Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Huw Irranca-Davies, Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r diweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am sefyllfa Cyngor Sir Powys. Mae’n edrych ar y cynnydd a wnaed o safbwynt ymateb i’r Hysbysiad Rhybuddio a roddwyd o dan Ran 8 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas ag Adran Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Powys.

Mae’r Cyngor wedi cadarnhau Phil Evans fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro  ac benodi Bwrdd Gwella i oruchwylio camau gweithredu’r Cyfarwyddwr a darparu her adeiladol. Cafodd Cynllun Gwella ei dderbyn gan swyddogion Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth Cymru ac maent yn ei ystyried ar hyn o bryd. Rydym yn bwriadu gweithio gyda’r awdurdod lleol i gadarnhau’r camau gweithredu a gynigiwyd ac i sicrhau bod y cynllun yn cynnig llwybr hirdymor a realistig i wella Gwasanaethau Plant ym Mhowys yn sylweddol, a gwneud hynny mewn modd sy’n gynaliadwy at y dyfodol.

Ar 14 Tachwedd 2017, ysgrifennodd y Cynghorydd Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Sir Powys, i ofyn i Weinidogion Cymru arfer eu pwerau i roi cymorth statudol i’r Cyngor, gan ddefnyddio eu pwerau o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.  

Cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus â’r Cynghorydd Harris a’r Prif Weithredwr Dros Dro ddydd Llun 20 Tachwedd i drafod y cais a sefyllfa bresennol yr awdurdod lleol.

Cafwyd trafodaeth ddefnyddiol ac mae gwaith ar y gweill nawr i ddatblygu pecyn cymorth priodol gyda Chyngor Sir Powys, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a phartneriaid eraill.  

Cyn gynted ag y bydd cytundeb ynghylch y pecyn cymorth, bydd datganiad arall yn cael ei roi ar ei gwmpas a’r amserlen. Bydd negeseuon rheolaidd hefyd yn cael eu rhannu i roi’r diweddaraf am wneud gwelliannau corfforaethol ac i wasanaethau cymdeithasol.