Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Ddydd Gwener diwethaf, cyhoeddodd Tata Steel a Thyssenkrupp nad ydynt yn disgwyl i'r Comisiwn Ewropeaidd gymeradwyo'r fenter a gynigiwyd ganddynt i gyfuno eu busnesau dur yn Ewrop. Siaradais â Tor Farquhar, Cyfarwyddwr Gweithredol Tata Steel Europe yn ogystal â chynrychiolwyr undebau llafur ddydd Gwener yn dilyn y cyhoeddiad a byddaf yn parhau i weithio'n agos gyda Tata i drafod sut y gallwn gefnogi'r cwmni yn y ffordd orau yng ngoleuni'r datblygiad diweddaraf hwn.
Ysgrifennais at y Gwir Anrhydeddus Greg Clarke, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, yr Economi a Strategaeth Ddiwydiannol ddydd Gwener a siaradais ag ef yn bersonol ddoe i ddeall sut y gall y DU gefnogi gwaith cynhyrchu dur yng Nghymru ac ar draws y DU yn dilyn y newyddion hyn.
Dyma gyfnod pryderus i'r rheini sy'n gweithio yn y diwydiant dur yng Nghymru. Gwnaeth Llywodraeth Cymru gefnogi ein diwydiant dur drwy argyfwng 2016, ac felly rwyf am egluro i'r aelodau y byddwn yn cydweithio unwaith eto â'r diwydiant, ei gadwyn gyflenwi ac undebau llafur cydnabyddedig i gefnogi ein gweithwyr dur a'u cymunedau drwy'r cyfnod pwysig nesaf hwn.
Fel y cydnabuwyd gan yr undebau llafur, bydd yn bwysig bod Tata Steel yn cael cyfle i adlewyrchu ar y camau nesaf a bod rhanddeiliaid Tata Steel Europe yn pwyllo wrth wneud penderfyniadau ar y dyfodol ac yn parhau i drafod yn llawn gyda chynrychiolwyr gweithwyr. Mae hefyd yn bwysig bod y cwmni yn parhau i fwrw ymlaen â'i gynllun trawsnewid ar gyfer Tata Steel UK, ac yn buddsoddi ynddo. Rwyf wedi egluro i Tata ei bod yn bwysig bod ei weithrediadau yng Nghymru yn parhau ac y byddaf yn gweithio gyda'r cwmni i ddiogelu swyddi ac i sicrhau bod cynhyrchiant yn parhau yma yng Nghymru.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n helaeth i gefnogi'r diwydiant mewn meysydd allweddol megis sgiliau, a gwaith ymchwil a datblygu. Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod pa mor bwysig y bu’r ymrwymiadau hynny.
Yn ystod ymweliad diweddar gyda Phrif Weinidog Cymru â'r gwaith dur ym Mhort Talbot i ddathlu'r buddsoddiad mawr a wnaed mewn ail-leinio Ffwrnais Chwyth 5, roedd Tata ei hunan wedi cydnabod y rôl y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chwarae o ran cefnogi'r diwydiant drwy'r blynyddoedd anodd diwethaf. Fodd bynnag, mae'n hanfodol bellach bod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda ninnau, Tata, undebau a'n partneriaid yn y sector dur ehangach i'n helpu wrth inni gymryd y camau nesaf.
Wrth siarad â'r Ysgrifennydd Gwladol, esboniais wrtho fy mod yn teimlo bod dau faes lle y gallai Llywodraeth y DU ddarparu cymorth ystyrlon yn fuan. Yn gyntaf, o ran bwrw ymlaen ar frys â Chytundeb cynhwysfawr ar gyfer y Sector Dur a all osod sylfeini i greu diwydiant cynaliadwy ar gyfer y dyfodol ar draws y DU.
Yn ail, o ran lleihau costau ynni a datgarboneiddio. Mae dur yn hollbwysig i sawl diwydiant yn y DU, gan gynnwys y sector adeiladu a'r sector modurol. Mae cynhyrchu haearn a dur yn defnyddio llawer iawn o ynni ac un o'r prif heriau yw sicrhau bod y sector yn dod o hyd i ffordd gynaliadwy o leihau costau ynni ar gyfer y diwydiant. Credaf fod yna ffordd y gallwn wneud hynny drwy helpu'r diwydiant i ddatgarboneiddio ei brosesau gweithgynhyrchu yn y mannau hynny lle y mae'n bosibl yn dechnegol ac yn economaidd, a hefyd drwy'r cynhyrchion y mae'n ei gweithgynhyrchu. I wneud hynny, mae angen cymorth Llywodraeth y DU arnom ar unwaith i leihau costau ynni ac i ddatgarboneiddio er mwyn sicrhau bod y diwydiant yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol ac i helpu i fynd i'r afael â’r her a wynebwn o ran newid hinsawdd.
Wrth ddatblygu dur cryfach, mae'n bosibl y gall diwydiannau gweithgynhyrchu sy'n dibynnu ar y dur hwn ddefnyddio llai ohono, er enghraifft, gall defnyddio dur uwch ysgafnach yn y diwydiant modurol leihau allyriadau carbon. Dur yw'r deunydd sy'n cael ei ailgylchu fwyaf yn y byd ac yn ôl Worldsteel, mae llai na 1% ohono yn mynd i safleoedd tirlenwi.
Mae Adroddiad 'Net Zero' y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd a gyhoeddwyd ar 2 Mai yn disgrifio llwybrau credadwy i ddatgarboneiddio prosesau. Yn bwysig, mae'r Pwyllgor yn nodi bod y senarios ar gyfer lleihau allyriadau diwydiannol y DU yn dibynnu ar gadw ein sylfaen ddiwydiannol a'i datgarboneiddio yn hytrach na throsglwyddo allyriadau i wledydd eraill (hy gollwng carbon). Ni fyddai gyrru diwydiant dramor yn helpu i leihau allyriadau byd-eang a byddai'n niweidiol i economi'r DU. Mae'r Pwyllgor yn cydnabod y bydd hynny'n golygu y bydd angen i ddefnyddwyr neu drethdalwyr ysgwyddo llawer o gost datgarboneiddio'r is-sectorau neu'r safleoedd diwydiannol cyhyd â bod yna risg y byddant yn gollwng carbon.
Cyhoeddodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, a minnau ddatganiad ar 26 Mawrth yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau ar waith ymchwil a datblygu ar gyfer y sector dur, gan gynnwys sawl menter yng Nghymru a luniwyd i helpu'r sector leihau ei allyriadau carbon.
Byddaf yn parhau i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad wrth i’r sefyllfa gyda Tata ddatblygu. Bwriadaf gwrdd â swyddogion gweithredol Tata Steel Europe yn yr Iseldiroedd cyn gynted â phosibl ac i gwrdd â'r Ysgrifennydd Gwladol, Greg Clark, i sicrhau bod modd bwrw ymlaen yn ddi-oed â Chytundeb trawsnewidiol ar gyfer y sector.