Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Dyma ddatganiad i’r Aelodau am y diweddaraf am raglen Cyflymu Cymru.
Ar 22 Chwefror, lansiais y gyfnewidfa a’r cabinet cyntaf i fynd yn ‘fyw’ yng Nghymru heb fod o dan amodau masnachol. Bydd y cabinet band eang ffibr newydd ym Mangor yn gwasanaethu cannoedd o gartrefi a busnesau yn yr ardal. Mae cabinetau newydd yn cael eu gosod yn rhannau eraill y ddinas wrth i’r rhaglen i roi band eang ar waith fynd yn ei blaen.
Mae gwaith wedi dechrau hefyd, yn gynharach na’r disgwyl, yn yr wyth cymuned gyntaf yng Nghymru fydd yn elwa ar Cyflymu Cymru. Caiff tua 32,000 o fusnesau a chartrefi ym Mangor, Caernarfon, Dolgellau, Porthaethwy, Porthmadog, Pwllheli, Tredegar a Glynebwy eu cysylltu â thechnoleg y genhedlaeth nesaf. Mae’r cwsmeriaid cyntaf eisoes yn dechrau archebu.
Fel y gŵyr aelodau, mae’r rhaglen hon yn hwyr oherwydd yr anawsterau a gafodd Llywodraeth y DU i gael Cymeradwyaeth Cymorth Gwladwriaethol gan Ewrop ar gyfer ei Chynllun Band Eang Cenedlaethol. Rydym wedi cydweithio â’n partner BT i liniaru effaith yr oedi yng Nghymru. Mae’r argoelion ar hyn o bryd yn awgrymu y bydd gwaith eto i’w wneud yn 2016. Rwy’n benderfynol o gadw effaith yr oedi ar y rhaglen mor fach â phosib a sicrhau bod cymaint o fusnesau a chartrefi â phosib yn cael eu cysylltu.
Mae’n dda gennyf gadarnhau y bydd y gwiriwr codau post ar gael ar y wefan o ddiwedd Mawrth. Bydd yn gwiriwr yn galluogi pobl i weld a fyddant yn debygol o gael eu cysylltu â’r gwasanaeth yn ystod blwyddyn gynta’r rhaglen a phryd yn fras y bydd hynny’n digwydd. Byddwn yn dal i ddiweddaru’r cyfleuster wrth i’r rhaglen fynd yn ei blaen.
Mae rhaglen Cyflymu Cymru’n dangos ymrwymiad cadarn Llywodraeth Cymru i swyddi, hyfforddiant a thwf. Bydd BT yn recriwtio 100 o brentisiaid newydd fel rhan o’r rhaglen. Mae 18 o brentisiaid newydd bellach wedi ymuno â’r cwmni yn y Gogledd, ac mae 25 wedi’u recriwtio yn y De. Caiff swyddi newydd pellach eu creu i wneud amrywiaeth o rolau technegol, peirianyddol a gwasanaethu cwsmeriaid i ddiwallu anghenion y rhaglen.