Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Ym mis Awst llynedd, gofynnais i’m cynghorydd annibynnol, Gareth Williams, ystyried a oedd y fframwaith rheoliadol sy’n rheoli amaethyddiaeth yng Nghymru yn gymesur ac yn addas, ac i baratoi adroddiad ar y mater imi.  Ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn, cyhoeddodd Gareth ei gasgliadau ar ffurf adroddiad ag ynddo 74 o argymhellion.  Derbyniais bob un, gan dderbyn y rhan fwyaf ‘yn llawn’ a rhai ohonynt ‘yn rhannol’.  Cyhoeddwyd adroddiad Hwyluso’r Drefn ac ymateb Llywodraeth Cymru iddo ar 31 Ionawr a chafwyd trafodaeth amdano yn y Cynulliad Cenedlaethol ar 7 Chwefror.
Ym mis Chwefror eleni, cyhoeddodd Defra ei ymateb llawn i argymhellion Macdonald ar wella rheoliadau ffermio yn Lloegr.  Mae Hwyluso’r Drefn ac adroddiad Macdonald yn trafod llawer o’r un themâu ac o’r herwydd, mae fy swyddogion yn cydweithio’n glos â thîm Macdonald yn Defra.  
Mae’n bryd bellach edrych ar yr hyn sydd wedi’i wneud hyd yma.  Mae’n dda gennyf ddweud bod nifer o’r argymhellion eisoes wedi’u rhoi ar waith ond mae llawer mwy yn destun sylw ac ar eu ffordd i gael eu cwblhau.  Creodd Gareth amserlen dynn gan ofyn am gael gweld ugain o argymhellion yn cael eu rhoi ar waith cyn gwyliau’r haf.  Rydym yn dal i weithio ar rai o’r rhain ond mae rhai argymhellion eraill, nad oedd disgwyl eu cyflawni tan lawer diweddarach, eisoes wedi’u cyflawni. Roedd hyn yn anorfod o weld bod rhai argymhellion yn gymhlethach na’r disgwyl ond yr un pryd, roedd rhai argymhellion eraill yn haws a symlach.
Ar 3 Gorffennaf, cyhoeddais ganlyniad fy ymarferiad Pwyso a Mesur Glastir.  Mae llawer o hwnnw yn effeithio’n uniongyrchol ar Hwyluso’r Drefn, gan gynnwys cael gwared ar gyfnod ymgeisio Glastir, creu prosesau symlach, cyfathrebu’n well ac ail-enwi gwahanol elfennau Glastir i bobl allu’u deall yn well ac ymwneud â’r broses yn fwy effeithiol.  
Mae cyfathrebu’n hanfodol i bopeth a wnawn.  Roedd adroddiad Hwyluso’r Drefn yn rhoi cryn sylw i bwysigrwydd cyfathrebu’n dda ac mae gennym lawer i’w wneud i wella yn hyn o beth.   Rwy’n ehangu’r Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm fel y mae Gareth Williams yn ei argymell.  Rydym wrthi’n recriwtio rhagor o staff i’n helpu i gynnig y gwasanaeth mewn mwy o ardaloedd er mwyn i fwy o ffermwyr allu manteisio ar wybodaeth a chyngor o’r radd flaenaf. 
Bydd y deunydd ysgrifenedig i gwsmeriaid yn gwella hefyd yn sgil rhoi canllawiau newydd i staff i’w hannog i osgoi defnyddio termau technegol a jargon yn ogystal â chynnwys rhestrau termau yn nogfennau’r cynlluniau i helpu ffermwyr i’w deall.  Cafodd Gareth ei synnu, a finnau hefyd, o ddeall y gallai ffermwr gael cymaint â 3,000 o dudalennau o wybodaeth gan reoleiddwyr bob blwyddyn.  Rydym yn gweithio i leihau hyn; ni fydd pecyn y SAF yn cael eu hanfon at bob cwsmer bob blwyddyn, hynny fel ymateb i ffermwyr sydd wedi dweud mai dim ond y newidiadau y maen nhw am gael gwybod amdanynt.
Mae rhestr wirio hwylus a rhwydd ar wefan Llywodraeth Cymru i dawelu ofnau ffermwyr a sicrhau eu bod yn gallu paratoi’n iawn ar gyfer archwiliad trawsgydymffurfio.  Trwy weithio law yn llaw â rheoleiddwyr eraill a’r Swyddfa Rheoleiddio Gwell, rydym yn bwriadu gwella a datblygu rhestrau o’r fath ar gyfer pob archwiliad fferm.
Bydd y rhaglen ardderchog o gymorth sy’n cael ei rhoi i ffermwyr trwy Cyswllt Ffermio yn cynnwys digwyddiadau ar y fferm a hefyd, erbyn hyn, ‘archwiliadau ffug’.  
