Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn ei ymateb yn ystod y ddadl ar “Gofal gydag Urddas?” ar 15 Mehefin cafwyd cadarnhad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y byddwn i’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y datblygiadau sy’n dal i ddigwydd gyda Southern Cross. Mae’r sefyllfa hon yn un sy’n newid yn gyflym.

Y tro diwethaf imi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau oedd ar 8 Mehefin; yn gyntaf pan atebais y cwestiwn brys gan Peter Black AC ar y mater hwn, ac yn ail, wrth gyflwyno Datganiad Ysgrifenedig i’r Aelodau yn sgil cyhoeddiad a wnaed gan Southern Cross yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw ar ei gynlluniau i gysoni telerau ac amodau ei staff.

Hoffwn ddatgan unwaith eto mai’r hyn sydd o’r pwys mwyaf i mi yw parhad y gofal a gynigir i’r bobl sy’n byw yng nghartrefi gofal Southern Cross. Mae’r cwmni wedi cadarnhau ei fod yn ailstrwythuro ac mae’n parhau i roi sicrwydd y bydd unrhyw newidiadau i’r trefniadau presennol yn digwydd mewn modd sy’n sicrhau parhad ac ansawdd y gofal a roddir i’w breswylwyr. Mae Southern Cross yn anfon y manylion hyn at yr Aelodau a’r awdurdodau lleol sydd ag un o gartrefi Southern Cross yn eu hardal hwy.

Byddwn yn dal i gynnal trafodaethau agos â’r cwmni ynghylch sut y bydd yn bwrw ymlaen â’r ailstrwythuro. Bydd AGGCC yn parhau i asesu a yw Southern Cross yn ysgwyddo’i gyfrifoldebau o ran sicrhau bod safonau gofal yn cael eu cynnal yn ei gartrefi yn ystod y broses hon. Ar yr un pryd, byddwn yn dal i ymgysylltu â llywodraeth leol a’r GIG i sicrhau bod cynlluniau wrth gefn yn eu lle os bydd angen hynny yn y pen draw.