Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Ar 11 Tachwedd 2024, lansiwyd Her 50 Diwrnod y Gaeaf ar gyfer Gofal Integredig i helpu cleifion i adael yr ysbyty yn gyflymach, helpu mwy o bobl i gael gofal yn eu cymuned leol a gwella cydweithrediad rhwng y GIG ac awdurdodau lleol.
Rhoddodd yr her 50 diwrnod i bartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol adolygu a gwerthuso eu systemau yn erbyn 10 o ymyriadau arferion gorau ac i wneud gwelliannau angenrheidiol. Er y bydd rhai o'r ymyriadau hyn yn cymryd mwy o amser na’i gilydd i'w gweithredu'n llawn, bydd gan bob rhan o Gymru ddealltwriaeth glir o'u perfformiad a chynllun gweithredu ar y cyd erbyn diwedd cyfnod yr her.
Er mwyn cefnogi'r gwaith hwn, darparwyd £19 miliwn gennym i wella cynlluniau gofal ar gyfer y boblogaeth fwyaf agored i niwed i'w helpu i aros yn iach gartref; cynyddu capasiti gwasanaethau ailalluogi a gofal cartref i helpu pobl i adael yr ysbyty yn gyflymach ac i osgoi cael eu derbyn i'r ysbyty yn y lle cyntaf. Bydd y cyllid hefyd yn darparu gofal pontio cam i lawr i bobl ag anghenion cymhleth.
Mae'r her 50 diwrnod hon wedi helpu i ganolbwyntio ymdrechion a chryfhau perthnasoedd gwaith ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r canlyniadau cychwynnol yn galonogol.
Ym mis Tachwedd gwelwyd lleihad mewn oedi am y trydydd mis yn olynol. Rydym yn disgwyl i hyn barhau i mewn i fis Rhagfyr, gan olygu bod tuedd ostyngol wedi'i sefydlu ers mis Ebrill 2024, a thynnu sylw at effaith gadarnhaol Her 50 Diwrnod y Gaeaf.
Nod yr her 50 diwrnod oedd cefnogi'r bobl sy'n profi'r oedi hiraf i gael eu rhyddhau o'r ysbyty. Cafodd 395 o bobl eu hadnabod yn wreiddiol - o'r rhain roedd 225 (57%) o bobl wedi cael eu rhyddhau erbyn diwedd mis Rhagfyr ac o'r rheiny sy'n dal yn yr ysbyty, mae cynlluniau rhyddhau ar waith ar gyfer 170 (80.5%) ohonynt i’w dychwelyd adref neu i leoliad gofal.
Agwedd bwysig arall ar yr her 50 diwrnod oedd sicrhau bod y ddarpariaeth gofal yn y gymuned ar gael yn gyflymach i bobl ag anghenion cymhleth neu'r rhai sy'n byw gyda bregusrwydd, fel dewis arall diogel yn lle cael eu derbyn i'r ysbyty. Cyflawnwyd gostyngiad bach – 5% ym mis Tachwedd a 6% ym mis Rhagfyr – mewn derbyniadau brys i bobl 70 oed a throsodd yn ystod cyfnod yr her o'i gymharu â 2023.
Mae'r her 50 diwrnod wedi dangos peth addewid o gyflawni gwelliant yn llif y system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hefyd wedi taflu goleuni ar ble y mae'r angen mwyaf am waith, ffocws a gwelliannau wedi'u targedu, ar lefel genedlaethol neu ranbarthol. Rydym wedi nodi'n glir yn ein fframwaith cynllunio'r GIG ar gyfer 2025-26 bod yn rhaid i fyrddau iechyd barhau i weithio gyda phartneriaid gofal cymdeithasol i gyflawni'r 10 cam gweithredu yn yr her 50 diwrnod fel mater o drefn. Byddwn yn monitro'r cynnydd yn agos ar draws Cymru rhwng nawr a diwedd mis Mawrth i weld sut y gellir ymgorffori'r gwelliannau hyn ymhellach a'u cynnal yn y tymor hwy.