Mae rhaglen o ymweliadau â marchnadoedd da byw hefyd yn yr arfaeth yr hydref hwn i rannu gwybodaeth a chyngor ar adnabod anifeiliaid (EID defaid). Bydd hyn yn ategu’r hyn rydym yn gwneud fwyfwy ohono sef mynd â gwasanaethau rhagorol y rhaglenni y cafwyd ymateb da iddynt, fel Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm, at y ffermwyr eu hunain: marchnadoedd da byw a neuaddau pentref er enghraifft.
Yn y dyfodol, bydd cwsmeriaid Cynllun y Taliad Sengl (SPS) yn cael llythyr esboniadol pan na fydd y taliad yn cyrraedd ar y dyddiad y dywedwyd y byddai oherwydd cwestiwn sydd heb ei ateb, er mwyn iddyn nhw allu cynllunio’u harian yn unol â hynny.
Bydd cynhadledd ffermio flynyddol gyntaf Llywodraeth Cymru yn cael ei chynnal fis Mai blwyddyn nesaf a bydd yna wahoddiad agored i’r diwydiant ffermio ddod i glywed sut mae’r polisi ffermio wedi datblygu ac i’m holi i a’m partneriaid am ein perfformiad ac i gynnig cyfraniad adeiladol at ein blaenoriaethau yn y dyfodol.
Rydym wrthi’n datblygu’n gwasanaethau ar-lein; cafodd prototeip cynta’r gwasanaeth ei ddangos i’r Gweithgor Defnyddwyr sy’n cynnwys ffermwyr a chynrychiolwyr ffermwyr ym mis Mai.  Aiff elfen y Ffurflen Cais Sengl (y SAF) yn ‘fyw’ yn 2014 gan wneud pethau’n gywirach a hwylusach o lawer i ffermwyr.  
Yn ei adroddiad, tynnodd Gareth ein sylw at yr angen i gynnal yr holl archwiliadau fferm yn yr un ffordd.  Yn y gwanwyn, cynhalion ni raglen i arweinwyr a gweithdy i fusnesau gyda phrif swyddogion o’r holl gyrff rheoleiddio ffermydd yn cymryd rhan.  Roedd y gweithdai’n cynnwys ymweliadau â ffermydd a sesiwn trafod â ffermwyr, er mwyn i reoleiddwyr allu gweld eu rheoliadau trwy lygaid ffermwyr.
Rydym yn gweithio gyda rheoleiddwyr i ddatblygu fframwaith sgiliau a chymwyseddau ynghyd â rhaglen hyfforddi i’w gefnogi er mwyn sicrhau bod rheoleiddwyr yn rhoi gwasanaeth proffesiynol bob tro i ffermwyr.  Bydd hynny yn fy marn i yn lleddfu ofnau, amheuon a drwgdybiaeth ffermwyr ynghylch y broses reoleiddio.
Bydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn gweithio’r hydref hwn i symleiddio archwiliadau fferm a’r gofynion ynghylch cadw cofnodion.  Mae’n amlwg bod yna arfer da iawn mewn rhai mannau ac mae’n bwysig bod pob rheoleiddiwr yn cael gwybod amdano ac yn ei efelychu.
Mae’r Llywodraeth am fynd ati mewn ffordd gydgysylltiedig i roi Hwyluso’r Drefn ar waith.  Gan ddatblygu llwyddiant y cynllun sticeri TB ar basbortau gwartheg i helpu ffermwyr wrth brynu gwartheg, mae John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, yn paratoi adolygiad yn ystod Hydref 2012 gyda’i brif randdeiliaid o’r rheini y gellid eu heithrio rhag y o’r Profion Cyn Symud.
Mae’r prosiect Rhif y Daliad (CPH) yn rhoi cyngor ar wella’r system neilltuo rhifau CPH gan obeithio cael gwared ar agweddau cymhleth a dryslyd y system gan gynnwys Cytundebau Meddiannaeth Unigol (SOA) a chysylltiadau â’r System Olrhain Gwartheg (CTS).  Oherwydd y cymhlethdodau hyn, mae ambell gwsmer yn anfwriadol wedi torri’r rheolau.
Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid y diwydiant a Defra, wedi bod yn ystyried opsiynau ar gyfer symleiddio’r rheol gwahardd symud 6 niwrnod.  Yn arbennig, gallai unedau cwarantin gymryd lle’r rhanddirymiad presennol heb gynyddu’r perygl o ledaenu’r clefyd.  Mae hwn yn waith cymhleth.  Mae’n hanfodol nad ydym yn gwneud unrhyw beth allai cynyddu’r clefyd a rhaid creu polisi sy’n gydnaws ag un Lloegr er mwyn i’r symudiadau niferus iawn sy’n digwydd dros y ffin bob blwyddyn allu parhau yn esmwyth a didrafferth.
