Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyn toriad yr haf, rydw i am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am waith y Grŵp Rhyngweinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol, a sefydlwyd i ystyried sut rydym yn ymateb i'r angen cynyddol - a'r gost gynyddol - sy'n gysylltiedig â gofal cymdeithasol.   

Cafodd y Grŵp ei sefydlu yn benodol i edrych ar ddichonoldeb cyflwyno ardoll, neu opsiwn arall, i godi cyllid ychwanegol yn y tymor canolig i'r tymor hir i helpu i fodloni'r galw cynyddol, gan ddefnyddio syniad yr Athro Gerry Holtham ar gyfer ardoll, fel sylfaen. Bydd y Grŵp hefyd yn edrych ar sut rydym yn darparu'r gwasanaethau gofal cymdeithasol rydym am eu gweld, fel y'u nodir yn nogfen Cymru Iachach.

Rwy'n gadeirydd ar y Grŵp, sy'n cynnwys y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'n cael ei gefnogi gan swyddogion polisi perthnasol. Bydd yn cynnal asesiad cychwynnol erbyn dechrau 2020 am ba mor hyfyw ac effeithiol fyddai cyflwyno ardoll neu opsiwn arall, fel ffordd o godi arian i gyfrannu at y cyllid ychwanegol y bydd ei angen ar ofal cymdeithasol.

Dros y chwe mis diwethaf, mae'r Grŵp wedi comisiynu tri darn o ymchwil i ddarparu sylfaen gadarn o dystiolaeth i lywio ei benderfyniadau. 

Y cyntaf oedd i gynnwys cyfres o gwestiynau am ofal cymdeithasol yn yr arolwg omnibws rheolaidd, a gynhelir gan Lywodraeth Cymru.

Dangosodd y canlyniadau, er bod gan y mwyafrif o bobl (70%) a gafodd eu cyfweld bryderon am y gofal cymdeithasol y gallai fod ei angen arnynt yn y dyfodol - y gost, yr ansawdd a faint fydd ar gael - llai na hanner (42%) oedd yn gwneud unrhyw ddarpariaeth erbyn y byddant yn hŷn. Dangosodd yr arolwg o 1,000 o bobl hefyd fod mwy na 70% yn credu y dylai pobl wneud darpariaeth erbyn y byddant yn hŷn pan fyddant yn ifanc ac yn gweithio, ond dim ond 27% oedd yn cynilo ar gyfer y gofal cymdeithasol y gallai fod ei angen arnynt yn y dyfodol.

Yn olaf, daeth yr arolwg i'r casgliad mai dim ond chwarter o bobl (27%) oedd yn teimlo eu bod yn gwybod llawer am y system gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r canlyniadau hyn yn cadarnhau bod angen gwella dealltwriaeth pobl o ofal cymdeithasol yng Nghymru ac annog pobl i gynllunio ar gyfer y gofal y gallai fod ei angen arnynt yn y dyfodol.

Mae canlyniadau'r arolwg ar gael yn: https://llyw.cymru/talu-am-ofal-ymchwil-mawrth-2019

Bydd yr ail ddarn o ymchwil yn nodi'r galw a'r pwysau ariannol, a maint y galw a'r pwysau hynny, mewn perthynas â darparu gofal cymdeithasol yn y tymor byr i'r tymor canolig. Bydd hwn ar gael i'r Grŵp Rhyngweinidogol yn ddiweddarach yn yr haf, a bydd yn cyfrannu at ei waith yn y cyfamser tra ei fod yn ystyried yr opsiynau ar gyfer y dyfodol.

Bydd y trydydd darn o ymchwil yn dadansoddi'r gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y tymor canolig i'r tymor hir, a'r berthynas rhwng y ddau.

Dros y chwe mis diwethaf, bydd blaenoriaethau'r Grŵp yn cynnwys codi proffil a chynyddu dealltwriaeth o ofal cymdeithasol, a gwneud gwaith pellach i ystyried a mireinio'r opsiynau ar gyfer ardoll neu ddull ariannu arall i dalu am ofal cymdeithasol.

Mae gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio yn her, ac yn un y mae gwledydd ledled y byd yn ei hwynebu. Mae'n bwysig ein bod yn dechrau'r sgwrs nawr ac yn gweithio gyda'n gilydd i edrych ar sut fodel fydd y model gofal cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol.

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau yn yr hydref wrth i waith y Grŵp ddatblygu.