Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ddydd Mawrth, 19 Chwefror,  gwnes ddatganiad llafar ac ateb cwestiynau am y materion sy’n ymwneud â’r achosion diweddar o halogi cig yn y gadwyn cyflenwi bwyd.  

Gwelwyd datblygiadau ers hynny yn yr ymchwiliad i’r achosion o halogi cynnyrch cig a’u heffeithiau yng Nghymru.

Ar ôl cael hyd i DNA ceffylau mewn cynnyrch cig, mae awdurdodau lleol wedi cynnal ymchwiliadau trylwyr i wneuthurwyr bwyd yn eu hardaloedd a oedd yn eu barn hwy yn uwch eu risg.  Cymerodd Cyngor Sir Powys naw sampl oddi wrth y Burger Manufacturing Company (BMC) yn Llanelwedd ar 8 Chwefror.  Cafodd canlyniadau profion i sgrinio am o leiaf 1% o DNA ceffylau eu cyflwyno gan y dadansoddydd cyhoeddus ddiwedd dydd 18 Chwefror a rhai pellach fore 19 Chwefror i Gyngor Sir Powys.  Pasiwyd y canlyniadau ymlaen i’r ASB.  Cafwyd cadarnhad cyhoeddus gan BMC ar 21 Chwefror eu bod yn galw cynnyrch yn ôl, nid yn unig y cynnyrch oedd dan amheuaeth ond hefyd fel cam rhagofalus, yr holl gynnyrch a oedd wedi’u gwneud hyd at a chan gynnwys 13 Chwefror 

Cadarnhawyd ar 22 Chwefror bod tri sampl o gynnyrch cig ag 1-2% o DNA ceffylau yn eu cig.

Un o gwsmeriaid BMC yw cwmni o’r enw Holdsworth sydd yn ei dro yn cyflenwi sefydliadau eraill, gan gynnwys saith awdurdod lleol yng Nghymru.  Rwyf wedi cael ar ddeall i BMC gysylltu â Holdsworth ynghylch y mater hwn ar 19 Chwefror a chysylltodd Holdsworth yn eu tro â’u cwsmeriaid hwythau.  Mae Holdsworth wedi galw’r holl gynnych a gyflenwyd iddynt gan BMC yn ôl; doedd dim ohono wedi’i fwyta.  

Mae’n amlwg bod nifer o gwestiynau eto heb eu hateb a gallai hynny ynddo’i hun borthi pryderon y cyhoedd dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf.  Rwy’n parhau i weithio’n glos â swyddogion ac â’r ASB i ddeall natur a maint y broblem ac i gynnig atebion pan ddown i wybod beth ydym yn delio ag ef. Mae’n amlwg hefyd na fydd canlyniadau rhai profion yn barod ar unwaith, efallai ddim am o leiaf wythnos arall. 

Fel rhan o’r drefn brofi ehangach y mae’r ASB wedi gofyn i’r diwydiant ei chynnal, cyhoeddodd Sodexo ddydd Gwener eu bod hwythau hefyd wedi galw nifer o gynnyrch cig yn ôl.  Mae gan Sodexo nifer o gwsmeriaid yn y sectorau iechyd, addysg a chyhoeddus ledled y DU.  Mae’r ASB yn gweithio gyda Sodexo i greu rhestr o’u cwsmeriaid ac i olrhain cynnyrch er mwyn diogelu bwyd ac i gadw effeithiau unrhyw achos o halogi bwyd mor fach â phosibl.  Rwy’n ffyddiog y gwnaiff Sodexo gydweithio’n llawn â’r ymchwiliadau gan fod angen i bawb yn awr yn y gadwyn cyflenwi bwyd fod yn onest ac agored.  Rwy’n aros am adroddiad llawn gan yr ASB am unrhyw effeithiau posibl ar Gymru. 

