Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
Byddwn yn hysbysu Aelodau am ddatblygiadau wrth iddyn nhw godi.
Rydym yn dal i ddisgwyl wrth gwrs am ganlyniad llwyddiannus i Gynllun Pensiwn Dur Prydain.
Rydym wedi pwyso’n gyson ar Lywodraeth y DU i ostwng prisiau ynni. Roeddwn yn siomedig felly na chafwyd unrhyw beth yn natganiad yr Hydref i gefnogi’r diwydiant dur a diwydiannau trwm ar ynni yn y DU i fuddsoddi mewn mesurau i leihau eu costau ynni.
Mae ein Cynllun Diogelu’r Amgylchedd yn cynnig ffordd inni helpu diwydiannau trwm ar ynni i gynnal nifer o weithgareddau i ddiogelu’r amgylchedd. Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi'i gymeradwyo ac rydym felly’n cael rhoi grantiau i gwmnïau i gynnal gweithgareddau penodol heb fynd yn groes i ganllawiau cymorth gwladwriaethol yr UE. Rydym wrthi’n gweithio gyda nifer o gwmnïau dur ar brosiectau y gallem eu helpu trwy’r cyfrwng hwn.
Ar 10 Tachwedd, mewn partneriaeth ag Innovate UK a’r Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth, trefnwyd gweithdy Ymchwil a Datblygu Dur. Daeth dros 50 o bobl ynghyd, yn cynrychioli’r diwydiant dur, y gadwyn gyflenwi a defnyddwyr. Gofynnwyd am farn y diwydiant am farchnadoedd dur y dyfodol ac am yr Ymchwil a Datblygu sydd eu hangen i’r diwydiant allu trechu heriau heddiw ac yfory. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ystyried yr adborth a’r camau nesaf. Rydyn ni’n bwriadu i’r gwaith hwn borthi’r hyn sy’n cael ei wneud gan Gyngor Dur y DU i wella capasiti a gallu’r diwydiant dur yn y dyfodol.
Yn fy niweddariad diwethaf, esboniais ein bod yn ymchwilio i ffyrdd gwahanol o helpu’r cwmni, y cyfan o fewn y canllawiau ynghylch rhoi Cymorth Gwladwriaethol i’r sector dur. Rydym yn cydweithio’n glos ar y pecyn cymorth hwn a gallwch ddisgwyl cyhoeddiad gennym amdano maes o law.
Ar 28 Tachwedd, cyhoeddodd Tata Steel ei fod am arwyddo Llythyr o Fwriad gyda Liberty House Group i gychwyn trafodaethau gyda nhw ynghylch y posibilrwydd o werthu ei fusnes dur arbenigol. Mae Speciality Steels yn annibynnol ar yr adran UK Strip Products. Cyhoeddodd Tata hefyd ei fod yn dilyn cynllun gweddnewid i greu dyfodol cynaliadwy ar gyfer ei gynhyrchion stribedi yn y DU a’i fod wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer gwella’i alluoedd cynhyrchu a’i berfformiad amgylcheddol ar sawl safle yng Nghymru.
Yn y cyd-destun hwn, rwyf wedi ysgrifennu at Mr Ratan Tata i ofyn iddo esbonio beth mae’r newidiadau hyn yn ei olygu i waith Tata yn y DU, ac yn arbennig i’w safleoedd yng Nghymru. Rwyf wedi ailadrodd hefyd ymrwymiad llawn Llywodraeth Cymru i weithredu er lles sicrhau dyfodol cynaliadwy a hir dymor i’r diwydiant dur yng Nghymru.
Ar 24 Hydref, cyhoeddodd Tata Sons bod ei Fwrdd wedi penodi Ratan Tata yn Gadeirydd Dros Dro Tata Sons yn lle Cyrus Mistry, y Cadeirydd presennol. Mae Bwrdd Tata Sons wedi sefydlu Pwyllgor Dewis i ddewis Cadeirydd newydd gan ddisgwyl y daw’r broses hon i ben erbyn diwedd Chwefror. Mewn datganiadau i Gyfnewidfa Stoc India, cyhoeddodd Tata Steel ar 25 Tachwedd bod Mr O P Bhatt wedi’i benodi’n Gadeirydd ar Fwrdd y cwmni. Bydd Mr Bhatt yn gwasanaethu tan gyfarfod cyffredinol anghyffredin a gynhelir ar 21 Rhagfyr i ystyried newid Cyfarwyddwyr y cwmni. Materion i Tata Sons a Tata Steel yw’r rhain.
Rwyf wedi ymrwymo i roi gwybod i Aelodau am y diweddaraf am fy ngweithgareddau gyda Tata Steel a’i fusnes yng Nghymru, yn dilyn fy llythyr atoch ar 20 Hydref.