Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Mewn datganiad a gyhoeddais i ar y cyd â’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ddechrau mis Hydref, rhoesom wybod i’r Aelodau am y camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r diffygion a ddaeth i’r amlwg yn ystod archwiliad gael ei gynnal o wasanaethau addysg i blant a phobl ifanc yn Ynys Môn. Dywedom y byddem yn rhoi’r diweddaraf i’r Aelodau am y cynnydd a fyddai’n cael ei wneud o ran sefydlu Bwrdd Adfer i gefnogi’r awdurdod.
Ym mis Chwefror, rhoddais wybod i’r Aelodau fy mod i’n penodi aelod arall i’r tasglu hwn er mwyn ychwanegu at wybodaeth, arbenigedd a phrofiad yr aelodau gyda chynrychiolaeth o’r Sector Addysg Gynradd.
Heddiw, rwy’n cyhoeddi newid arall i aelodaeth y bwrdd adfer, gan fy mod yn penodi aelod annibynnol arall, sef Viv Thomas, i gymryd lle’r swyddog o Lywodraeth Cymru sy’n aelod o’r bwrdd ar hyn o bryd.
Mae Viv Thomas yn gyn-Gyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae ef hefyd yn gyn-Gadeirydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Adolygu Strwythurau Addysg fel rhan o’r Adolygiad o Wasanaethau Rheng Flaen ac yn gyn-aelod o Fwrdd Gweinidogol Sir Benfro. Mae’n dod â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd i’r Bwrdd.
Byddaf yn parhau i roi’r diweddaraf i’m cydweithwyr am y cynnydd a fydd yn cael ei wneud.