Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dangos ei hymrwymiad i weithio mewn ffordd adeiladol gyda llywodraeth newydd y DU. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn y cyfnod hwn o bwysau ariannol, lle rydym yn wynebu cyllidebau anodd tra’n ceisio gwarchod ein hadferiad economaidd bregus yng Nghymru. Rydym wedi bod yn glir ynghylch lle rydym yn mynd ar drywydd gwahanol, ond rydym wedi parhau i gynnal trafodaethau adeiladol i ddelio â materion sydd o ddiddordeb cyffredin. Dros y naw mis diwethaf rwyf wedi cynnal nifer o gyfarfodydd gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys i drafod materion sydd o bwys i Gymru, drwy gyfrwng cyfarfodydd personol a thrwy gyfarfodydd pedeirochr y Gweinidog dros Gyllid.
Roeddwn yn falch i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys dderbyn gwahoddiad y Pwyllgor Cyllid i gyflwyno tystiolaeth ym mis Tachwedd y llynedd, a chefais y cyfle i gwrdd ag ef yn syth ar ôl y sesiwn honno. Cawsom drafodaeth adeiladol ynghylch ystod o faterion cyfredol, ac rwyf bellach wedi cael ateb gan y Prif Ysgrifennydd i’m llythyr yn dilyn y trafodaethau hyn.
Yn ein cyfarfod, canolbwyntiais i a’r Prif Ysgrifennydd ar gynigion y Comisiwn Holtham, ac yn arbennig ar yr angen i roi arian gwaelodol ar waith ar unwaith i helpu i fynd i’r afael â’n tangyllido presennol. Parthed y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr ail adroddiad ar 12 Hydref 2010, rhoddais eglurhad a chadarnhad i’r Prif Ysgrifennydd bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi rhoi cymeradwyaeth unfrydol i Lywodraeth y DU roi arian gwaelodol ar waith ar unwaith, ond wedi cytuno mai mater yn y dyfodol i bobl Cymru fyddai pwerau trethu.
Mae’r Prif Ysgrifennydd wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth y DU yn ystyried cynigion Comisiwn Holtham gyda ni ar ôl y refferendwm. Yn hanfodol, mae’r Prif Ysgrifennydd wedi cytuno y dylai’r trafodaethau hyn gynnwys y cynnig am arian gwaelodol ac mae wedi cytuno y dylai’n swyddogion gwrdd yn y Flwyddyn Newydd i drafod yr agwedd hon ar adroddiad y Comisiwn Holtham.
Dywedais wrth y Prif Ysgrifennydd y bydd eu penderfyniad i ddibrisio’n dyraniadau Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn yn cymryd bron £400m sy’n ddyledus i Gymru y pleidleisiodd Senedd y DU i’w roi i ni. Mae hyn yn hynod o siomedig, yn enwedig yng ngoleuni’r hyn rydym yn gwybod am ein cyllideb dros y blynyddoedd nesaf. Nododd y Prif Ysgrifennydd fy mhryderon ac mae wedi cadarnhau y bydd modd trosglwyddo tanwariant a gynllunnir yn flynyddol o 2011/12 ymlaen. Rwy’n edrych ymlaen at weld y canllawiau llawn ar y system i ni roi sylw arnynt.
Rwyf i a’r Dirprwy Weinidog dros Dai wedi trafod yn rheolaidd y sefyllfa gyllido anghyson yng Nghymru o ran Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai, ac mae’r Prif Ysgrifennydd wedi cadarnhau y dylai swyddogion drafod y posibilrwydd o gymhwyso diwygiadau Lloegr at Lywodraeth Cynulliad Cymru, a fyddai’n lleddfu’n pryderon ynghylch colli gwarged.
Pwysleisiais i’r Prif Ysgrifennydd pa mor bwysig yw Cronfeydd Strwythurol yr UE yng Nghymru, yn enwedig yng nghyd-destun trafodaethau cyllideb yr UE. Cadarnhaodd y byddai Llywodraeth y DU yn ystyried ein safbwyntiau mewn trafodaethau yr UE yn y dyfodol. Yn yr un modd, llwyddais i bwysleisio y byddai’r penderfyniad i beidio ag ailddefnyddio enillion yr Ymrwymiad Lleihau Carbon yn rhoi pwysau ariannol sylweddol ar sefydliadau yng Nghymru.
Byddaf yn rhoi copi o lythyr y Prif Ysgrifennydd i’r Trysorlys yn Llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol, cyn belled â’i fod yn cytuno â hynny, a byddaf yn anfon copi ohono i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Rwy’n edrych ymlaen at gael trafodaeth barhaus gyda’r Prif Ysgrifennydd ynghylch materion Cymru, ac at barhau â’m trafodaethau rheolaidd gyda’r Cynulliad, ei Bwyllgorau a’i aelodau ynglŷn â materion ariannol a chyllido allweddol