Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Diben y Datganiad hwn yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu sy'n gysylltiedig â dur.

Ar 11 Chwefror 2019, roeddem yn hynod falch o glywed mai Prifysgol Abertawe oedd wedi'i phenodi i arwain prosiect gwerth £35 miliwn o'r enw SUSTAIN i wneud gwaith ymchwil ac arloesi ym maes cynhyrchu dur a'r gadwyn gyflenwi dur er mwyn sicrhau bod y diwydiant yn gynaliadwy yng Nghymru ac yn y DU. Mae'r prosiect hwn yn cael ei gefnogi â buddsoddiad o £10 miliwn oddi wrth y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, ac mae gweddill y cyllid yn dod oddi wrth gwmnïau dur, oddi wrth bartneriaid mewn prifysgolion, cyrff masnach a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae Tata, Celsa a Liberty Steel i gyd yn bartneriaid sy'n rhan o'r rhwydwaith.

Mae'r cyllid hwn yn adeiladu ar fuddsoddiad o dros £2 filiwn gan Lywodraeth Cymru i sefydlu'r Sefydliad Dur a Metelau (SaMI), a agorodd ym mis Chwefror 2018, ym Mhrifysgol Abertawe. Ymhlith rhai o amcanion eraill ein buddsoddiad yn SaMI oedd sefydlu Cymru yn un o brif ganolfannau ymchwil y DU ym maes dur a metelau, a helpu i ysgogi ac i sicrhau rhagor o fuddsoddiad oddi wrth ffynonellau ehangach ym maes llywodraeth ac ym myd diwydiant. Ers i'r Sefydliad gael ei lansio, mae hefyd wedi cael swm o £3 miliwn oddi wrth Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) er mwyn canolbwyntio ar brosesu dur mewn ffordd glyfar ac ar gynhyrchion gwerth uchel fel cerbydau sy'n rhedeg ar drydan, adeiladau sy'n effeithlon o ran ynni, a deunyddiau pacio cynaliadwy. Hoffem longyfarch Prifysgol Abertawe am fynd ati i wireddu'r uchelgais hwnnw drwy'r cyllid y mae wedi'i ddenu ers hynny.

Datgarboneiddio sydd wrth wraidd ein Cynllun Gweithredu newydd ar yr Economi. Y sector diwydiannol oedd i gyfrif am 29% o allyriadau Cymru yn 2016. Y prif ddiwydiannau sy'n creu allyriadau yng Nghymru yw’r diwydiannau cynhyrchu haearn a dur a phuro petrolewm. Mae mwy a mwy o sylw yn cael ei hoelio gan y diwydiant dur a chan Lywodraeth Cymru ar bwysigrwydd datgarboneiddio. Mae'n ofynnol o dan y gyfraith inni leihau'n hallyriadau o leiaf 80% erbyn 2050 ac er mwyn cyrraedd y nod hwnnw, bydd yn rhaid wrth newidiadau mawr iawn i'n ffordd o fyw a’n ffyrdd o weithio.

Bydd y Sefydliad Dur a Metelau ym Mhrifysgol Abertawe yn dod â'r byd diwydiannol a'r byd academaidd at ei gilydd i weithio ar heriau cyffredin, i ddatblygu cynhyrchion yn gyflym ac i sicrhau bod busnesau'n gwneud mwy o waith ymchwil a datblygu. Mae'r Sefydliad yn adnodd gwerthfawr y gall cwmnïau fanteisio arno er mwyn datblygu a phrofi cynhyrchion a phrosesau newydd y gellir eu defnyddio yn y maes modurol, ym maes adeiladu, deunyddiau pacio, duroedd trydanol, peiriannau codi a chloddio, ynni a phŵer, ac awyrofod. Gall cwmnïau hefyd ddefnyddio’r Sefydliad i edrych ar ddatgarboneiddio. 

Mae hyn yn ychwanegol at y llwyddiannau eraill y mae Prifysgol Abertawe wedi'u profi yn ystod y 12 mis diwethaf sy'n cryfhau ei chysylltiadau â'r diwydiant dur a'r diwydiant deunyddiau uwch yng Nghymru.

