Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Chwefror 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mewn Datganiad a gyhoeddwyd ar y cyd gennyf i a’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ddechrau mis Hydref, rhoddwyd gwybod i Aelodau am y camau a gymerir i fynd i’r afael â’r gwendidau a nodwyd yn ystod arolygiad o wasanaethau addysg i blant a phobl ifanc ym Môn. Roeddem yn dweud y byddem yn rhoi gwybod i Weinidogion am y cynnydd a wneir yn sgil creu Bwrdd Adfer i gefnogi’r awdurdod.

Ers mis Tachwedd, mae Bwrdd Adfer Ynys Môn wedi cyfarfod yn fisol gan sicrhau bod y sefyllfa’n gwella o dipyn i beth, gyda swyddog yn cael ei secondio i’r awdurdod lleol fel Rheolwr Prosiect amser llawn er mwyn cynnig cymorth o ran yr her a’r broses.

Fel y dywedais yn fy natganiad ym mis Hydref, byddaf yn parhau i adolygu strwythur ac aelodaeth y bwrdd wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Roeddwn wedi addo y byddai mwy o aelodau yn cael eu penodi i’r tasglu bach hwn cyn gynted â phosibl, pe bai angen rhagor o aelodau ar y bwrdd. Ar ôl ystyried yr aelodaeth a’r strwythur presennol, rwyf o’r farn bod angen penodi aelod arall.  

Bydd aelod ychwanegol yn ymuno â’r Bwrdd ym mis Chwefror er mwyn sicrhau cynrychiolaeth gydradd i’r Sector Addysg Gynradd. Bydd hynny’n cryfhau ymhellach yr wybodaeth, yr arbenigedd a’r profiad sydd ar gael i’r Bwrdd, a bydd Jano Owen, Pennaeth Ysgol Bro Tryweryn yng Ngwynedd, yn ymuno â’r aelodau presennol.

Byddaf yn sicrhau bod fy nghydweithwyr yn parhau i gael y newyddion diweddaraf am hynt y gwaith hwn.