Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi ymrwymo i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau sy'n gysylltiedig â Tata Steel a’i fusnes yng Nghymru gyda'r Aelodau.

Heddiw, mae Tata Steel Ltd wedi cyhoeddi bod Tata Steel Limited a Thyssenkrupp AG wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i greu menter a fydd yn un o fentrau dur mwyaf blaenllaw Ewrop, drwy gyfuno’r busnesau dur gwastad sydd gan y ddau gwmni yn Ewrop a gwasanaethau melin ddur grŵp Thyssenkrupp. Byddai'r fenter arfaethedig – Thyssenkrupp Tata Steel – yn cael ei rhannu 50:50 ac yn canolbwyntio ar ansawdd ac ar arwain ym maes technoleg. Byddai'n hoelio'i sylw hefyd ar gyflenwi cynhyrchion o'r radd flaenaf ac ar gynhyrchion a fyddai'n diwallu gofynion penodol cwsmeriaid, gan ddosbarthu rhyw 21 miliwn o dunelli o gynhyrchion dur gwastad bob blwyddyn.

Rydym yn rhoi croeso gofalus i'r cyhoeddiad, gan gydnabod y cyfleoedd a all ddod i ran y gweithfeydd yn y DU yn sgil creu'r cwmni dur mwyaf ond un yn Ewrop. Rydym hefyd yn cydnabod yr ymrwymiad i gadw'r rhwydwaith presennol o dair canolfan, gan gynnwys yr un ym Mhort Talbot.

Rwyf i a’r Prif Weinidog wedi siarad â Phrif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK, Bimlendra Jha, am y cyhoeddiad ar y fenter hon. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau’n gwbl ymrwymedig i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer y diwydiant dur. Yn ystod y trafodaethau rhyngom, cydnabuwyd unwaith eto fod cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru yn ffactor allweddol yn ein hymrwymiad ni’n dau tuag at gyrraedd y nod hwnnw.

Mae’n amlwg y bydd angen inni bellach sicrhau gwell dealltwriaeth o’r broses sydd o’n blaenau ac o’r goblygiadau ar gyfer y gweithferydd yng Nghymru, a byddwn yn gofyn i Tata Steel a Thyssenkrupp am ragor o fanylion. Ar yr un pryd, byddwn yn pwysleisio unwaith eto ein bod yn disgwyl iddynt barhau i fuddsoddi yn y gweithfeydd yng Nghymru ac mewn diogelu swyddi yng Nghymru.

Hyd yma rydym wedi cynnig £13m ar draws safleoedd Tata Steel yng Nghymru sy’n cynnwys cymorth â datblygu sgiliau, buddsoddi yng ngweithfa bŵer Tata yn Port Talbot er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni a lleihau allyriadau carbon, a chyllid ar gyfer ymchwil a datblygu er mwyn datblygu cynhyrchion newydd. Byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â Tata Steel o safbwynt y pecyn posibl o gymorth. Ac eithrio’r cyllid ar gyfer sgiliau sydd wedi’i gynnig hyd yma, bydd ein holl gymorth yn amodol ar gytuno ar fanylion amodau cyfreithiol. Bydd yr amodau hynny’n cynnwys ymrwymiadau o ran swyddi.

Er ein bod yn cydnabod arwyddocâd cyhoeddiad heddiw mae’n amlwg o hyd fod ffactorau ehangach yn parhau i effeithio ar gynaliadwyedd strategol sector dur y DU. Rydym yn galw unwaith eto ar Lywodraeth y DU i gymryd camau pendant am y materion hyn, gan gynnwys cost ynni.

Byddaf yn parhau i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau wrth i’r sefyllfa ddatblygu.