Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym yn ysgrifennu atoch i roi’r newyddion diweddaraf i Aelodau’r Cynulliad ynghylch ychwanegu at y cyfleoedd presennol  i gynyddu cynhyrchiant a thwf yn y Sector Diwydiannau Creadigol yng Nghymru.  

Dros y 5 mlynedd ddiwethaf, mae cynyrchiadau ffilm a theledu sy’n cael eu ffilmio  yng Nghymru ac yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru wedi gwario dros £100 miliwn yng Nghymru.  Mae hyn yn fuddsoddiad mewn economïau lleol, gan ddarparu gwaith o safon uchel i gannoedd o fusnesau ac unigolion yng Nghymru.  

Roedd cyflwyno cyllid masnachol drwy’r Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau yn 2014 yn hwb ychwanegol i’r diwydiant ac mae wedi ariannu deg o gynyrchiadau ac un prosiect gemau hyd yma.  

Roedd y rhain yn cynnwys Their Finest, ddaeth â llawer o arian i sinemâu ac a gafodd dderbyniad gwych gan y beirniaid, a Journey’s End, yn seiliedig ar y ddrama adnabyddus am y Rhyfel Byd Cyntaf gan R C Sherriff, ddangoswyd yn gyntaf yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto, a’i dangos yng Ngŵyl Ffilmiau Llundain y mis diwethaf.

Am sawl blwyddyn, mae ein strategaeth a’n dull o ddarparu cymorth i’r Sector Diwydiannau Creadigol wedi canolbwyntio ar ddarparu cyllid trwy grantiau, benthyciadau a buddsoddiadau masnachol, i ddarparu blaenoriaethau strategol gan gynnwys:  

• cytundeb cydweithio gyda Pinewood, gan gynnwys y Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau;
• dod â ffilm a theledu o safon uchel i Gymru drwy anogaethau ariannol Llywodraeth Cymru; ac
• ariannu prosiectau gwerth uchel ar brosiectau y cyfryngau digidol.  

Mae’r blaenoriaethau hyn wedi ei cyflawni gyda chymorth o ran logisteg ar gyfer cynyrchiadau drwy wasanaeth Sgrîn Cymru, a chymorth i ddatblygu ystod o gyfleusterau stiwdio ar hyd goridor yr M4 rhwng Casgwent ac Abertawe.  Yn benodol, yn Stiwdio Blaidd Cymru yng Nghaerdydd gaiff cynhyrchiad cyntaf Bad Wolf Production ei ffilmio, ac mae nifer o gynyrchiadau ar y gweill, fydd yn golygu gwariant o o leiaf £108 miliwn yng Nghymru.

Mae’r twf yn y diwydiant yn parhau i newid y tirwedd creadigol ac rydym bellach yn gweithio tuag at gyflawni ein haddewid yn ein maniffesto i gynnig dull o weithio mwy holistaidd yn y sector.  Bydd ein model newydd o gymorth hyblyg a phwrpasol, ac yn sicrhau bod dulliau priodol wedi’u sefydlu i sicrhau twf ar gyfer busnesau masnachol o fewn y diwydiannau creadigol cystadleuol.  

Byddwn yn helpu i flaenoriaethu a chyflymu twf o fewn y sector drwy:  
• ddatblygu sgiliau a’r gadwyn gyflenwi;
• gwella rhwydweithiau a mynediad i gyngor arbenigol o fewn y diwydiant;  
• defnyddio mwy ar y cyfryngau cymdeithasol a dulliau digidol o ddarparu gwasanaethau; a
• gwella gallu y busnesau creadigol i greu, cadw a defnyddio eu heiddo deallusol o fewn economi Cymru.  

Un o’r newidiadau o fewn y sector fu’r penderfyniad masnachol gan Pinewood i dynnu yn ôl o reoli cyllid cronfeydd trydydd parti, ac felly o’i swyddogaeth gyda’r Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau.  Mae hyn wedi rhoi’r cyfle inni ail-drafod telerau ein cydweithrediad gyda Pinewood i wasanaethu’r diwydiant yng Nghymru yn well.  

Er bod telerau llawn ein cytundeb newydd yn gyfrinachol, mae’n golygu bod Pinewood wedi ymrwymo’n llawn i weithredu’r stiwdio yng Ngwynllŵg, a’u bod yn parhau i hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol fel cyrchfan ar gyfer cynhyrchu teledu a ffilmiau o safon uchel.  

Rydym yn falch o bartneriaeth Llywodraeth Cymru gyda Pinewood. Mae cael brand mor eiconig yng Nghymru wedi bod yn hynod werthfawr i’r sector ffilm a theledu, gan helpu inni hyrwyddo Cymru fel lleoliad delfrydol ar gyfer cynhyrchu, a sicrhau mantais i Gymru dros  ranbarthau eraill.  

Byddwn yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn, i sicrhau bod Sector y Diwydiannau Creadigol yn gryfach hyd yn oed ar gyfer y dyfodol.