Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Mai 2018, cyhoeddais y byddai Grŵp Gweithredu ar gyfer Iechyd Menywod yn cael ei sefydlu i oruchwylio rhai meysydd penodol o iechyd menywod sydd angen sylw the gwelliannau ar fyrder. Nodais mai prif flaenoriaeth y Grŵp fyddai i oruchwylio'r gwaith o weithredu'r argymhellion gan yr adolygiad ar dâp a rhwyll y wain.

Mae'r Grŵp Gweithredu, dan gadeiryddiaeth Tracy Myhill, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, bellach wedi cwrdd ar dri achlysur ac rwy'n hapus i adrodd bod cynnydd wedi'i wneud mewn perthynas â sawl maes allweddol.

Dywedais wrth sefydlu'r Grŵp Gweithredu ar gyfer Iechyd Menywod y byddai'n cael cymorth ariannol o hyd at £1 miliwn gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn y bydd yn gweithredu. Mae'r grŵp wedi penderfynu y bydd cyllid y flwyddyn gyntaf yn cael ei wario ar sefydlu nifer o swyddi allweddol i gyflawni rhai o argymhellion yr adolygiad ar dâp a rhwyll y wain. 

Mae'r Grŵp Gweithredu wedi gwrando ar bryderon Grŵp Goroeswyr  Rhwyll Cymru, ac wedi penderfynu penodi rheolwr llwybr cenedlaethol i gyflawni argymhellion yr adolygiad ar dâp a rhwyll y wain drwy arwain y gwaith o greu rhwydwaith o Gydgysylltwyr Iechyd a Llesiant Pelfig o fewn pob bwrdd. Bydd ganddynt gefndir clinigol mewn disgyblaeth briodol e.e. ffisiotherapi neu reoli poen a byddant yn gweithio gyda'r arweinydd cenedlaethol i gyflawni'r newidiadau gofynnol i wasanaethau lleol.

Mae'r grŵp hefyd yn cymryd cyngor gan gleifion a chlinigwyr ynghylch sut i sicrhau darpariaeth gyson o sganiau trawslabia, lle y bo hynny'n briodol, ar draws Cymru. 

Yn olaf, rwyf hefyd wedi nodi wrth Gadeirydd y Grŵp Gweithredu ar gyfer Iechyd Menywod y dylai'r grŵp ddechrau ystyried yr argymhellion o'r adroddiad i wasanaethau endometriosis  yng Nghymru a luniwyd gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Endometriosis dan gadeiryddiaeth Mr Richard Penketh, gynaecolegydd ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Rwy'n disgwyl y bydd dulliau tebyg yn cael eu defnyddio wrth reoli endometriosis a'r problemau sy'n deillio o ddefnyddio tâp a rhwyll y wain, felly mae'n briodol bod y Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod yn ystyried y ddau beth.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.