Carl Sargeant AC, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Mae’n dda gennyf gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am iechyd coed yng Nghymru. Mae coetiroedd iach a chydnerth o’r ansawdd uchaf yn cynnig manteision cymdeithasol a chymunedol go iawn i bobl Cymru. Mae’n coetiroedd hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at ein heconomi trwy greu gwaith ac incwm. Mae cynnal iechyd ein coetiroedd yn flaenoriaeth bwysig inni wrth i glefyd y Phytophthora ramorum ar ein coed llarwydd ledaenu dros y tair blynedd diwethaf. Hon yw’r broblem fwyaf sy’n wynebu iechyd ein coed yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae llwyrgwympo erwau mawr o goed yng nghymunedau Cwm Afan ac yng Nghwm-carn yn dangos gymaint o effaith y mae digwyddiadau o’r fath yn gallu’i chael ar y sector pren a phrosesu pren yn ogystal ag ar y dirwedd a’r bobl sy’n gweithio ac yn byw yno.
Mae’r strategaeth ar gyfer rheoli Phytophthora ramorum yn ceisio arafu ei ledaeniad ar lefel Cymru gyfan, gan gymryd nad yw ei ddileu’n opsiwn inni, hynny oherwydd natur y clefyd a’i wasgariad ledled y wlad. Mae coed llarwydd yn cael eu cwympo wrth reswm yn yr ardaloedd lle ceir lefelau uchel o’r clefyd ond ceir cynlluniau cwympo hefyd lle nad yw’r clefyd yn bod neu lle nad yw’n gyffredin, er mwyn ei rwystro rhag lledaenu i’r ardaloedd hynny.
Ar sail yr wybodaeth a gafwyd o’r arolygon o’r awyr eleni, mae’n dda gennyf ddweud bod y clefyd yn lledaenu’n arafach na blynyddoedd cynt ac mae arolygon pellach yn cael eu cynnal i weld a yw’r duedd hon yn parhau. Rydym yn chwilio hefyd am olion plâu a chlefydau eraill yn ystod yr arolygon hyn. Byddwn yn parhau i adolygu a newid ein strategaeth ar gyfer rheoli’r clefyd (ar sail ymchwil a thystiolaeth dda) ar ôl ymgynghori â’r rheini yr effeithir arnynt.
Er bod hafau sych y blynyddoedd diwethaf wedi arafu lledaeniad Phytophthora ramorum, mae’r gofyn yn fawr o hyd i reoli’r safleoedd sydd wedi’u heintio. Fel rheoleiddwyr, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi 500 o Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol ar gyfer rhagor na 6,600 o hectarau (neu 25% o’r holl goed llarwydd). Mae’r Hysbysiadau hyn yn gorfodi perchenogion a rheolwyr tir naill i dorri’r coed heintiedig neu i gadw unrhyw ddeunydd o fewn yr ardaloedd hynny.
Mae’r rhan fwyaf o’r llarwydd heintiedig yn rhan o goedwig gyhoeddus Llywodraeth Cymru. Mae Ffordd Fforest Cwm-carn wedi’i chau a hynny tan y bydd y gwaith coedwigaeth peryglus mawr wedi’i gwblhau. Mae CNC yn gwneud popeth yn ei allu i sicrhau bod anghenion pobl leol ac ymwelwyr yn cael eu hystyried wrth gynllunio’i ymateb i’r clefyd difrodus hwn. Mae wedi cydweithio â’r cymunedau lleol a holi’r ymddiriedolaeth archeoleg gan gynnal arolygon o adar ac ystlumod i wneud yn siŵr nad yw’r gwaith yn niweidio’r nodweddion pwysig hyn yn ein hamgylchedd.
Cawsom ymateb rhagorol i’n hapêl ddiweddar am Ddatganiadau o Ddiddordeb yng ngrant Adfer Coetiroedd Glastir a fydd yn cynnig grantiau ar gyfer ailstocio’r coetir sydd wedi’i gwympo oherwydd Phytophthora ramorum. Caiff rhyw 400 o hectarau eu hailblannu erbyn 31 Mawrth 2016 o ganlyniad i’r cymorth hwn a bydd ail wahoddiad yn yr hydref ar gyfer gwaith ailblannu i’w gwblhau erbyn 31 Mawrth 2017. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi nawdd i Cyfoeth Naturiol Cymru i dalu am reoli’r ardal fawr o goed llarwydd heintiedig yn ein coedwigoedd cyhoeddus.
Mae CNC wedi hyfforddi gwirfoddolwyr Observatree y gwanwyn hwn i gadw golwg am blâu a chlefydau coed. Prosiect gwyddoniaeth y dinesydd yw Observatree, rhwng Forest Research, y Comisiwn Coedwigaeth, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Defra, Asiantaeth Ymchwil Bwyd a’r Amgylchedd, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, CNC a Cadw Coed. Rhaglen Life yr UE sy’n talu amdano, gyda’r nod o fonitro iechyd coed Prydain a chlustnodi’r plâu a’r clefydau sy’n eu bygwth. Bydd yn ffordd inni gael gwybod yn fuan am blâu a chlefydau newydd. Cyflyma’n y byd y gweithredwn ni, mwya tebygol y llwyddwn ni i’w rheoli neu eu dileu.
Nid yw’r clefyd yn cael unrhyw effaith ar ansawdd y pren ac er bod presenoldeb y clefyd yn Nghymru yn drychineb i goed llarwydd a bod ymdrechion i’w reoli yn parhau’n broblem i’r sector coed, cymunedau ac ymwelwyr, mae’n gyfle hefyd i ail-ddylunio a chynyddu amrywiaeth a chryfder y rhywogaethau yng nghoetiroedd Cymru. Bydd yn arwain at amgylchedd o ansawdd uwch fydd yn gwneud cyfraniad mawr at drechu tlodi trwy greu cyfleoedd gwaith, cynhyrchu incwm i fusnesau yn y sectorau coedwigaeth a thwristiaeth a thrwy wneud ein cymunedau’n llefydd atyniadol inni fyw a gweithio ynddyn nhw ac i ymweld â nhw.