Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
Cafodd y Grŵp Rhanddeiliaid Cyfiawnder ei sefydlu gan y cyn-Weinidog Gwasanaethau Cyhoeddus yn 2015 i ystyried diwygiadau Llywodraeth y DU i'r system gyfiawnder a'r corff cynyddol o gyfraith ddatganoledig Cymru. Daeth y Grŵp ag academyddion ac ymarferwyr ynghyd sydd â gwybodaeth a phrofiad helaeth o'r sectorau cyfiawnder a chyfreithiol yng Nghymru. Cyfarfu ar bum achlysur rhwng Gorffennaf 2015 a Chwefror 2016 a chyflwynodd ei ganfyddiadau i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus mewn adroddiad o dan y teitl Law and Justice in Wales: Some Issues for the Next Assembly.
Cyhoeddodd y Gweinidog yr adroddiad ym mis Mawrth 2016. Ers hynny, bu nifer o ddatblygiadau pwysig sy'n berthnasol i argymhellion yr adroddiad. Mae'r rhain i'w gweld yn y diweddariad gan Lywodraeth Cymru ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r adroddiad, sydd a geir ynghlwm.