Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Wrth i’r wyna agosáu, mae’n amser da i’ch diweddaru am sefyllfa feirws Schmallenberg (SBV).

Beth yw SBV?

Mae SBV yn effeithio ar ddefaid, gwartheg a geifr ac mae llawer o achosion ohono i’w gweld yng Ngogledd a Gorllewin Ewrop gan gynnwys Cymru a Lloegr.   Mae’n gallu achosi clefyd ysgafn/cymhedrol byr mewn gwartheg llawndwf ac mae ŵyn, lloi a mynnod geifr yn gallu cael eu herthylu’n gynnar neu eu geni â nam arnynt.  Mae’r coesau wedi’u hanffurfio ac mae’r ffordd y mae’r ymennydd wedi tyfu’n abnormal.  Mae’r clefyd yn cael ei gario gan wybed ac mae’n gallu lledaenu dros ardaloedd mawr yn weddol gyflym.  

Nid yw arwyddion clinigol mewn gwartheg llawndwf yn para’n hir iawn ac mae’r clefyd yn weddol ysgafn.  Mae anifeiliaid sy’n cael eu heintio yn datblygu imiwnedd da a dim ond os yw’r anifail yn cael ei effeithio yn ystod beichiogrwydd cynnar y mae’r problemau mwyaf yn gallu digwydd.  Nid oes unrhyw dystiolaeth i ddangos y gall y clefyd hwn effeithio ar bobl.

Nid yw Schmallenberg yn glefyd hysbysadwy felly nid oes yna unrhyw ofynion adrodd cyfreithiol na chyfyngiadau yn eu lle.  Nid yw’n hysbysadwy gan y byddai’r baich y byddai hynny’n ei roi ar ffermwyr o ran cyfyngiadau, a’r trethdalwyr yn anghymesur â’r budd y gellir ei gael.  

Camau gweithredu’r llywodraeth

Yn ystod haf 2012, aeth y Llywodraeth ati i gynnal profion gwyliadwriaeth er mwyn darganfod pa mor eang yr oedd yr SBV wedi lledaenu.  Hefyd, mae’r Llywodraeth yn ariannu ymchwil yn y DU ac mae’n cydweithio â llawer o raglenni’r Undeb Ewropeaidd er mwyn ceisio deall y clefyd yn well a sut mae’n lledaenu.  Bydd canlyniadau’r ymchwil hwn yn cael ei rannu â’r diwydiant yn y man.

Rydym yn cydweithio agos â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a'r Labordai Milfeddygol (AHVLA), Defra a rhanddeiliaid trwy Grŵp Llywio’r Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid i fonitro’r clefyd ac i hysbysu ffermwyr Cymru o’r sefyllfa.  Rydym wedi hysbysu rhanddeiliaid o sefyllfa’r clefyd ac wedi rhoi gwybodaeth, trwy ein cyfarfodydd â rhanddeiliaid, negeseuon a’r wefan.  

Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i weithio’n agos â’r AHVLA, rhanddeiliaid a gweinyddiaethau eraill i fonitro’r clefyd a rhoi gwybodaeth a chyngor cyson fel y daw ar gael.

Y sefyllfa bresennol

O gynnal y profion gwyliadwriaeth yn 2012, gwelwyd bod SBV wedi lledaenu ar draws y rhan fwyaf o Gymru a Lloegr.  Mae gwybed ar eu prysuraf ddiwedd yr haf / ddechrau hydref a dyma’r amser pan fydd defaid yn cael eu paru.  Mae dafad yn feichiog am 5 mis ac felly, os caiff y ddafad ei heintio yr adeg hon, ni chawn weld effaith y clefyd tan y gwanwyn canlynol.  Yn ystod mis Rhagfyr a mis Ionawr, daethom o hyd i’r achos clinigol cyntaf o SBV mewn oen wedi’i gamffurfio - ar 11 Ionawr, roedd 21 o achosion o ŵyn wedi’u hanffurfio.  Mae’n debygol y bydd rhagor o ŵyn a lloi wedi’u camffurfio yn cael eu geni yng Nghymru eleni am fod eu mamau wedi cael eu heintio gan y clefyd SBV yn 2012. 

Effaith SBV

Bydd yr effaith a gaiff y clefyd SBV ar yr anifeiliaid yn dibynnu pryd y cawsant eu heintio a phryd yn ystod eu beichiogrwydd yr oeddynt.  Mae tystiolaeth gan yr AHVLA yn awgrymu bod rhwng 2-5% o anifeiliaid, ar gyfartaledd, wedi rhoi genedigaeth i oen neu lo bach sydd wedi’i gamffurfio o fewn diadell sydd wedi’i heintio.  Mae’n bosibl i’r ffigur hwn fod yn uwch mewn rhai achosion.  Mae yna hefyd ffactorau eraill sy’n gallu achosi ffermwyr i golli ŵyn bach; diffyg maeth oherwydd tywydd garw yn 2012.

Cyngor i ffermwyr

Rwy’n deall bod SBV yn achosi llawer iawn o bryder i ffermwyr – yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn.  Rydym yn cynghori ffermwyr i gadw llygad am arwyddion y clefyd.  Gall anffurfiant mewn anifeiliaid newydd-anedig (sy’n cael eu hachosi gan SBV neu ffactorau eraill) gynyddu cymhlethdodau yn ystod genedigaeth gan arwain at broblemau lles fydd o bosib angen help gan filfeddyg.  Dylai ffermwyr fod yn effro i’r posibilrwydd hwn a gofyn i’w milfeddyg am gyngor.  Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i ffermwyr a milfeddygon ar y camau y gellir eu cymryd i ddiogelu’u hanifeiliaid rhag cael eu heintio cyn neu ystod beichiogrwydd cynnar.  

Ar hyn o bryd, nid oes yna ffordd o drin SBV yn effeithiol ac mae’n anodd iawn rheoli gwybed hefyd.  Nid oes yna frechlyn ar gyfer SBV ar y foment er ein bod yn deall bod nifer o gwmnïau yn gweithio ar ddatblygu brechlyn a bod cais wedi cael ei wneud am ganiatâd i farchnata brechlyn.  Unwaith bydd brechlyn ar gael, dylai ffermwyr drafod sut i’w ddefnyddio gyda’u milfeddyg.

Byddwn yn adolygu’r mater hwn yn rheolaidd a phan ddaw gwybodaeth newydd i law, byddwn yn rhannu’r wybodaeth gyda chi.