Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel y gwyddom ni oll, mae’r sefyllfa bresennol wedi dangos pwysigrwydd amlwg cysylltedd digidol, boed ar gyfer dysgu gartref, cadw mewn cysylltiad ag anwyliaid neu weithio o gartref.  Mae ein rhaglen Cyflymu Cymru, sydd wedi cynnig mynediad band eang cyflym iawn i dros 733,000 o adeiladau, wedi bod yn fuddsoddiad hanfodol i gefnogi Cymru drwy’r pandemig a thu hwnt i hynny wrth inni ganolbwyntio ar adferiad.  Fodd bynnag, mae llawer o waith i’w wneud eto. 

Yn ystod y mis diwethaf rhoddais y newyddion diweddaraf i Aelodau ynghylch nifer o ddatblygiadau yn ein hymdrechion i sicrhau y gall cartrefi a busnesau yng Nghymru elwa o’r mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy gan gynnwys ychwanegiad Cymru i’r Talebau Cysylltedd Gigabit Gwledig a chanlyniadau adolygiad diweddaraf y farchnad agored.

Rwyf bellach mewn sefyllfaI i roi diweddariad pellach ar gynlluniau i ymestyn ein band eang ffibr gydag Openreach a’r rhan allweddol y mae’r rhwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA) yn ei chwarae yn ein hymateb i Covid 19.

Trwy ein cytundeb gydag Openreach rydym yn cynyddu nifer yr adeiladau fydd yn elwa drwy’r prosiect o 26,000 i 39,000. Bydd yr estyniad hwn i’r prosiect yn targedu ardaloedd yr awdurdodau lleol sydd â llai na 90% o fand eang cyflym iawn. Bydd hyn yn helpu i sicrhau gwell cydbwysedd o ran y band eang sydd ar gael ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru ac yn rhoi mynediad i’r adeiladau ychwanegol hynny at y band eang cyflymaf sydd ar gael. Hefyd, mae rhagor o waith modelu a chynllunio wedi gweld bod gan oddeutu 4,300 o’r adeiladau sydd wedi eu cynllunio fel rhan o gam cyntaf y prosiect naill ai fynediad eisoes neu i gael mynediad at fand eang cyflym iawn. Mae’r adeiladau mwy trefol hyn wedi eu dileu o’r prosiect a rhai eraill yno yn eu lle.

Bydd swm y cyllid ar gyfer y prosiect yn cynyddu i £56 miliwn. Mae hyn yn cynnwys cyllid Llywodraeth Cymru a’r UE gyda rhywfaint o gyllid ychwaengol gan Lywodraeth y DU. Y bwriad yw cwblhau’r prosiect cyfan erbyn Mehefin 2022. Bydd pob adeilad yn gallu cael mynediad at ffibr diogelu at y dyfodol i’r adeilad gan alluogi cyflymder bandeang gigabit.  Mae dadansoddiad o nifer yr adeiladau fesul awdurdod lleol wedi’i atodi.

Ddiwedd Mawrth 2020, roedd cam cyntaf y prosiect wedi galluogi mynediad at fand eang ffibr llawn, allai ddefnyddio gigabit, i 8,283 adeilad. Darperir diweddariad pellach o’r ffigurau hyn i Aelodau ym mis Awst.

Mae’r cyflwyniad yn ddim ond rhan o gyfres o ymyraethau i wella cysylltedd sy’n cynnwys y cynllun Allwedd Band Eang Cymru, Cronfa Band Eang Lleol ac ychwanegiad Cymru at y cynllun Talebau Gigabit Gwledig Llywodraeth y DU.

Mae’r rhwydwaith PSBA wedi chwarae rhan bwysig yn ystod camau cychwynnol ymateb Covid 19 gan gynnig cysylltedd cyflym iawn i ysbytai y Ddraig Goch yn gyflym ac effeithiol. Mae’r sefyllfa bresennol wedi tynnu sylw at bwysigrwydd a phosibiliadau gweithio gartref ar draws y sector cyheoddus. Mae hefyd wedi pwysleisio bod rhai gweithwyr y sector cyhoeddus sy’n gweithio gartref angen cysylltiad cyflym gradd busnes i gyflawni eu swyddogaethau. Mewn ymateb mae’r PSBA wedi cyflwyno cynnyrch newydd ar gyfer derbynnwyr fydd yn caniatáu i fusnesau raddio cysylltiadau sydd i’w darparu’n arferol i gartrefi gweithwyr y sector cyhoeddus ble y bo angen. Gallai hyn, er enghraifft, ganiatáu i radiolegwyr dderbyn a gweld delweddau pelydr-X a delweddau meddygol eraill gartref yn ddiogel ac  yn ddibynadwy.

Mae’r diweddariad hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i ymyrryd mewn maes sydd heb ei ddatganoli er mwyn gwella cysylltedd ledled Cymru ac i arloesi er mwyn cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus.

Byddaf yn parhau i ddiweddaru Aelodau yn hyn o beth.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.

Dadansoddiad o adeiladau yn ȏl awdurdod lleol a lot

Lot ac awdurdod lleol

Adeilad

1

11,224

Ceredigion

2,592

Conwy

1,608

Sir Ddinbych

1,862

Gwynedd

3,974

Ynys Môn

1,188

2

12,584

Caerdydd

908

Gorllewin Swydd Gaer A Chaer*

4

Sir y Fflint

2,027

Sir Fynwy

2,163

Casnewydd

304

Powys

3,516

Swydd Amwythig*

2

Bro Morgannwg

1,117

Wrecsam

2,543

3

15,308

Blaenau Gwent

 

Pen-y-bont Ar Ogwr

1,267

Bwrdeistref Sirol Caerffili

2,831

Sir Gaerfyrddin

3,185

Merthyr Tudful

474

Castell-Nedd Port Talbot

812

Sir Benfro

4,128

Rhondda Cynon Taf

1,507

Abertawe

483

Torfaen

621

Cyfanswm

39,116

* Mae’r adeiladau hyn yng Nghymru ond yn cael eu categoreiddio yn y Premiwm Sylfaen Cyfeiriadau yn gysylltiedig ag Awdurdod Lleol yn Lloegr.