Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n bleser gen i heddiw roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol (FfERhau) yng Nghymru.

Mae Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar yr Economi (CGE) yn esbonio’r rhesymau dros ranbartholi datblygiad economaidd Cymru.  Rydym yn cydnabod drwy hynny y cyfleoedd unigryw y mae pob rhanbarth yn eu cynnig a byddwn yn ceisio adeiladu ar y cyfleoedd hynny er mwyn dod â mwy o ffyniant i bawb gan fynd i’r afael yr un pryd â’r ffactorau sy’n rhwystro hynny.

Ers penodi’r Prif Swyddogion Rhanbarthol a’u timau, rydym wedi ceisio cydweithio’n fwy clos ac yn fwy effeithiol â’n partneriaid a’n rhanddeiliaid rhanbarthol. Mae hyn yn dwyn ffrwyth, ac mae’r cydweithio hwn wedi sicrhau gwahaniaethau gweladwy i fusnesau a chymunedau ar draws rhanbarthau Cymru.  Fel llais y Llywodraeth yn y rhanbarthau a llais y rhanbarthau yn y Llywodraeth, mae’r Prif Swyddogion Rhanbarthol a’u timau’n llywio ac yn dylanwadu ar bolisi a rhaglenni cenedlaethol yn ogystal ag yn targedu cymorth yn y rhanbarthau trwy gronfeydd ysgogi cyfalaf rhanbarthol.

Mae FfERhau yn rhan hanfodol o’n hymrwymiad i fodel o ddatblygu economaidd sy’n rhoi mwy o ffocws i’r rhanbarthau – i ddatblygu cryfderau hynod ein rhanbarthau, cefnogi twf economaidd cynhwysol a chynaliadwy a gwneud y gorau o gyfleoedd i drechu anghydraddoldebau rhanbarthol a lleol, a chyfrannu at Nodau Llesiant Cymru.  Mae FfERhau yn gyfryngau ar gyfer helpu i hyrwyddo a chynnal cynllunio rhanbarthol cydweithredol ymhlith partneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector, gan weithio ar weledigaeth ar y cyd a set o amcanion datblygu economaidd cyffredin. Wrth ddatblygu FfERhau, rydym wedi bod yn ymwybodol iawn bod angen ymadfer ac ailgychwyn yn sgil pandemig y Coronafeirws, ond bod angen inni hefyd bennu uchelgais mwy tymor hir ar gyfer y rhanbarthau. Bydd gofyn i hwnnw fod yn gyson â Chenhadaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Adfywio a Chryfhau’r Economi.

                                                                                                               

Wrth ein helpu i lunio’r FfERhau, mae swyddogion wedi cynnal cyfnod o ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol penodol ar lefel genedlaethol a rhanbarthol ym mhob un o ranbarthau Cymru gan feithrin perthynas waith agosach ag Awdurdodau Lleol i gyd-ddylunio datblygiad economaidd sy’n seiliedig ar le. Gwneir hynny trwy un weledigaeth ar y cyd ar gyfer pob rhanbarth, gyda set o flaenoriaethau rhanbarthol i gefnogi’r weledigaeth honno. Yn sail i hyn y mae’r egwyddor nad yw’r  rhanbarthau yn ddarostyngedig i’r cenedlaethol o ran y blaenoriaethau y maent wedi cytuno arnynt o dan yr egwyddorion cytûn, a rhaid tanlinellu pwysigrwydd parchu sybsidiariti ac atebolrwydd democrataidd ar wahanol lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.

Bydd FfERHau yn gallu bod yn ffordd i sicrhau mwy o alinio ac integreiddio ar draws llywodraeth, gan ddod â manteision fel datblygu economaidd cydgysylltiedig a chynllunio strategol ar amrywiaeth o bynciau o ddefnyddio tir i sgiliau yn ogystal â chefnogi cydweithio traws-ffiniol – gan weithio gyda strwythurau llywodraethu hen a newydd ar draws ffiniau awdurdodau lleol ar faterion fel adfywio, trafnidiaeth strategol a seilwaith.