Rwyf wedi penderfynu datblygu EIDCymru, gwasanaeth electronig ar gyfer cofnodi symudiadau sy’n ymgorffori’r gronfa ddata o ddefaid unigol. Rwyf wedi ymrwymo i ddatblygu system sy’n gyson â’r hyn sy’n cael ei ddatblygu yn Lloegr a’r Alban ond a fydd hefyd yn hybu Cig Oen Cymru fel brand.
Hefyd o dan ofal John Griffiths, cyflwynodd Grŵp Cynghori Annibynnol ei adroddiad ym mis Mehefin ar bolisïau cynllunio yng Nghymru a bydd yr adroddiad yn helpu i ddylanwadu ar y Papur Gwyn a’r bil cynllunio fydd yn ei ddilyn.  Bydd ail adroddiad ar Gynllunio mewn Ardaloedd Dynodedig Arbennig hefyd yn bwydo’r broses.  Mae John Griffiths am gyhoeddi’r adroddiadau hyn yn yr Hydref.  Mae’r gwaith o safoni’r broses caniatâd cynllunio yn mynd rhagddo gyda chyflwyno deddfwriaeth ar 30 Ebrill i gyflwyno’r Ffurflen Gais Safonol Genedlaethol (1 APP).  Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi hefyd ynghylch y newidiadau hyn i’r rheoliadau.  Mae canllaw defnydd gorau wedi’i gynhyrchu i gynghori awdurdodau cynllunio lleol ac ymgeiswyr ar drafodaethau cyn ymgeisio.
Er mwyn cefnogi Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 6 Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy, mae cyfarwydd ymarfer ar Ddatblygiadau Un Blaned wrthi’n cael ei baratoi a chaiff ei gyhoeddi yn yr Hydref.  Caiff ei ddefnyddio law yn llaw â’r Cyfarwyddyd Ymarfer ar gyfer Anheddau Mentrau Gwledig a gyhoeddwyd fis Rhagfyr diwethaf.  Mae TAN 6 yn gofyn i awdurdodau lleol fonitro Anheddau Mentrau Gwledig a chaiff crynodeb o’r ystadegau hyn ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru nes ymlaen yr haf hwn.
Rydym yn diwygio canllawiau holl adrannau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu polisïau, gan gynnwys yr asesiadau o effaith rheoliadau, er mwyn sicrhau bod y baich gweinyddol ar gwsmeriaid yn cael ei ystyried.Mae swyddogion sy’n gweithio gyda’r Countryside & Community Research Institute ac Arsyllfa Wledig Cymru wedi cynnal astudiaeth beilot ar ffyrdd newydd o segmentu’r diwydiant ffermio sy’n cynnwys dehongli ymagweddau a chanfyddiadau fel ffactorau sy’n sbarduno newid.  Mae rhagor o waith yn yr arfaeth ar lunio polisïau sydd wedi’u targedu a’u teilwra i ateb anghenion grwpiau a mathau penodol o gwsmeriaid.Pwysleisiodd Gareth Williams ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydweithio’n glos â’r diwydiant wrth ddatblygu polisïau ac y byddai grwpiau gorchwyl a gorffen â chysylltiadau cyfathrebu uniongyrchol â Gweinidogion yn rhan hanfodol o’r broses.  Mae nifer o’r grwpiau hyn bellach wedi’u sefydlu ac yn gweithio’n galed, gan gynnwys ‘Ceisiadau ar-lein’, ‘Adnabod Da Byw’ a Grŵp Cynghori ar Ddeddf Tir Comin 2006. Caiff rhagor o grwpiau eu creu yn ôl yr angen.I gloi, rwyf wedi gofyn i Gareth Williams ddod yn ôl ataf yn yr hydref i roi ei farn am hynt y gwaith ar reoleiddio Cymru’n well.  O safbwynt Llywodraeth Cymru, rwy’n credu bod yr argymhellion yn cael eu rhoi ar waith yn unol â’r bwriad a’n bod yn bwrw ein cerrig milltir.  O safbwynt rhai argymhellion, mae’n amlwg nad oes pwynt terfyn a’u bod yn broses o newid parhaus ac o ddatblygu parhaus.  Rhaid gofalu ein bod yn teithio tua’r cyfeiriad iawn a bod y momentwm yn cael ei gynnal.  Rwyf wedi atodi pob un o’r 74 argymhelliad wrth y datganiad hwn ac rwyf wedi nodi hanes pob argymhelliad unigol.