Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
Cafodd y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) ei gyflwyno yn y Cynulliad Cenedlaethol ar 12 Medi 2016.
Mae’r Bil yn disgrifio ein cynigion ar gyfer treth trafodiadau tir newydd i ddisodli treth dir y dreth stamp o fis Ebrill 2018 yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw’n cynnwys darpariaeth ar gyfer cyfradd uwch o dreth ar gyfer prynu eiddo preswyl ychwanegol, fel sy’n bodoli ar hyn o bryd o dan dreth dir y dreth stamp yng Nghymru a Lloegr a’r dreth trafodiadau tir ac adeiladau yn yr Alban.
Mae’r gyfradd uwch ar gyfer eiddo ychwanegol, sef 3% ar hyn o bryd, yn agwedd newydd ar dreth dir y dreth stamp nad yw wedi bod mewn effaith ond ers 1 Ebrill eleni. Rydym yn awyddus i wybod beth yw barn pobl o ran a ddylai hefyd fod yn agwedd ar y dreth trafodiadau tir yng Nghymru o fis Ebrill 2018. Felly, dros yr haf aethom ati i gyhoeddi Papur y Trysorlys a chynnal arolwg technegol o sut y gellid gweithredu a chymhwyso’r darpariaethau cyfradd uwch. Mae’r ymatebion i’r arolwg technegol a Phapur y Trysorlys yn cael eu cyhoeddi heddiw.
Daeth 100 o ymatebion i law, a chawsant eu hystyried yn ofalus cyn cyhoeddi crynodeb ohonynt yn yr adroddiad heddiw. Rwy’n ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i ymateb.
Roedd sylwadau’r ymatebwyr yn amrywio, ond serch hynny cafwyd rhai meysydd penodol lle’r oedd consensws amlwg. Roedd y meysydd hyn yn cynnwys pwysigrwydd mabwysiadu’r un esemptiadau i ordal y gyfradd uwch a ddarperir o dan dreth dir y dreth stamp, a hefyd bwysigrwydd sicrhau bod un gyfradd gyson ar waith ledled y DU, er mwyn osgoi creu ystumiadau, yn enwedig ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Roedd Papur y Trysorlys a’r arolwg technegol hefyd yn gyfle i gael sylwadau gan randdeiliaid ar sut y byddai’n bosibl inni addasu gordal y gyfradd uwch er mwyn ei wneud yn fwy perthnasol i Gymru. Roedd yr awgrymiadau’n cynnwys ei addasu i fod yn gydnaws â Deddf Tai (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Cafwyd galwadau hefyd i ystyried effaith eiddo sy’n wag am gyfnodau hir, a sut y gellid eu defnyddio unwaith yn rhagor i greu tai fforddiadwy yn y dyfodol.
Fel sy’n cael ei nodi ym Mhapur y Trysorlys, bydd gostyngiad sylweddol yn yr adnoddau sydd ar gael i wasanaethau cyhoeddus os na fyddwn yn cynnwys cyfradd uwch ar gyfer eiddo ychwanegol yn y dreth trafodiadau tir. Felly, er mwyn diogelu gwasanaethau cyhoeddus, rwy’n bwriadu gwneud darpariaeth ar gyfer gordal cyfradd uwch ar eiddo preswyl ychwanegol yn y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) yn ystod cam 2.
Byddwn yn parhau i bwyso a mesur yr awgrymiadau a gyflwynwyd gan randdeiliaid o ran sut y gellid addasu’r gyfradd uwch i amgylchiadau Cymru. Bydd unrhyw newidiadau yn y dyfodol yn cael eu gwneud drwy is-ddeddfwriaeth, ac oherwydd hynny roedd mwyafrif llethol yr ymatebwyr i’r arolwg technegol yn cytuno y dylai Gweinidogion Cymru sicrhau eu bod yn meddu ar y pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth.
Rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r Cynulliad Cenedlaethol i gyflwyno gordal cyfradd uwch ar brynu eiddo preswyl ychwanegol drwy’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru).
Mae’r adroddiad Y Dreth Trafodiadau Tir: cyfraddau uwch ar eiddo preswyl ychwanegol – crynodeb o’r ymatebion ar gael yma: http://gov.wales/docs/caecd/publications/161014-ltt-responses-cy.pdf.