Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mewn datganiadau gan fy rhagflaenydd, dywedwyd wrth yr Aelodau am y camau gweithredu sydd ar droed i fynd i’r afael â’r diffygion a nodwyd yn ystod yr arolygiad a gynhaliwyd o’r gwasanaethau addysg ar gyfer plant a phobl ifanc yn Sir Fynwy. Dywedwyd y byddem yn rhoi gwybod i’r Aelodau am unrhyw ddatblygiadau mewn perthynas â’r Bwrdd Adfer a sefydlwyd gennym i gefnogi’r awdurdod.

Dyma gyhoeddi heddiw y bydd aelodaeth y bwrdd adfer yn cael ei newid. Rwyf yn ychwanegu at aelodaeth y bwrdd er mwyn rhoi rhagor o gefnogaeth i’r awdurdod, ym maes gwella ysgolion yn benodol. Am hynny felly, rwyf yn penodi Eileen Barnes Vachell yn aelod o Fwrdd Sir Fynwy.

Mae gan Eileen gefndir ym maes gwella ysgolion o weithio fel Cynghorydd Brocera yn yr Adran Addysg ac mae’n un o gyn-gynghorwyr Her Llundain. Mae Eileen hefyd wedi gweithio fel arolygydd OFSTED.

Gan fod Eileen hefyd yn aelod o Fwrdd Adfer Ynys Môn ar hyn o bryd bydd modd iddi ddefnyddio ei phrofiad o weld y daith i adfer a fu yno yn Sir Fynwy. Mae hyn yn adeiladu ar ddull gweithredu’r adran o rannu profiad ac arbenigedd ar draws y byrddau yn ogystal â rhyngddynt.

Byddaf yn parhau i roi gwybod am unrhyw ddatblygiadau pellach i’r Aelodau.