Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ers i Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Llywydd Juncker, gyhoeddi ei fwriad i Gronfa Buddsoddi Strategol Ewropeaidd (EFSI), rwyf wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU, y Comisiwn Ewropeaidd a Banc Buddsoddi Ewrop i ymchwilio i gyfleoedd cyllido posibl ledled Cymru. 

Rwy’n croesawu’r cynnydd sy’n cael ei wneud ym Mrwsel; disgwylir y bydd Banc Buddsoddi Ewrop yn cychwyn benthyca i brosiectau drwy EFSI yn yr haf, ac yn parhau i fenthyca am bedair blynedd. Yn y cyfamser, mae grŵp Llywodraeth Cymru gyfan yn gweithio i sicrhau y gall Cymru wneud y gorau posibl o’r cyfleoedd y mae EFSI a chyllid arall Banc Buddsoddi Ewrop yn eu creu. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi nifer o gynlluniau o blith y blaenoriaethau seilwaith yn y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru (WIIP) a allai elwa ar EFSI neu ffynonellau eraill. Mae’r prosiectau hyn, a gyhoeddwyd ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd, yn cynrychioli ystod eang o gyfleoedd cyllido arloesol ledled Cymru, gan gynnwys deuoli rhannau 5 a 6 o gynllun yr A465, Canolfan Ganser Felindre, y cynlluniau Morlyn Llanw, Prosiectau’r Ynys Ynni, y Metro a nifer o gynlluniau Cymru gyfan. Byddwn yn parhau i adolygu a mireinio’r rhestr yn rheolaidd. 

Yn ogystal ag ymgysylltu â Banc Buddsoddi Ewrop, rwy’n parhau i drafod cyfleoedd posibl ar gyfer EFSI gyda Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill, yn arbennig lle mae potensial i ddefnyddio ffynonellau benthyca newydd ar lefel genedlaethol neu is-genedlaethol. 

Rwyf hefyd yn cysylltu â Sioe Deithiol y Comisiynydd Ewropeaidd Katainen ynghylch EFSI ac rwyf wedi ei wahodd i Gymru.
 
Byddaf yn hysbysu’r Aelodau am hynt y fenter arwyddocaol hon wrth iddi ddatblygu.

Mae rhestr ddangosol o brosiectau’r DY, gan gynnwys rhagolwg cychwynnol o brosiectau Cymru, i’w gweld yn: http://ec.europa.eu/economy_finance/financial_operations/index_en.htm