Mae'r Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol wedi rhoi statws Canolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Deunyddiau Araenu i’r Brifysgol. Doethuriaethau mewn peirianneg yw'r rhain sy'n cael eu noddi gan ddiwydiant ac sy'n adeiladu ar gyllid Ewropeaidd (Cronfa Gymdeithasol Ewrop) sydd wedi cael ei fuddsoddi eisoes yn yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A). Maent yn cynnig hyfforddiant lefel uchel mewn meysydd arloesol fel modelu ac araenu. Mae cyllid Ewropeaidd yn golygu bod y Brifysgol yn gallu cynnig lleoedd i ragor o raddedigion eleni. Yn hanesyddol, mae unigolion sydd â Doethuriaethau mewn Peirianneg wedi mynd yn eu blaen i gael swyddi ar lefel uwch ym myd diwydiant, ac amcangyfrifir bod 120 ohonynt yn gweithio yn Ne Cymru erbyn hyn.

Mae Tata wedi bod yn cydweithio hefyd â Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol Warwick, gan fanteisio ar werth £7 miliwn o gyllid ar gyfer Partneriaeth Ffyniant er mwyn defnyddio

rhith-ffatrïoedd i brofi ffyrdd o wneud dur. Mae Partneriaethau Ffyniant yn ffordd arloesol a fabwysiadwyd gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol o fuddsoddi ar y cyd â busnesau mewn ymchwil sylfaenol hirdymor sy'n cael ei hysbrydoli gan gymwysiadau posibl. Mae'r prosiectau ymchwil cydweithredol hyn, a fydd yn cael eu cynnal dros gyfnod o bum mlynedd, yn werth miliynau lawer o bunnoedd ac yn gysylltiedig â phynciau o bwysigrwydd cenedlaethol a byd-eang. Fe'u crëwyd ar y cyd gan rai o brifysgolion mwyaf blaenllaw'r UE a chan fusnesau sydd â phresenoldeb cryf ym maes ymchwil yn y DU.

Gyda'i gilydd, mae'r mentrau hyn yn cynnig adnoddau helaeth i Gymru ac maent yn atgyfnerthu'n sefyllfa fel rhanbarth sydd â'r gallu i wneud gwaith ymchwil blaengar ym maes dur a metelau, gan helpu i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i’r sector.

Mae'n hanfodol bod y cyfleusterau ymchwil hyn ar gael i ddiwydiant, ac yn cael eu defnyddio ganddo, os ydynt am barhau'n gynaliadwy ac os ydym am weld buddsoddiad cyhoeddus yn cael ei droi'n werth economaidd. Mae SaMI yn cael ei redeg ar ffurf cyfleuster mynediad agored, a'r bwriad yw iddo ennill contractau hirdymor gyda phartneriaid ymchwil ddiwydiannol a hefyd gontractau ad hoc gyda chwmnïau, gan gynnwys busnesau bach a chanolig.  Rydym yn gweithio gyda Diwydiant Cymru i edrych ar sut y gallwn helpu Prifysgol Abertawe i hyrwyddo SaMI a chyfleusterau a rhwydweithiau eraill, gan gynnwys SUSTAIN, ymhlith busnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Ymhlith y mentrau ehangach ym Mhrifysgol Abertawe sydd hefyd yn berthnasol i'r sector dur y mae sefydliad ymchwil peirianneg o'r enw IMPACT, sy'n werth £35 miliwn, prosiect gwerth £22.7 miliwn ar Dechnolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy o'r enw ASTUTE, a phrosiect gwerth £9.2 miliwn o'r enw RICE, sy'n edrych ar leihau allyriadau carbon diwydiannol.  Mae'r holl brosiectau hyn wedi cael eu cefnogi gan gyllid Ewropeaidd drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.

Mae'r rhain i gyd yn ychwanegol at brosiectau eraill, yn enwedig FLEXIS, sy'n edrych ar Systemau Ynni Integredig Hyblyg. Mae'r prosiect hwn yn cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd, sy'n cydweithio'n uniongyrchol â Tata i ddatblygu syniadau a fydd, yn y tymor hir, yn lleihau allyriadau ac yn gwella effeithlonrwydd y gweithfeydd o ran ynni.

