Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Mewn Datganiad ar y cyd gennyf i a’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ddiwedd mis Gorffennaf, bu inni hysbysu’r Aelodau o’r camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r diffygion a nodwyd yn ystod arolwg o’r gwasanaethau addysg ar gyfer plant a phobl ifanc ar Ynys Môn.  Dywedwyd bryd hynny y byddem yn hysbysu’r Aelodau o unrhyw ddatblygiadau o ran sefydlu Bwrdd Adfer i gynorthwyo’r awdurdod.  Cyn imi allu gwneud hynny, rwy’n credu ei bod yn werth atgoffa’r Aelodau o’r materion dan sylw.  
Yn dilyn arolwg o’r gwasanaethau addysg ar Ynys Môn ym mis Mai 2012, cyhoeddodd Estyn ei adroddiad ar yr arolwg ddiwedd mis Gorffennaf.  Barn  gyffredinol Estyn oedd bod perfformiad presennol gwasanaethau addysg yr awdurdod lleol yn anfoddhaol, a hefyd bod rhagolygon yr awdurdod lleol ar gyfer gwella yn anfoddhaol.  Yng ngoleuni’r diffygion difrifol iawn hyn, mae Estyn yn credu bod angen mesurau arbennig ar gyfer yr awdurdod hwn.  
Mae Ynys Môn wrth gwrs eisoes yng ngofal Comisiynwyr Llywodraeth Cymru, a benodwyd ym mis Mawrth 2011 i fynd i’r afael â methiannau sylfaenol o ran arweinyddiaeth a llywodraethu corfforaethol.  Mae rôl a chylch gwaith y Comisiynwyr hyn ar y lefel gorfforaethol honno yn unig.  Ni chawsant eu penodi i adfer y gwasanaeth addysg nac unrhyw wasanaeth penodol arall.  Mae angen i adfer ym maes addysg fynd law yn llaw ag adfer corfforaethol o dan arweiniad y Comisiynwyr.  
Ar Medi 25 cyhoeddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ei fod yn bwriadu dechrau dod â’r ymyriad hwn i ben.  O dan y trefniadau hyn, bydd y pwerau sydd gan y Comisiynwyr ar hyn o bryd yn dychwelyd i’r Cyngor.  Bydd y Comisiynwyr yn aros, gyda’u pwerau i gadarnhau neu wrthdroi unrhyw benderfyniad gan y Cyngor sy’n mynd yn erbyn cyngor swyddogion statudol.  Mae hyn yn sicrhau diogelwch sy’n hanfodol ac yn caniatáu inni brofi pa mor gadarn yw adferiad y Cyngor mewn sefyllfa sydd dan reolaeth.  Mae’r Gweinidog wedi lleihau nifer y comisiynwyr hefyd o 5 i 3 – daw y trefniant hwn i rym ar 1 Hydref.  
Fodd bynnag, nid yw hyn yn tynnu oddi wrth yr ymyriad rwy’n bwriadu ei drefnu mewn perthynas â swyddogaethau addysg yr awdurdod lleol.  Gyda chefnogaeth lawn y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, rwy’n cyhoeddi heddiw sefydlu Bwrdd Adfer i gynorthwyo a chynghori Comisiynwyr Llywodraeth y Cynulliad ac i herio a chefnogi swyddogion ac aelodau’r  Cyngor ym maes gwasanaethau addysg Ynys Môn.  (Dyma ddull tebyg i’r hyn a ddefnyddiodd y cyn-Weinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes Jane Hutt yn llwyddiannus gyda gwasanaethau addysg Sir Ddinbych yn 2008).  Y prif wahaniaeth yw y bydd modd i’r Comisiynwyr gamu i mewn ar unwaith os nad yw’r Cyngor yn cymeryd camau priodol neu gyflym i gywiro pethau.  
Heddiw rwy’n cyhoeddi aelodau’r Bwrdd hwnnw.  
Bydd y Bwrdd dan gadeiryddiaeth yr Athro Mel Ainscow, Athro Addysg a chyd-gyfarwyddwr y Centre for Equity in Education ym Manceinion.  Mel oedd Prif Gynghorydd ‘the Greater Manchester Challenge’ ac roedd yn brifathro cyn hynny, arolygydd awdurdod addysg lleol a darlithydd ym Mhrifysgol Caergrawnt.  
Bydd y Bwrdd hefyd yn cynnwys Geraint Rees, Pennaeth Gweithredol Ffederasiwn Glyn Derw a Michaelston.  Bydd aelodau eraill y Bwrdd yn cynnwys uwch swyddog addysg Llywodraeth Cymru a’r Dr Chris Llewellyn o CLlLC.    
Cynhelir cyfarfod cyntaf y Bwrdd yn ystod mis Hydref 2012 ac ar ôl hynny bydd yn rhoi adroddiadau imi ar y cynnydd sy’n digwydd.  
Byddaf yn adolygu strwythur ac aelodaeth y bwrdd wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo; pe byddai angen cynyddu aelodaeth y Bwrdd yn y dyfodol byddaf yn ychwanegu aelodau eraill i’r tasglu hwn cyn gynted â phosibl.  Pe byddai hyn yn digwydd, byddaf wrth gwrs yn gwneud datganiad arall i’r Cynulliad i’w hysbysu o’r manylion hynny.