Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i mi gyhoeddi ar broses Pwyso a Mesur Glastir.
Dywedais yn glir ar y pryd mai'r Cynllun Datblygu Gwledig (CDG) newydd fydd y cyfrwng i gynnal y cynllun yn y dyfodol ac y byddai ambell newid o'r herwydd yn angenrheidiol ac efallai'n ddymunol. Mae'r datganiad hwn yn disgrifio i Aelodau y camau mawr sydd wedi'u cymryd ers cynnal yr ymarferiad Pwyso a Mesur. Mae'n disgrifio fy syniadau hefyd ar gyfer Glastir a pheth o'r gwaith pwysig sy'n cael ei wneud wrth i ni ystyried sut orau i ymdrin â'r amgylchedd yn ei ystyr ehangaf. Er mor bwysig ydyw, dim ond un darn o'r jigsô mawr hwnnw yw Glastir.
Dyma drydedd flwyddyn Glastir Sylfaenol ac mae gan ffermwyr sydd am gontract i ddechrau ar 1 Ionawr 2014 tan ddiwedd mis Medi i gyflwyno'u ceisiadau. Hyd yma eleni, mae 1,000 o ffermwyr ychwanegol wedi cyflwyno ceisiadau i ymuno â'r cynllun sy'n golygu bod tua 3,200 o ffermwyr bellach yn perthyn i elfen sylfaenol Glastir .
Mae 251 o gontractau Glastir Uwch wedi'u rhoi ac rwy'n disgwyl taro'n targed o 800 o gontractau ychwanegol erbyn diwedd eleni. Caiff carfan arall o ymgeiswyr am yr elfen Uwch eu didoli ym mis Medi a'r nod fydd cychwyn 800 o gontractau Glastir Uwch newydd yn 2015.
Mae'r elfen Glastir - Tir Comin wedi bod yn llwyddiant arwyddocaol. Erbyn dechrau eleni, roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo rhyw £15 miliwn i'r cynllun a dod â bron 50% o'r holl dir comin o dan reolaeth ffurfiol. Mae cymdeithasau pori sydd â chyfrifoldeb dros 40,000 o hectarau ychwanegol o dir comin wedi mynegi diddordeb yn y cynllun eleni. I adeiladu ar lwyddiant yr elfen hon, rwyf wedi mynnu bod yr holl gymdeithasau pori sydd â chontract Tir Comin yn cael cyfle i lofnodi contract Glastir Uwch erbyn diwedd blwyddyn nesaf. Mae hyn yn golygu buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru yn yr amgylchedd ac yn nhir comin Cymru.
Hyd yma, mae 563 o gytundebau cynllun Glastir - Creu Coetir wedi'u llofnodi a disgwylir i 237 o gytundebau Glastir - Rheoli Coetir fod ar waith erbyn diwedd eleni. Gwerth ymrwymiad ariannol Llywodraeth Cymru i goetiroedd Cymru trwy Glastir erbyn diwedd eleni fydd rhyw £11.6 miliwn. Rwyf am gadw'r Cynllun Creu Coetir - mae'n dal i fod yn agored i geisiadau - a byddaf yn neilltuo rhagor o adnoddau ar gyfer plannu mwy o goed; creu cynefin fel ymateb i'r adroddiad ar Gyflwr Natur Prydain, darparu manteision eraill i'r amgylchedd a datblygu ffrydiau incwm newydd posibl i berchenogion/rheolwyr tir.
Hefyd, bydd tua £7 miliwn wedi'i neilltuo i'r cynllun Grantiau Effeithiolrwydd erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae'r adroddiad diweddar ar Gyflwr Natur Prydain yn tynnu sylw at lwyddiant cyfyngedig yr hen gynlluniau amaeth-amgylcheddol y mae Glastir wedi'u disodli. Mae'r adroddiadau monitro a gwerthuso a sgrifennwyd gan ymgynghorwyr annibynnol ac a fydd yn cael eu cyhoeddi gennyf cyn hir, yn ategu hynny. Ers y broses Pwyso a Mesur, rydym wedi datblygu'r cynllun i fynd i'r afael â gwersi'r cynlluniau blaenorol ac yn eu symleiddio er mwyn caniatáu i Lywodraeth Cymru fuddsoddi arian mawr yn yr amgylchedd yng Nghymru gan ddefnyddio ffermwyr fel y prif gyfrwng i wneud hynny. Mae pobl yn tueddu i ddiystyru'r rhan hynod bwysig y mae ffermwyr yn ei chwarae yn hyn o beth. Mae ffermwyr yn cynhyrchu bwyd, ond lawn cyn bwysiced â hynny, y nhw yw stiwardiaid cefn gwlad a'r amgylchedd a dylem oll werthfawrogi pwysigrwydd y ddwy rôl honno.
Rwyf wedi gwneud nifer o gyhoeddiadau'n ddiweddar ar ddyfodol y PAC ac mae fy ymrwymiad i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau, law yn llaw â'n partneriaid a rhanddeiliaid, o botensial Glastir fel rhan o'r Cynllun Datblygu Gwledig nesaf, yn parhau. Rwyf yn credu serch hynny y bydd angen newid Glastir eto i'n helpu i allu gwneud hynny.
