Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Aelodau wedi bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig ym mis Chwefror 2023.

Rydym wedi cyhoeddi pedwar adroddiad cynnydd hyd yn hyn, a heddiw rwy'n cyhoeddi adroddiad sy'n nodi'r cynnydd y mae'r bwrdd iechyd wedi'i wneud rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2024.

Ym mis Mai 2024, cytunodd Prif Weithredwr GIG Cymru a Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar fframwaith mesurau arbennig ar gyfer y cam hwn o'r ymyrraeth mesurau arbennig bresennol. Cyflwynwyd y fframwaith hwn i'r Bwrdd yn ei gyfarfod ar 30 Mai 2024.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd drwy ein trefniadau goruchwylio a sicrwydd i wneud yn siŵr bod y gwelliannau gofynnol o ran canlyniadau, perfformiad, gwasanaethau bregus clinigol ac ansawdd a diogelwch yn cael eu gwneud yn gynt, a bod y systemau a'r strwythurau angenrheidiol ar waith i sicrhau bod y gwelliannau hyn yn gynaliadwy. 

Mae llawer o waith i'w wneud o hyd ond mae arwyddion calonogol o welliant i bobl sy'n byw yn y Gogledd. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i'r gwaith fynd rhagddo. 

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.