Sail y FfERhau yw’r egwyddor bod lleoedd yn bwysig i wireddu’n huchelgais i ddarparu swyddi gwell yn nes adref a dod â mwy o ffyniant i bawb.  Byddant yn mynd i’r afael â’n problemau strwythurol sylfaenol ond gan fod yn ddigon ymatebol i’w troi’n gyfleoedd ar gyfer rhanbarthau deinamig ac unigryw sy’n dangos twf economaidd cynhwysol, teg a chynaliadwy trwy ddylunio atebion ar gyfer y dyfodol – gan fod yn ymwybodol hefyd bod angen iddynt fod yn ddogfennau byw sy’n ymateb i amgylchiadau cyfnewidiol. Ni fydd FfERhau yn dyblygu’r llwyth o gynlluniau sydd eisoes yn bod, ond yn hytrach, byddant yn dwyn ynghyd eu prif elfennau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol gan geisio dylanwadu’n uniongyrchol ar sut mae Llywodraeth Cymru’n gwneud ei gwaith yn y rhanbarthau ac mewn llefydd. Bydd y fframweithiau hyn yn hyblyg er mwyn iddynt allu parhau’n berthnasol ac ymatebol i amgylchiadau economaidd cyfnewidiol ac i gyfleoedd newydd ac er mwyn gallu chwarae rhan bwysig wrth roi’r Weledigaeth Adfywio a Chryfhau’r Economi ar waith.

Gall datblygu FfERhau ym mhedwar rhanbarth Cymru fod yn bwysig o ran hwyluso cydweithio i ddatblygu economïau’r rhanbarthau a hefyd o ran llywio a dylanwadu ar flaenoriaethau ariannu Llywodraethau Cymru a gwneud y gorau o gyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael i Gymru, hynny yng nghyd-destun y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol newydd yn ogystal ag ystyried argymhellion gwaith yr OECD. Bydd cydweithio â rhanddeiliaid a chyd-gynhyrchu â phrif bartneriaid rhanbarthol yn parhau, at ddiben datblygu’r FfERhau. Bydd hynny’n gosod y sylfaen ar gyfer datblygu economïau’r rhanbarthau ar sail lle, yn gyson â’r CGE ac uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer economi lesiant sy’n cynyddu ffyniant, sy’n amgylcheddol gadarn ac sy’n helpu pawb i wireddu’i botensial.

Nid yw penderfyniadau diweddar Llywodraeth y DU ynghylch y Gronfa Lefelu am i Fyny a’r Gronfa Adfywio Cymunedau (peilot y Gronfa Ffyniant Gyffredin) sy’n mynd heibio Llywodraeth Cymru, yn rhoi ei chyfran deg o fuddsoddi i Gymru a byddant yn tanseilio ein golwg strategol a rhanbarthol ar ddatblygu economaidd yng Nghymru.   Codant lawer o gwestiynau i’n Rhanddeiliaid Rhanbarthol – nid i’n Hawdurdodau Lleol yn unig, ond hefyd i’r rheini yn academia, y sector preifat a’r trydydd sector sydd wedi elwa ar gannoedd o filiynau o bunnau’r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gydweithio â’n partneriaid Rhanbarthol i barhau i gyflawni’n gryf a pheidio â gadael i Lywodraeth y DU a bygythiad Bil y Farchnad Fewnol i’r setliad datganoli yng Nghymru danseilio datblygu economaidd rhanbarthol datganoledig yn rhanbarthau Cymru.

Er bod y pandemig wrth gwrs wedi effeithio ar y gwaith o ddatblygu FfERhau, byddwn yn parhau â’r gwaith datblygu manwl trwy’r Gwanwyn a’r Haf i’r llywodraeth ddatganoledig nesaf yng Nghymru allu eu hystyried, hynny cyn sefydlu’r CJCs rhwng Chwefror a Mehefin flwyddyn nesaf.