cytuno y bydd prosiect gwerthuso cydategol yn cael ei gynnal ochr yn ochr â'r gwerthusiad annibynnol ffurfiol, dan y teitl ‘Mesur y Mynydd’. Canolbwynt y gwaith hwn yw casglu profiadau defnyddwyr gwasanaethau o ddarpariaeth leol gan ddefnyddio dull gweithredu cymunedol ledled Cymru i helpu i lywio effaith ac effeithiolrwydd y Ddeddf. Bydd hwn yn ddarn helaeth o waith a fydd yn golygu ymgysylltu â bron 2,000 o ddefnyddwyr y gwasanaeth.
Hoffwn gau trwy estyn fy niolch i'r rhanddeiliaid a fu'n rhan o ddatblygu'r gwerthusiad am eu cyfraniad at y darn pwysig hwn o waith a'u hymrwymiad iddo.