Mae angen i ni chwilio am ffyrdd newydd a mwy creadigol i ariannu ymyriadau amgylcheddol. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion ystyried a oes modd defnyddio arian masnachol i chwyddo'n cyllidebau a sut i gymell pobl i ddarparu gwasanaethau ecosystem. Lle bo hynny'n bosibl, hoffwn roi'r gorau i ddim ond talu ffermwyr am yr incwm y maen nhw'n ei golli a'r costau y maen nhw'n eu hysgwyddo, fel ag y mae rheolau'r CDG yn mynnu ein bod yn ei wneud. Rhaid i ni sylweddoli, heb fusnesau ffermio ariannol lwyddiannus, ni fydd gennym reolwyr tir i ddarparu nwyddau amgylcheddol. Rhaid felly gwneud yn siŵr bod darparu'r gwasanaethau hyn yn gwneud synnwyr ariannol ac economaidd. Lle medrwn felly, byddwn yn chwilio am ymyriadau fydd yn gwneud synnwyr economaidd a synnwyr amgylcheddol.
O ganlyniad i'r broses Pwyso a Mesur, mae mwy o ffermwyr a chymdeithasau pori wedi gallu ymuno â Glastir eleni. Fodd bynnag, rwyf am gyflymu’r cyfleoedd i ffermwyr allu manteisio ar yr elfennau sydd wedi'u targedu, a neilltuo mwy o arian ar eu cyfer. Sef yr amcanion amgylcheddol anoddach eu gwireddu.
Mae Glastir Uwch a'r Grantiau Effeithiolrwydd wedi'u creu i dargedu arian ar y gweithgarwch fydd yn cael yr effaith fwyaf. Fodd bynnag, mae angen meddwl sut i gymhennu sut mae gwneud hynny er mwyn cael mwy o hyblygrwydd a threfn symlach ond heb aberthu ansawdd y canlyniadau amgylcheddol rydym am eu sicrhau. Er mwyn lleihau'r cymhlethdod, rhaid derbyn y gallai fod yn well bod rhai o'r pethau rydym yn disgwyl i Glastir eu darparu yn cael eu darparu trwy ryw fodd arall. Rwyf wedi gofyn felly i swyddogion Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru ystyried trefniadau posibl eraill ar gyfer ariannu neu gynnal gwaith i helpu Cymru i wireddu'i hamcanion a'i hymrwymiadau amgylcheddol.
Mae cyfle hefyd yn y fan hon, wrth gynnal gweithgarwch wedi'i dargedu fel y rheini yn Glastir Uwch, i ddysgu gwersi elfen Tir Comin y cynllun. Defnyddiwyd hyrwyddwyr a thaliadau i gymell grwpiau o ffermwyr i gydweithio. Roedd buddiannau hynny'n amlwg. Chwilir am gyfleoedd yn awr i'r Llywodraeth a grwpiau o ffermwyr ddilyn yr un math o drywydd yn y Cynllun Datblygu Gwledig nesaf.
Rwyf wedi disgrifio eisoes fy uchelgais i weld pobl Cymru'n gwerthfawrogi rôl bwysig ffermwyr o ran sicrhau canlyniadau amgylcheddol positif ac fel cynhyrchwyr bwyd. Ac rwyf am i ffermwyr weld eu hunain trwy'r llygaid hynny hefyd wrth gwrs. Mae pobl Cymru am weld ffermwyr yn cynhyrchu bwyd ac yn gofalu am yr amgylchedd; nid y naill neu'r llall ond y ddau, a'r ddau i'r un graddau.
Bydd y CDG nesaf yn rhoi pwyslais ar roi cyngor a chefnogaeth a dylai hynny fod yn rhan annatod o'r cynlluniau amaeth-amgylcheddol a'r cynlluniau eraill fydd yn cael eu darparu o dan y CDG nesaf. Ni allwn ddisgwyl i'n rheolwyr tir ddarparu'r cynlluniau hyn yn effeithiol heb yr agwedd meddwl, yr hyfforddiant a'r sgiliau, a heb ddeall yn glir yr hyn yr ydym am ei gyflawni. Yn yr un modd, ni ddylai rheolwyr tir ddisgwyl cymorth ariannol fel mater o drefn gan Lywodraeth Cymru oni bai eu bod yn barod i ymroi a gweithio gyda'r Llywodraeth mewn ffordd bositif ac adeiladol ac i chwilio am yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i allu cynhyrchu bwyd, diogelu'r amgylchedd a chynnal busnesau ffermio llwyddiannus. Ac wrth hynny, rwy'n golygu busnesau fferm proffesiynol a phroffidiol.
Mae'n amlwg bod y gwelliannau hyn wedi gwneud Glastir yn fwy deniadol i reolwyr tir ac mae nifer dda yn dangos diddordeb mewn cymryd rhan ynddo.
Glastir Sylfaenol
2010 - N/A
2011 - N/A
2012 - 1677
2013 - 544
2014* - 2000
Glastir - Tir Comin
2010 - N/A
2011 - N/A
2012 - 107
2013 - 40
2014* - 50
Glastir Uwch
2010 - N/A
2011 - N/A
2012 - 0
2013 - 251
2014* - 800
Glastir - Grantiau Effeitholrwydd
2010 - N/A
2011 - N/A
2012 - 215
2013 - 95
2014* - 95
Glastir - Creu Coetir
2010 - 28
2011 - 212
2012 - 248
2013 - 75*
2014* - N/A
Glastir - Rheoli Coetir
2010 - N/A
2011 - N/A
2012
2013 - 17
2014* - 220
* Mae ffigurau Glastir 2014 yn seiliedig ar y nifer sydd wedi ymuno hyd yma neu ffigurau rhagolwg.
Bydd yn rhaid aros rai blynyddoedd eto i weld trwy ein gwaith monitro a gwerthuso a fydd Glastir wedi llwyddo i wireddu ei amcanion. Mae'r arwyddion cyntaf yn argoeli'n dda ac unwaith eto rwyf am annog ffermwyr nad ydyn nhw eto wedi ymuno â'r cynllun i edrych a gweld drostyn nhw eu hunain beth sydd ganddo i'w gynnig.