Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae cynnal rhaglenni imiwneiddio yn flaenoriaeth allweddol i ddiogelu iechyd y cyhoedd rhag heintiau y gellir eu hatal. Ysgrifennodd y Prif Swyddog Meddygol at bob ymarferydd cyffredinol a bwrdd iechyd ym mis Mawrth i bwysleisio pwysigrwydd parhau â rhaglenni imiwneiddio i blant yn ystod yr ymateb i COVID-19 er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, nid yn unig yn ystod yr argyfwng, ond yn y dyfodol hefyd.
Mae data dros dro gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod nifer y babanod a oedd wedi cael eu brechu fel rhan o’r rhaglen imiwneiddio rheolaidd i blant, fel yr oedd y sefyllfa ym mis Mehefin 2020, yn sefydlog. Arhosodd nifer y babanod a gafodd ddos gyntaf o’r brechlyn 6 mewn 1 yn bedwar mis oed, y dos cyntaf o’r brechlyn MMR yn 13 mis oed a’r brechlyn 4 mewn 1 yn dair blwydd a phedwar mis oed o fewn yr ystod a gofnodwyd yn y misoedd cyn mis Mawrth 2020. Mae adroddiadau’n cadarnhau bod y mesurau diogelwch cryfach a roddwyd ar waith wedi cynnal hyder y cyhoedd a bod rhieni a gofalwyr wedi parhau i ddod â’u plant i apwyntiadau imiwneiddio. Bydd data llawn ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill i fis Mehefin 2020 yn cael eu cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru maes o law.
Cafodd rhai rhaglenni imiwneiddio eraill eu hatal dros dro er mwyn caniatáu i adnoddau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) gael eu defnyddio yn yr ymdrech i frwydro yn erbyn COVID-19. Roedd y rhain yn cynnwys rhaglenni ar gyfer plant oedran ysgol fel pigiadau atgyfnerthu ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau a brechlynnau yn erbyn y feirws papiloma dynol (HPV). Wrth i ysgolion ailagor, mae sesiynau ‘dal i fyny’ yn cael eu trefnu ar gyfer yr unigolion hynny sydd wedi methu â chael y brechlynnau hyn. Lle y bo hynny’n bosibl, mae rhai sesiynau yn cael eu cynnal cyn diwedd tymor yr haf, ond bydd y rhan fwyaf yn cael eu haildrefnu o fis Medi.
Cafodd y rhaglen frechu yn erbyn yr eryr ar gyfer unigolion rhwng 70 a 79 oed ei hatal dros dro ym mis Mawrth ond mae wedi ailddechrau ers dechrau mis Mehefin. Mae’r brechlyn niwmococol wedi parhau i fod ar gael ar gyfer oedolion sydd mewn perygl mawr, ac mae brechu mwy rheolaidd bellach yn bosibl.
Rwy’n annog pawb sy’n cael gwahoddiad i gael brechiad i fynd i’r apwyntiad pan gysylltir â nhw. Mae hyn yn cynnwys rhieni a gofalwyr babanod a phlant cyn oed ysgol, merched beichiog, plant oed ysgol ac oedolion sydd mewn perygl. Mae mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith i ddiogelu pobl sy’n mynd i gael eu brechu a’r staff nyrsio sy’n rhoi’r brechlynnau. Mae gweithdrefnau rheoli heintiau priodol yn cael eu dilyn. Bydd mynd i apwyntiadau yn parhau i fod yn bwysig yn nhymor yr hydref, pan fydd yr ymgyrch i frechu yn erbyn y ffliw tymhorol yn dechrau. Dylai pawb sy’n gymwys i gael brechiad rhag y ffliw gan y GIG deimlo’n hyderus am ei gael er mwyn diogelu eu hunain ac eraill o’u cwmpas.
Rwy’n sylweddoli na fyddai sicrhau bod nifer mawr o bobl yn parhau i gael eu brechu yng Nghymru yn bosibl heb gefnogaeth barhaus yr unigolion hynny sy’n cyflenwi’r rhaglenni hyn. Rwy’n cydnabod y gwaith arbennig sydd wedi cael ei wneud hyn yma wrth ymateb i’r heriau o weithio mewn ffyrdd newydd i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn y maes hanfodol hwn yn ystod yr argyfwng byd-eang.
Bydd Llywodraeth Cymru yn monitro faint o bobl sy’n cymryd rhan yn y rhaglenni imiwneiddio cenedlaethol yn agos gyda rhanddeiliaid allweddol y GIG er mwyn annog unigolion i gael eu brechu a’u galluogi i barhau i wneud hynny’n ddiogel.