Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rwyf eisiau rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf ag Aelodau am waith y Grŵp Llywio Gwella Strategol. Penodwyd y grŵp gan Mrs Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, ym mis Rhagfyr 2013 i roi cyngor arbenigol, annibynnol ar ein hagenda Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy.
O dan gadeiryddiaeth Sally Ellis, mae’r grŵp wedi cynhyrchu darnau o waith arwyddocaol.
Cafwyd ei adroddiad cyntaf ym mis Rhagfyr 2014. Roedd hwnnw’n ymdrin â phontio i Gofal Cymdeithasol Cymru ym mis Ebrill 2017 (ar yr amod bod Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn mynd drwy’r Cynulliad Cenedlaethol yn llwyddiannus). Ym mis Mawrth eleni, roeddwn yn falch o gael cyhoeddi’r adroddiad hwnnw ochr yn ochr â Datganiad Ysgrifenedig yn ymateb iddo ac yn derbyn y trywydd yr oedd yn ei osod.
Yn dilyn yr adroddiad hwnnw, gofynnais i’r grŵp brofi ymhellach y blaenoriaethau gwella gwasanaethau yr oeddynt wedi eu pennu eisoes, gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid o bob rhan o’r sector gwasanaethau cymdeithasol a thu hwnt, Gofynnais hefyd am gyngor ar y modd y gallai Gofal Cymdeithasol Cymru ddefnyddio modelau atal ac ymyrraeth gynnar yn ei waith. Daw gwaith y grŵp i derfyn gyda’r adroddiadau yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw, ochr yn ochr â’r datganiad hwn. Gellir dod o hyd i’r adroddiadau ar wefan Llywodraeth Cymru.
Rwyf yn croesawu’r cyngor a gafwyd gan y Grŵp Llywio. Bydd y cyngor hwnnw’n cael ei ddefnyddio fel sail i’r cam datblygu nesaf tuag at Gofal Cymdeithasol Cymru. Rwyf yn cefnogi’r trywydd a osodir yn y papurau. Rwyf yn awyddus i gysylltu â dinasyddion fod yn ganolog i Gofal Cymdeithasol Cymru, a’i fod hefyd yn cefnogi gweithgareddau sy’n mapio gwelliant ac yn rhannu profiadau ac arferion ar draws y sector. Mae’r papurau deilliannau ac ymyrraeth gynnar yn adlewyrchu llawer o’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru’n ei gyflawni ar hyn o bryd. Byddaf yn sicrhau y gwneir cysylltiadau â’r cyngor hwn fel y bo’n briodol.
Yn gynharach eleni, rhoddais wybod i’r aelodau bod Panel Cynghori Pontio i Gofal Cymdeithasol Cymru wedi ei sefydlu. Cadeirydd y panel fydd Arwel Ellis Owen a bydd yn cynnwys rhanddeiliaid o bob rhan o’r sector. Bydd y panel yn cynhyrchu cynllun pontio a chyfathrebu i mi ei ystyried erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Ar hyn o bryd, mae’r grŵp yn edrych ar faterion yn ymwneud â llywodraethiant, gwella gwasanaethau ac ymchwil. Byddaf yn rhoi diweddariad manylach ar waith y panel i’r Aelodau yn y dyfodol.
Mae’r Grŵp Llywio wedi cwblhau ei waith bellach. Hoffwn ddiolch i aelodau’r grŵp am eu diwydrwydd a’u gwaith caled.