Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 19 Ionawr cyhoeddom ein hymateb fesul llinell i argymhellion Burns gyda chytundeb eang o'u pwysigrwydd i'r rhanbarth hwn.  Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y mater.

Rydym bellach yn bwrw ymlaen â phenodi Simon Gibson CBE yn Gadeirydd y Bwrdd Cyflawni. Dr Lynn Sloman MBE, cyn Gomisiynydd Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru (SEWTC), fydd yr Is-gadeirydd iddo. Gyda'i gilydd byddant yn goruchwylio hynt y 58 o argymhellion Burns gan yr Uned a sefydlwyd yn Trafnidiaeth Cymru, y cymeradwywyd cyllideb o dros £4miliwn ar ei gyfer ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Bydd y Bwrdd yn cwrdd yr wythnos hon (dydd Gwener 26 Mawrth) dan gadeiryddiaeth Simon am y tro cyntaf.

Ochr yn ochr â chynllunio hirdymor ar gyfer gweithredu'r mesurau, ymrwymodd y llywodraeth hon i nodi mesurau blaenoriaeth y gellid eu datblygu'n gyflym. Rydym i gyd am weld camau pendant yn cael eu cymryd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad, gyda gwell opsiynau teithio i bawb.

Gan weithio gyda'r awdurdodau lleol perthnasol, a chael cefnogaeth Trafnidiaeth Cymru, rydym wedi cytuno i gyflymu gwaith datblygu;

- coridorau trafnidiaeth rhwng Caerdydd a Chasnewydd

- y gyfnewidfa yng Nghanol Casnewydd, yn ogystal ag ad-drefnu cylchfan gyfagos Old Green.

- Gwell mynediad i orsaf reilffordd Cyffordd Twnnel Hafren sy'n strategol bwysig yn Sir Fynwy.

Mae Uned Datblygu Burns Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am ddatblygu opsiynau ar gyfer yr uchod i'w hystyried gan awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.  Wrth gwrs, rhaid i opsiynau gyflawni amcanion strategol a lleol, a defnyddir ffordd newydd o weithio i sicrhau bod haenau'r llywodraeth yn cydweithio i ddod o hyd i'r atebion cywir.

Bydd y gwaith datblygu hwn yn digwydd dros y flwyddyn nesaf.  Yn amodol ar gymeradwyaeth gan bob parti, gallai'r mesurau wedyn fod yn destun ymgynghoriad i ddarganfod yr ateb a ffefrir cyn penderfynu a ddylid symud ymlaen i'r cam dylunio manwl, prosesu statudol ac adeiladu.

Mae uwchraddio Prif Linell De Cymru yn rhan graidd o argymhellion Burns.  Rydym yn y camau olaf o gytuno gyda Network Rail i gefnogi adnodd i Drafnidiaeth Cymru integreiddio eu syniadau'n uniongyrchol â'n cynlluniau ar gyfer y rhanbarth.