Mae lefel y cyllid y mae Gymru wedi’i sicrhau oddi wrth Innovate UK wedi codi'n sylweddol, o £6.6 miliwn yn 2011 i gyfanswm o £159 miliwn.  Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Cronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol wedi gweld 36 o brosiectau llwyddiannus o Gymru, ar draws ystod o dechnolegau a sectorau, sy'n werth cyfanswm o £44 miliwn. Cafodd Prifysgol Abertawe £36 miliwn i sefydlu Canolfan Adeiladau Ynni Gweithredol yn Abertawe, ac mae’r ganolfan hon yn defnyddio profiad a gwybodaeth arloesol SPECIFIC am 'adeiladau ynni gweithredol'. Prifysgol Abertawe sy’n arwain SPECIFIC, ac mae Tata yn bartner strategol. Bydd y Ganolfan Adeiladau Ynni Gweithredol yn sbarduno’r cysyniad hwn, drwy weithio ar brosiectau arddangos a chan helpu i greu diwydiant newydd.

Rydym yn cydweithio'n agos â busnesau a phrifysgolion yng Nghymru a chydag Innovate UK i gael gafael ar gyllid sydd ar gael oddi wrth Innovate UK a Strategaeth Ddiwydiannol y DU.  Rydym yn codi ymwybyddiaeth am gyfleoedd cyllido ac yn cynnal digwyddiadau briffio yn rheolaidd er mwyn dod â diwydiant a phrifysgolion at ei gilydd ac er mwyn creu consortia.  Byddwn yn parhau i weithio gyda sefydliadau i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hyn i ddenu cyllid.

Rhywbeth arall sy'n hollbwysig i lwyddiant y mentrau hyn ac i ddyfodol y diwydiant dur yng Nghymru yw gweithlu crefftus, brwdfrydig, sy'n gallu defnyddio'r technolegau gweithgynhyrchu newydd hyn ac sy’n croesawu arloesedd ym maes cynhyrchu. Drwy gefnogi ein hysgolion, ein colegau a’n rhaglenni prentisiaeth, rydym yn gweithio i greu'r gweithlu crefftus hwn sy'n gallu addasu yn ôl y galw. Rydym yn buddsoddi £116 miliwn i ddarparu prentisiaethau yn ystod blwyddyn gontract 2018/19, ac rydym yn parhau ar y trywydd iawn i wireddu’n hymrwymiad o sicrhau 100,000 o brentisiaethau o safon ar gyfer pobl o bob oedran erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn yn 2021. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn prentisiaethau ar lefel Uwch a lefel Gradd, yn enwedig yn y meysydd gwyddonol, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), ac mewn meysydd technegol a fydd yn mynd i'r afael â'r bylchau o ran sgiliau technegol ar lefelau 4 a 5 (sy'n cyfateb i HNC/gradd). Bydd prentisiaeth ar lefel gradd mewn Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch hefyd ar gael i gyflogwyr o fis Ebrill 2019 ymlaen.

Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi cydnabod pwysigrwydd y sector dur i economi Cymru, a'i rôl fel buddsoddwr allweddol mewn hyfforddiant ac ymchwil a datblygu. Rydym yn falch bod ein gweledigaeth ar gyfer y sector dur wedi datblygu mor gyflym. Mae wedi dod yn enghraifft o sut y bydd ffordd Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael ag arloesi a chydweithio o fudd i'n busnesau, i’n prifysgolion ac i'n pobl.

O ystyried y buddsoddiad sylweddol y mae Llywodraeth Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru wedi ei wneud mewn rhaglenni ymchwil sy’n berthnasol i’r sector, mae gennym hefyd y potensial i ddod yn arweinydd byd-eang mewn arloesi ym maes dur a metelau. Mae'n hanfodol bod y diwydiant yn parhau i wneud defnydd llawn o'r buddsoddiadau hyn, drwy gydweithio â'r sector Prifysgolion i ddatblygu seilwaith ymchwil cynaliadwy.