Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais ganlyniad fy astudiaeth pwyso a mesur Glastir. Bwriad y datganiad hwn yw diweddaru Aelodau ar yr hyn sydd wedi digwydd ers Gorffennaf a’n cynigion ar gyfer 2013.
Dechreuodd y cytundebau Glastir Sylfaenol ar 1 Ionawr eleni ac rwy’n falch o allu cyhoeddi fod taliadau gwerth £3,565,323 eisoes wedi’u gwneud a disgwylir talu gwerth hyd at £1,636,000 eto cyn y Nadolig. Bydd rhyw 700 o gontractau hefyd wedi’u rhoi i ffermwyr sydd wedi gwneud cais i ymuno â’r cynllun o 1 Ionawr 2013, a hynny eto erbyn y Nadolig. Yn unol â’r addewid a wnes i wrth bwyso a mesur, y flwyddyn nesaf, o 1 Ionawr ymlaen bydd ffermwyr yn rhydd i wneud cais i ymuno â Glastir unrhyw bryd. O’r dyddiad hwnnw, bydd ffermwyr yn cael gofyn am ffurflen gais a chaiff pob ffurflen gais a ddaw i law cyn diwedd Medi 2013 eu hystyried ar gyfer contract fydd yn cychwyn ar 1 Ionawr 2014. Bydd hwn yn gyfnod pwysig gan y daw’r rhan fwyaf o gytundebau estynedig Tir Gofal a Thir Cynnal i ben ar 31 Rhagfyr 2013 ac rwy’n awyddus i weld cymaint o’r ffermwyr hyn â phosibl yn ymuno â Glastir Sylfaenol flwyddyn nesaf. Mae dros 4,500 o’r ffermwyr hyn wedi dangos diddordeb yn Glastir ac rwy’n gobeithio y gwnaiff y rhan fwyaf ohonyn nhw ymuno â Glastir Sylfaenol er mwyn i ni weld parhad yn y ddarpariaeth o nwyddau a gwasanaethau gwerthfawr a geir ganddynt.
Gwnaeth dros 209 o ffermwyr gais am grant Effeithiolrwydd Glastir yn 2012 ac rydym eisoes wedi cymeradwyo dros 100 o gontractau. Mae’r taliadau cyntaf yn cael eu gwneud nawr am offer a chyfleusterau pwysig fydd yn helpu ffermwyr i foderneiddio’u hisadeiledd busnes a sicrhau canlyniadau amgylcheddol.
Mae grantiau ar gyfer offer chwistrellu slyri, isadeiledd fel storfeydd slyri a pheiriannau rhatach ar ynni yn golygu bod ffermwyr yn gallu rheoli maethynnau’n well a gwneud eu hadeiladau’n fwy ynni effeithlon. Rwy’n falch o gael dweud hefyd bod 611 o ffermwyr eraill wedi cael gwahoddiad i wneud cais am grant Effeithiolrwydd flwyddyn nesaf.
Bydd y contractau Glastir Uwch cyntaf hefyd yn cychwyn ar 1 Ionawr 2013. Bydd y rhan flaengar hwn o gynllun Glastir yn defnyddio arian y Cynllun Datblygu Gwledig yn fwy effeithiol trwy ganolbwyntio ar y manteision amgylcheddol sydd fwyaf tebygol o allu cael eu gwireddu. Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd rhyw 350 o gontractau yn cychwyn o 1 Ionawr 2013. At hynny, mae 1,100 o ffermwyr wedi cael cynnig ymweliad gan reolwr contract flwyddyn nesaf gyda’r nod o arwyddo contract Glastir Uwch erbyn 1 Ionawr 2014.
Gwnaeth yr Elfen Glastir – Tir Comin lawer gwell na’r disgwyl yn ei flwyddyn gyntaf ac mae’n mynd o nerth i nerth. Roedd 107 o gytundebau mewn lle ddechrau eleni ac rydym eisoes wedi gwneud taliadau gwerth £2,038,426 a chaiff £312,365 pellach ei dalu cyn diwedd y flwyddyn. Byddwn wedi dyfarnu 52 o gontractau newydd erbyn y Nadolig, fydd yn golygu y bydd 94,000 o hectarau o dir comin yn rhan o’r cynllun.
Mae 441 o gontractau wedi’u harwyddo o dan Gynllun Creu Coetiroedd Glastir, sy’n cynrychioli ymrwymiad i blannu 1,452ha o goed newydd. Mae tua £1.8 miliwn wedi’i dalu hyd yma. Mae’r contractau Rheoli Coetiroedd Glastir cyntaf hefyd wedi’u harwyddo ac erbyn dechrau 2014, rwy’n rhagweld y bydd 270 o gytundebau ar waith.
Mae gwelliannau mawr wedi’u gwneud yn y chwe mis diwethaf i wneud y cynllun yn hwylusach. Bydd newid cyfnod ymgeisio Glastir Sylfaenol flwyddyn nesaf yn rhoi llawer mwy o amser i ffermwyr gynllunio a pharatoi ceisiadau. Mae’r newidiadau y gofynnais amdanynt i leihau’r baich biwrocratiaeth hefyd wedi’u cyflwyno. Nid oes angen i ffermwyr godro gadw cymaint o gofnodion, ac mae’r cynllun yn eu had-dalu am y cofnodion sy’n dal i fod. Bydd Swyddogion Datblygu Tir Comin yn dal i fod ar gael i helpu i ffurfio Cymdeithasau Pori ac i lenwi ffurflenni cais Glastir Tir Comin flwyddyn nesaf. Rwyf hefyd wedi penderfynu ehangu eu gwasanaeth. Rydym wedi bod yn eu hyfforddi ynghylch agweddau eraill ar y cynllun ac o fis Ionawr, byddan nhw’n cynnal sesiynau cymorth i ffermwyr yn ogystal â sesiynau hyfforddi ar ffermydd i ffermwyr sydd am ymuno â Glastir Sylfaenol. Mae gennym hefyd strategaeth gyfathrebu erbyn hyn sy’n dechrau lledaenu’r negeseuon pwysicaf y bydd angen inni eu rhoi i ffermwyr flwyddyn nesaf.
Mae diddordeb o’r newydd yn Glastir a chydnabyddiaeth y bydd y cynllun yn cyflawni ar gyfer ffermwyr a'r amgylchedd fel ei gilydd. Mae'n bwysig bod yr holl randdeiliaid sydd â diddordeb mewn ffermio a'r amgylchedd yng Nghymru yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod ffermwyr yn cael gwybodaeth gwrthrychol a chywir am y cynllun i’w helpu i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch ceisio i ymuno.
Rwy’n hyderus ein bod wedi gosod y sylfeini ar gyfer cynllun llwyddiannus ac y bydd 2013 yn rhoi rhagor o dystiolaeth fod Glastir yn cyflawni dros Gymru.