Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fis Tachwedd y llynedd, cyhoeddais fwriad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi £500 miliwn yng ngham nesaf Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, gan ddefnyddio model dyrannu nad yw'n dosbarthu elw (NPD). Bydd y cam nesaf o fuddsoddi, sy'n ychwanegol i'r cyllid arloesol o £170 miliwn a ddaw o'r Fenter Benthyca Llywodraeth Leol, yn dechrau pan ddaw'r rhaglen bresennol i ben yn 2018-19.

Cynlluniwyd Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu addysg o'r radd flaenaf mewn lleoliadau o'r radd flaenaf i bob dysgwr yng Nghymru. Mae'r paratoadau ar gyfer yr ail gam buddsoddi hwn, gan gynnwys meithrin cysylltiadau agos ag Awdurdodau Lleol, CLlLC ac Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru, yn mynd rhagddynt yn dda. At hynny hefyd, mae buddsoddi yn yr ystad addysgol yn flaenoriaeth allweddol yng Nghynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru a bydd y cyllid newydd yr wyf innau wedi'i glustnodi yn helpu i sicrhau ein bod yn gallu parhau i fuddsoddi'n gyson a phriodol yn yr asedau hanfodol hyn dros y tymor hwy.  

Yn gynharach eleni, bu Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda Chanolfan Arbenigedd Partneriaeth Cyhoeddus-Preifat Ewropeaidd Banc Buddsoddi Ewrop i benderfynu ar opsiynau ar gyfer dylunio a chyflwyno'r Rhaglen. Tynnodd y Ganolfan Arbenigedd ar yr arferion gorau o bob cwr o Ewrop i ddod i amrywiol gasgliadau a gaiff eu defnyddio i ddylanwadu ar achos busnes y Rhaglen. Yn ogystal â hynny, rwyf hefyd wedi parhau i hyrwyddo'r cyfle a ddaw yn sgil y Rhaglen i ddenu cyllid Banc Buddsoddi Ewrop i Gymru. Wrth i'r Rhaglen ddatblygu, bydd fy nhrafodaethau i ar y mater hwn â Jonathan Taylor, Is-lywydd Banc Buddsoddi Ewrop, hefyd yn parhau.

Wrth inni symud i gam nesaf y datblygiad, mae'n hanfodol ein bod ni'n sicrhau bod y gallu gennym eisoes i gyflawni ein Rhaglen uchelgeisiol. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cael rhagor o adnoddau arbenigol i gefnogi gwaith i ddatblygu'r Rhaglen. Mae swyddogion yn gweithio'n agos â'u cydweithwyr yn Scottish Futures Trust, Infrastructure UK a Local Partnerships, gan ddod â phobl broffesiynol medrus ynghyd sydd â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad o ddefnyddio modeli cyllid arloesol yn y sector addysg.  Bydd y cydweithio hwn yn helpu i sicrhau bod yr hyn y byddwn yn ei fuddsoddi drwy Raglen NPD Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cynnig gwerth am arian ac yn gwella deilliannau addysgol yng Nghymru.  Yn y cyd-destun hwn, bydd y Rhaglen hefyd yn parhau i fod yn destun dull Achosion Busnes Gwell Llywodraeth Cymru, sy'n broses o gydweithio traws-lywodraethol a ddatblygwyd i fanteisio i'r eithaf ar y buddion y gellir eu cael drwy fuddsoddi.