Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mae Llywodraeth y DU heddiw wedi cyhoeddi’r ffigurau diweddaraf ar gyfer nifer y bobl o Wcráin sydd wedi cael fisâu i ddod i Gymru o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin.
Maent yn dangos bod 1,500 o fisâu wedi cael eu rhoi hyd yma i bobl â noddwr o Gymru; 1,100 wedi’u noddi gan unigolion yng Nghymru a 390 wedi’u noddi gan Lywodraeth Cymru fel uwch-noddwr.
Mae nifer y bobl sydd wedi gwneud cais i ddod i Gymru drwy’r cynllun Cartrefi i Wcráin – a thrwy’r cynllun uwch-noddwr – yn cynyddu.
Mae’r amser y mae’n ei gymryd i roi fisâu a chymhlethdod y system bresennol y mae disgwyl i bobl Wcráin ei dilyn cyn gallu dod i’r DU yn faterion yr wyf wedi eu codi yn fy nghyfarfodydd rheolaidd gyda’r Gweinidog Ffoaduriaid, yr Arglwydd Harrington. Mae wedi dweud wrthyf ei fod yn disgwyl i Lywodraeth y DU gyflymu’r amser prosesu fisâu i 48 awr.
Mae pobl o Wcráin yn cael llety mewn canolfannau croeso ym mhob cwr o Gymru ac yn derbyn cefnogaeth gofleidiol. Maent hefyd yn cael eu croesawu i gartrefi ar draws Cymru gan bobl sy’n gweithredu fel noddwyr a’u teuluoedd.
Mae llinell gymorth rhad ac am ddim i noddwyr ar gael rhwng 8am a 8pm ar 0808 175 1508.
Gall gwladolion Wcráin a’u teuluoedd sydd angen cymorth a chyngor ffonio 0808 164 8810 os ydyn nhw yn y DU neu +44 808 164 8810 os ydyn nhw y tu allan i’r DU.
Mae Cymru’n estyn croeso cynnes i bobl o Wcráin ac, fel Cenedl Noddfa, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pawb sy’n dod i Gymru.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn fwy na pharod i wneud hynny.
Byddaf yn gwneud datganiad i’r Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth.