Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Heddiw, rwy'n cyhoeddi datganiad ysgrifenedig am y gefnogaeth sydd ar gael i bobl sy'n cyrraedd o Wcráin i Gymru, er mwyn sicrhau bod yr Aelodau'n cael y wybodaeth ddiweddaraf.
Ar 10 Mehefin, fe gafodd ceisiadau newydd drwy'r llwybr uwch-noddwr, sy'n rhan o'r cynllun Cartrefi i Wcráin, eu hatal dros dro. Ymrwymwyd i adolygu'r penderfyniad hwnnw ddiwedd mis Mehefin.
Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi llawer mwy o bobl o dan y llwybr uwch-noddwr nag yr oeddem yn wedi disgwyl i ddechrau – roeddem wedi ymrwymo yn y lle cyntaf i alluogi 1,000 o bobl i ddod i Gymru; hyd yma, mae dros 4,000 o fisâu wedi'u cyhoeddi drwy'r llwybr uwch-noddwr. Mae dyletswydd arnom i sicrhau bod pob person yn cael llety a chymorth o ansawdd da wrth iddynt gyrraedd Cymru fel y gallant integreiddio â chymunedau lleol yn ystod eu hamser yma. Mae ceisiadau sydd eisoes wedi'u gwneud yn parhau i gael eu prosesu ac, unwaith y caiff fisas eu cadarnhau, gall unrhyw un sydd wedi derbyn un ddod i Gymru.
Rydym yn gweithio'n galed iawn gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol i letya a chefnogi pobl o Wcráin wrth iddynt gyrraedd Cymru. Gyda'n gilydd rydym yn sefydlu ac yn agor canolfannau croeso newydd ac yn darparu cymorth mewn llety arall sy'n cael ei ddefnyddio i letya'r nifer fawr o bobl sy'n cyrraedd o'r Wcráin bob wythnos. Rydym bellach wedi agor chweched canolfan groeso ac rydym yn lletya pobl mewn gwestai a llety o fath arall ledled Cymru; bydd canolfannau croeso ychwanegol yn agor yn ystod mis Gorffennaf.
Bydd ceisiadau newydd drwy’r cynllun uwch-noddwr yn parhau i gael eu hatal wrth i ni weithio gyda phartneriaid i helpu pobl o Wcráin i symud ymlaen o’r canolfannau croeso i lety tymor hwy mewn cymunedau ledled Cymru. Rydym yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol, y GIG a'r trydydd sector i sicrhau bod pobl sy'n cyrraedd drwy'r llwybr uwch-noddwr yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt i ymgartrefu yng Nghymru a symud ymlaen i lety priodol.
Rydym yn sicrhau na fydd unrhyw un yn symud i lety arall yr ydym wedi'i drefnu hyd nes y bydd yr holl wiriadau diogelu wedi'u cwblhau. Mae cefnogi'r broses hon o adnabod, gwirio a symud ymlaen yn waith sylweddol i ni, a bydd yn parhau felly yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mae sicrhau bod pobl yn llifo’n briodol o'n canolfannau croeso i lety dilynol yn hanfodol er mwyn sicrhau y gallwn fanteisio i'r eithaf ar y cymorth sydd ar gael. Er mwyn galluogi hyn, rydym wedi sefydlu contractau cenedlaethol i helpu llywodraeth leol i gynnal gwiriadau DBS ac archwiliadau eiddo. Rydym wedi rhannu manylion aelwydydd yng Nghymru sydd wedi mynegi diddordeb mewn croesawu pobl o Wcráin ac mae awdurdodau lleol wedi bod yn gweithio eu ffordd drwy'r cynigion hyn cyn gynted â phosibl i nodi lleoedd llety addas.
Pan ddechreuodd y rhyfel, gwelsom lawer iawn o gefnogaeth i bobl Wcráin gyda miloedd o bobl yn dod ymlaen i gofrestru eu cefnogaeth i ddarparu cartref. Nawr mae angen i ni ofyn i'r cyhoedd a landlordiaid ddod ymlaen i gynnig croesawu pobl o Wcráin. Byddwn yn gofyn cyn hir i aelwydydd a landlordiaid gofrestru eu diddordeb drwy ein gwefan.
Rydym am sicrhau bod pawb sy'n cymryd rhan yn y cynllun Cartrefi i Wcráin fel lletywyr neu noddwyr yn deall yn iawn yr hyn y maent yn ymrwymo iddo, a bod lletywyr yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt. Rydym yn cyllido Housing Justice Cymru i sicrhau y bydd sesiynau gwybodaeth, sesiynau hyfforddi a sesiynau cymorth cymheiriaid yn cael eu trefnu ar gyfer y rhai sy'n cefnogi'r cynllun hwn yng Nghymru. Bydd y gwasanaeth ar gael yn fuan.
Un o'r prif heriau i letywyr a phobl o Wcráin yw mynediad at gyngor a chymorth arbenigol. Rydym felly wedi ariannu'r gwaith o ehangu ein Gwasanaeth Noddfa Cymru presennol – consortiwm dan arweiniad Cyngor Ffoaduriaid Cymru – i sicrhau bod ganddynt ddigon o adnoddau i gefnogi Wcreiniaid sy'n cyrraedd ledled Cymru. Bydd y gwasanaeth yn darparu cyngor a chymorth eiriolaeth i unrhyw Wcreiniaid sydd angen cymorth. Bydd hefyd yn darparu grŵp cymorth cymheiriaid i Wcreiniaid. Gobeithiwn y bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei groesawu gan y rhai sy'n ei chael yn anodd dod o hyd i'r cyngor cyflym sydd ei angen arnynt.
Rwyf eisoes wedi codi'r mater o anghysondeb Llywodraeth y DU yn darparu cyllid ar gyfer y cynllun Cartrefi i Wcráin ond nid i aelwydydd sy'n ymwneud â’r Cynllun Teuluoedd o Wcráin. Rwyf hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith, yn wahanol i gynlluniau blaenorol, nad oes cyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer gwasanaethau iechyd nac ar gyfer darpariaeth Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu'r holl gyllid ar gyfer lletya pobl o Wcráin wrth iddynt gyrraedd Cymru a chyn iddynt symud ymlaen i'r llety nesaf. Rydym hefyd wedi penderfynu sicrhau y bydd unrhyw letywr sy'n cymryd rhan yn y Cynllun Teuluoedd o Wcráin yn ffurfiol drwy'r awdurdod lleol yn derbyn y taliad diolch o £350 y mis ar ôl pasio’r holl wiriadau angenrheidiol. Bydd hyn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Er na allwn obeithio llenwi'r holl fylchau, rydym wedi partneru â'r Groes Goch Brydeinig i ariannu'r gwaith o ymestyn ei wasanaeth integreiddio llwyddiannus i deuluoedd sy'n ffoaduriaid i gynnwys teuluoedd o Wcráin sy’n dod yn ôl at ei gilydd. Bydd y gwasanaeth yn darparu cymorth a chyfeiriadedd diwylliannol i deuluoedd y gallwn eu hadnabod sydd wedi cyrraedd o dan y llwybr hwn.
Rydym yn gwybod bod llawer o gymunedau, grwpiau'r trydydd sector a sefydliadau eraill wedi ymgynnull i ddarparu cymorth a chefnogaeth ymarferol mewn cymunedau. Rydym yn gwybod bod pobl o Wcráin sy'n cyrraedd Cymru eu hunain yn ffurfio cysylltiadau â'i gilydd a chyda chymunedau yng Nghymru ac yn cefnogi ei gilydd.
Mae sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach ac awdurdodau lleol Cymru wedi bod yn gweithio'n galed i ddarparu mynediad at Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, gan gynnwys yn ystod gwyliau'r haf. Rydym wedi darparu dros £7m i gefnogi Haf o Hwyl i bob plentyn a pherson ifanc rhwng 0 a 25 oed eleni, gan weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid cenedlaethol. Mae'r gweithgareddau hyn, sy'n rhad ac am ddim i bawb sy'n cymryd rhan, yn agored i blant a theuluoedd o Wcráin a'r holl blant a theuluoedd sy'n ceisio noddfa. Mae ystod eang o weithgareddau wedi'u cynllunio ledled Cymru gan gynnwys darpariaeth chwarae mynediad agored, amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon ar gyfer pob oedran, gweithgareddau celf a chrefft, dawns, cerddoriaeth, grwpiau darllen a llawer mwy. Mae gwybodaeth am y gweithgareddau hyn ar gael ar wefannau awdurdodau lleol.
Cawsom ein syfrdanu gan haelioni pobl Cymru a'r cynigion o gefnogaeth i bobl Wcráin. Mae pobl yn dal i holi sut y gallant helpu pobl Wcráin. Y ffordd fwyaf ymarferol o helpu pobl yw cynnig cymorth ariannol, er mwyn iddynt fedru gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Mae hyn yn rhoi urddas iddynt. Os yw pobl mewn sefyllfa i gyfrannu arian, rydym yn annog y cyhoedd a busnesau i gyfrannu at Gronfa Croeso Cenedl Noddfa Sefydliad Cymunedol Cymru.
Mae'r gronfa yn gwahodd ceisiadau gan sefydliadau sy'n gweithio gyda cheiswyr noddfa yng Nghymru ac mae eisoes wedi gwneud ei thaliad cyntaf gyda nifer o rai eraill yn cael eu hasesu ar hyn o bryd.
Mae ein llinell gymorth ar gael i noddwyr ac i bobl o Wcráin. Gall noddwyr yng Nghymru ffonio'r llinell gymorth am ddim ar 0808 175 1508 am gyngor.
Ar gyfer gwladolion Wcráin a'u teuluoedd, mae cymorth i wneud cais i ddod i'r Deyrnas Unedig ar gael drwy ffonio +44 808 164 8810 (y tu allan i'r DU) neu gall pobl ffonio 0808 164 8810 os ydynt yn y DU. Os na allwch gysylltu â rhifau 0808 y DU ffoniwch +44 (0)175 390 7510.
Byddaf yn parhau i roi gwybodaeth reolaidd i'r Aelodau.