Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am lifogydd 20 a 21 Tachwedd. Mae rhai adroddiadau wrthi’n cael eu cadarnhau ac mae’r sefyllfa’n newid o hyd.
Rydym wedi dod i glywed bod y llifogydd wedi effeithio ar eiddo ym Maes-teg, Trebefered, Penarth, y Barri, Llan-faes a Phontllanfraith. Mae rhwng 30mm a 40mm o law wedi cwympo yn nalgylchoedd yr ardaloedd hyn ers rhyw 2am y bore yma, gan lenwi’r afonydd yn gyflym. Yn ôl adroddiadau’r cyfryngau, ceir llifogydd ym Mhen-coed, Cwm Ogwr a Llanilltud Fawr. Mae Bro Morgannwg wedi agor eu hystafell argyfwng i gyd-drefnu’r ymateb.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wrthi’n ymdrin ag asedau fel cwlfertydd sydd wedi cau a chlirio sgriniau llifogydd. Am 5pm, roedd 3 rhybudd llifogydd wedi’u rhoi, ar gyfer Ewenni, Trebefered, Pont-iets, Pont-henri a Phontyberem ac 14 rhybudd ‘byddwch yn barod’. Bydd staff CNC yn monitro’r sefyllfa dros nos.
Mae’r glaw wedi effeithio ar rannau helaeth o’r De, gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi gorfod ymateb i dros 50 o achosion o lifogydd dros y deuddydd diwethaf. Hoffwn ddiolch yn ddidwyll iawn i bawb o’r Gwasanaeth Tân ac Achub, CNC ac Awdurdodau Lleol am eu hymateb i ddigwyddiadau o dan amodau anodd.
Amharwyd yn fawr ar wasanaethau Lein Cymoedd Caerdydd oherwydd llifogydd yn Llandŵ ac yn Eastbrook ym Mro Morgannwg. Tarfwyd yn fawr ar y gwasanaethau rhwng Ynys y Barri a Chaerdydd Canolog a rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd Canolog. Dylai teithwyr holi’r cwmni trenau cyn teithio. Mae rhai gwasanaethau Great Western Railway i’r ddau gyfeiriad rhwng Llundain a’r De wedi’u canslo oherwydd llifogydd yn Lloegr.
Bydd hi’n bwrw glaw yn drwm ac yn ddi-dor mewn llawer ardal yng Nghymru drwy’r gyda’r nos heno. Cawn gyfnodau o dywydd sychach gyda’r nos a thros nos ond disgwylir cawodydd trwm hefyd a byddan nhw’n debygol o achosi rhagor o lifogydd ar y ffyrdd o gwmpas Cymru.
Disgwylir i bethau wella ddydd Mawrth22 Tachwedd mewn llawer rhan o’r wlad gyda chyfnodau sychach ond ambell i gawod drom. Disgwylir i’r ardal o bwysedd isel sy’n gyfrifol am y tywydd gwlyb a gwyntog symud i ogledd Prydain nos Fawrth gan ganiatáu i amodau lawer gwell gyrraedd Cymru dros weddill yr wythnos a’r penwythnos.
Am wybodaeth am y llifogydd a’r rhybuddion diweddaraf, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Ceir arni wybodaeth ddefnyddiol ynghylch beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.
Os carai unigolion air â rhywun neu rhagor o gyngor, dylen nhw gysylltu â’r Llinell Lifogydd ar 0345 988 1188.
Bydd yr Awdurdod Lleol yn ymchwilio i’r digwyddiadau hyn dros yr wythnosau i ddod i gadarnhau’r niferoedd a phenderfynu beth oedd achos y llifogydd ym mhob ardal.