Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf yn falch o hysbysu'r Aelodau o ddau gynnig sylweddol am gyllid i gynhyrchwyr dur gan Lywodraeth Cymru.Rydym wedi darparu dros £4 miliwn o gyllid ar gyfer sgiliau i Tata Steel yn 2017-18 i helpu i ddatblygu'r gweithlu ymhellach. Bwriad buddsoddiad parhaus Llywodraeth Cymru i ddatblygu sgiliau o fewn y cwmni yw sicrhau bod y gweithfeydd yng Nghymru yn fwy effeithlon yn ogystal â rhoi cymorth uniongyrchol i unigolion. Bydd yn darparu hyfforddiant ychwanegol fydd yn galluogi'r sefydliad i fod yn fwy arloesol ac i gyflwyno gweithgynhyrchu uwch a dulliau peirianyddol i'r busnes i wella lefelau effeithlonrwydd, cynhyrchiant ac effeithiolrwydd o ran y gost. Bydd hefyd yn sicrhau bod y gweithlu yn fwy hyblyg ac yn cynyddu gallu y gweithlu.

Mae darparu sgiliau ychwanegol yn golygu ein bod hyd yma wedi cynnig cyllid o £17 miliwn ar draws gweithfeydd Tata Steel yng Nghymru. Yn ogystal â'r cymorth hwn i ddatblygu sgiliau, mae hyn yn cynnwys buddsoddiad yn y gweithfeydd ar safle Tata ym Mhort Talbot i arbed ynni ac i leihau allyriadau carbon, a chyllid Ymchwil a Datblygu i ddatblygu cynnyrch newydd.

Rydym yn parhau i gydweithio'n agos â Tata Steel a phecynnau penodol eraill o gymorth posibl. Ag eithrio cyllid ar gyfer sgiliau, ni fydd Tata yn gallu defnyddio cyllid ar gyfer y cynigion hyn tan ein bod wedi cytuno ar fanylion amodau trosfwaol sydd wedi'u rhwymo mewn cyfraith.

Hefyd, rydym wedi gwneud cynnig sylweddol i Celsa yng Nghaerdydd ar gyfer gwelliannau amgylcheddol fydd yn helpu i leihau faint o ynni sy'n cael ei ddefnyddio. Nid yn unig bydd hyn yn cael effaith bositif ar allyriadau carbon ond bydd yn lleihau costau ynni Celsa. Mae Celsa yn gyflogwr amlwg yng Nghaerdydd, sy'n cyflogi dros 800 o bobl a dyma'r gweithgynhyrchwr mwyaf ar gyfer dur wedi'i atgyfnerthu a chynnyrch gwifr yn y DU. Mae'r cwmni yn cynhyrchu oddeutu 1.2 tunnell o ddur yn flynyddol o ddeunydd sgrap wedi'i ail-gylchu, gan ddefnyddio proses ffwrnais gyda bwa trydan, proses sy'n defnyddio llawer o ynni. Ar hyn o bryd, mae'r cynnig o gyllid yn amodol ar gael ei dderbyn yn ffurfiol gan y cwmni.  Cyhoeddwyd gennym heddiw hefyd gyllid o £100,000 i BRC Reinforcements, rhan o Grŵp Celsa, i gynyddu cynhyrchiant yn eu canolfan yng Nghasnewydd, ac i greu a diogelu 35 o swyddi.  

Ar 8 Chwefror, agorodd y Prif Weinidog y Ganolfan Dur a Metalau newydd ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd y Ganolfan, sydd wedi'i chefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru o ychydig dros £2 filiwn, yn galluogi busnesau ledled Cymru i gydweithio i ddatblygu cynnyrch a phrosesau newydd yn ogystal â chynyddu nifer yr ymchwilwyr sy'n cael eu cyflogi yng Nghymru gan fusnesau sy'n defnyddio'r cyfleusterau.

Bydd cyfleusterau y Ganolfan yn cynnig adnodd sylweddol i Gymru ac yn cadarnhau ein safle fel rhanbarth sydd â'r gallu i wneud gwaith ymchwil blaengar ym maes dur a metalau gan helpu i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i'r sector. Bydd yn rhoi'r sector mewn sefyllfa gref i ddod â chyllid sydd wedi'i ennill yn gystadleuol i Gymru, er enghraifft cyllid Innovate UK. Mae gallu yr offer yn golygu bod posibilrwydd iddo gael ei ddefnyddio gan y sector dur yn gyffredinol - o ddur primaidd a chynhyrchwyr metal i'r busnesau at y cwsmer a'r gadwyn gyflenwi yn ehangach.

Mae'r Ganolfan Ddur yn adeiladu ar y cymorth ehangach ar gyfer Ymchwil a Datblygu yr ydym wedi ei roi i'r diwydiant metalau. Mae hyn yn cynnwys canolfan ymchwil fodern IMPACT ym Mhrifysgol Abertawe sydd ar gampws Bae Abertawe. Cyfanswm y gost yw oddeutu £35 miliwn, wedi'i gefnogi gan £17.4 miliwn o gyllid yr UE ac mae'n cynnwys Canolfan Technoleg Metal fydd o fudd i'r gadwyn cyflenwi metalau yng Nghymru, a bydd yn cynnwys offer sy'n cael ei sefydlu'n bennaf i wasanaethu gwaith technoleg is.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i fenter Y Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol (SPECIFIC) hefyd ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n cynnal gwaith ymchwil ac arloesi cyffrous fydd yn arwain at drawsnewid y diwydiant adeilad, ac yn newid y ffordd y caiff adeiladau eu cynllunio, eu hadeiladu a'u defnyddio. Bu Tata yn bartner allweddol o fewn SPECIFIC ers iddo ddechrau fel prosiect cydweithredol gyda Phrifysgol Abertawe. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi SPECIFIC trwy ddau gylch cyllido fel UK Innovation a Chanolfan Wybodaeth ac mae'n parhau i gefnogi ei uchelgais i ddarparu adeiladau fel pwerdai.

Ochr yn ochr â'r buddsoddiadau sylweddol yr ydym wedi eu gwneud fel Llywodraeth o ran cyfleusterau a hefyd o ran cyllid uniongyrchol i gwmnïau, blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru o ran cymorth Ymchwil a Datblygu pellach ar gyfer y diwydiant dur yw gweithio gyda'r sector a Phrifysgolion i ddenu mwy o gyllid ymchwil y DU. Mae'r gyllideb wedi ei chynyddu tan 2020, yn bennaf oherwydd Cronfa Herio'r Strategaeth Ddiwydiannol.

Mae ein Cynllun Gweithredu Economaidd newydd - a'n galwadau i weithredu - wedi'u cynllunio'n rhannol i helpu Cymru i ddatblygu platfformau newydd a phartneriaethau newydd rhwng llywodraeth, prifysgolion, colegau a busnesau sy'n caniatáu inni fynd ar ôl y cyllid mwy cystadleuol, yn ogystal â chyllid newydd her Strategaeth Ddiwydiannol y DU.

Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Weinidogion am y datblygiadau diweddaraf.