Yn fy natganiad llafar ar 19 Chwefror, pwysleisiais sawl gwaith mai mater o esgeulustod ac o bosibl o dorcyfraith yw hyn yn bennaf, nid bygythiad i iechyd pobl.  Er nad yw hynny wedi newid, mae pryderon y cyhoedd ynghylch integriti’r gadwyn fwyd a’r potensial i halogi cynnyrch bwyd yn tyfu, gyda defnyddwyr yn ystyried y problemau hyn fel arwyddion posibl o ddiffyg dyfnach yn y maes rheoli safonau bwyd. Mae’n bwysig bod y llywodraeth yn dangos felly ei bod yn cymryd camau pendant i sicrhau bod y gadwyn fwyd yn ddiogel a bod bwyd mewn ysgolion ac ysbytai yn arbennig yn gwbl ddiogel. 

Rwy’n dawel fy meddwl fod gan awdurdodau lleol bolisi cadarn o ran tynnu cynnyrch oddi ar y silffoedd pan geir yr amheuaeth leiaf bod rhyw ddiffyg yn y gadwyn gyflenwi.  Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â CLlLC ac rwyf ar ddeall bod un deg chwech o awdurdodau yn y De a’r Canolbarth yn defnyddio ‘Consortiwm Pwrcasu Cymru’ i brynu amrywiaeth eang o gyflenwadau bwyd.  Maent eisoes wedi cysylltu â’u cyflenwyr i ofyn iddynt archwilio’u cyflenwadau’n drylwyr er mwyn sicrhau bod y cynnyrch y maen nhw’n eu prynu’n iawn.  Caiff cynnyrch penodol eu galw yn ôl os gwelir bod angen. 

Mae galw cynnyrch yn ôl yn gam angenrheidiol er mwyn cynnal ffydd y cyhoedd yn y gadwyn cyflenwi bwyd.  Hyd y gwyddom, nid oes unrhyw berygl i iechyd a lles unrhyw blant yn unrhyw un o ardaloedd y saith awdurdod lleol lle mae cynnyrch wedi’u galw yn ôl. 

Daw sefydliadau cyhoeddus o fewn cwmpas y rhaglen samplu a dilysu sy’n cael ei threfnu gan yr ASB ar lefel y DU.  Mae cyflenwyr (fel arlwywyr) cynnyrch cig i ysgolion ac ysbytai yn cael eu cynnwys yn y rhaglen honno. 

Yn yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi ymuno â’m cydweinidogion yng ngweinyddiaethau eraill y DU mewn cyfarfodydd ag adwerthwyr, proseswyr a rhannau eraill y diwydiant cig i bwyso ar y diwydiant i gymryd camau i dawelu ofnau eu cwsmeriaid a’r cyhoedd yn gyffredinol.  Rwyf wedi cefnogi’r ASB sy’n galw am barhau â’r profion ym mhob rhan o’r diwydiant ac am gyhoeddi canlyniadau.  Ddoe, bum yng nghyfarfod Cyngor Amaeth yr UE lle trafodwyd yr ymateb Ewropeaidd.  Law yn llaw â Gweinidogion eraill y DU, rwyf wedi pwyso ar y Comisiwn Ewropeaidd i fynnu bod profion yn cael eu cynnal ar yr holl gynnyrch sydd o dan amheuaeth a bod y profion hynny’n para am y tri mis nesaf.  Galwyd ar y Comisiwn hefyd i roi manylion symudiadau ceffylau a chig ceffyl ar draws ffiniau, gan gynnwys mewnforion o drydydd gwledydd.

Mewn trafodaeth hir ac eang yn y Cyngor am brif agweddau’r pwnc, cadarnhawyd bod angen gweithio ar lefel yr UE cyfan, gan gynnwys cyd-drefnu ymchwiliadau Europol i unrhyw achosion troseddol posibl.  Addawodd gwledydd yr UE rannu gwybodaeth yn hyn o beth.  Ystyriwyd hefyd rinweddau posibl rhoi labeli ar gynnyrch wedi’u prosesu i ddangos y gwledydd y daw’r cynhwysion ohonynt, er na fyddai hynny wedi rhwystro’r twyll sy’n gysylltiedig â’r achosion diweddar o halogi cig.  Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn cynnal asesiad manwl o effeithiau labeli gwlad, a chaiff adroddiad ei gyflwyno i’r Cyngor nes ymlaen eleni. 

Byddaf yn parhau i wneud datganiadau i’r Cynulliad ar y materion hyn.