Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio
Oherwydd y cyhoeddiadau diweddar gan Lywodraeth y DU am fentrau tai newydd fel rhan o’r Gyllideb ar 20 Fawrth, a’r manylion sydd eto i ymddangos, ni fydd cynllun gwarant morgais Cymru, NewBuy Cymru, yn cael ei ddatblygu bellach fel a ragwelwyd yn wreiddiol.
Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio drwy fanylion y cynlluniau Cymorth i Brynu newydd sy’n cael eu cynnig gan Lywodraeth y DU ac yn cydweithio’n agos â’n rhanddeiliaid i ystyried cyfleoedd ar gyfer Cymru.
Bydd cynllun newydd Llywodraeth y DU, Cymorth i Brynu: Cynllun Gwarant Morgais ar gael yng Nghymru ar gyfer pob prynwr ar eiddo newydd neu eiddo presennol hyd at £600,000 o fis Ionawr 2014.
Mae fy swyddogion hefyd yn edrych ar Cymorth i Brynu: Cynllun Benthyciad Ecwiti, sydd yn fenter yn Lloegr yn unig, ac opsiynau ar gyfer cyflwyno cynllun tebyg ar gyfer y farchnad dai yng Nghymru.