Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddiwygio'r dreth gyngor yng Nghymru, canlyniadau ein hymgynghoriad Cam 2 diweddar, a'n cynlluniau parhaus i wneud y system yn decach a'i diweddaru. 

Wrth ystyried sut i weithredu’r agenda gymhleth hon sy’n effeithio ar aelwydydd ledled Cymru, ein nod yw creu system sy'n deg yn y modd y caiff ei gweithredu a’i chyflwyno. 

Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am y gwaith manwl rydym wedi'i gynnal gyda'n gilydd, sy'n seiliedig ar ein hymrwymiad ar y cyd i ddiwygio'r dreth gyngor. Rwy'n ddiolchgar hefyd i’n partneriaid llywodraeth leol am ymwneud â’r mater hwn sy'n gofyn am weithio mewn partneriaeth a chyfaddawdau er mwyn sicrhau datrysiadau. Wrth ystyried effaith cyflwyno'r newidiadau, rydym yn ystyriol o'r angen i roi sefydlogrwydd i gyrff llywodraeth leol wrth iddynt weithio i ddiogelu gwasanaethau ar adeg o bwysau sylweddol. 

Rwy'n hynod ddiolchgar i bawb a ymatebodd i'n hymgynghoriad Cam 2. Cafwyd cyfanswm o 1,676 o ymatebion gan aelodau'r cyhoedd ac ystod eang o sefydliadau arbenigol. Ar y cyfan, roedd 67% o'r ymatebwyr eisiau rhai newidiadau i'r dreth gyngor gan ddewis math o system. Roedd y gefnogaeth fwyaf i ddiwygiadau ar raddfa fach (32%), er bod grŵp sylweddol (23%) wedi nodi ei fod yn ffafrio fersiwn ehangach o ddiwygio. 

O ran cyflymder cyflwyno'r newidiadau, y dewis a gafodd y gefnogaeth fwyaf oedd amserlen ddiwygio arafach. Dewisodd 35% o'r ymatebwyr yr amserlen hon, a fyddai'n dechrau yn 2028. Roedd 24% o'r ymatebwyr yn ffafrio'r amserlen gyflymaf (a fyddai'n dechrau o 2025 ymlaen) ac roedd 17% o'r ymatebwyr yn ffafrio gweithredu fesul cam. 

Ar ôl ystyried yn ofalus yr ymatebion i'r ymgynghoriad a'r sgwrs gyhoeddus ehangach, rwy'n bwriadu rhoi’r broses o ddiwygio'r dreth gyngor ar waith dros amserlen arafach, yn unol â barn y mwyafrif o'r rhai a ymatebodd i'n hymgynghoriad. Rydym bellach yn bwriadu cyflwyno'r diwygiadau strwythurol i'r system dreth gyngor o 2028 ymlaen. Serch hynny, byddaf yn rhoi gwelliannau eraill ar waith erbyn diwedd tymor y Senedd. Wrth edrych ar opsiynau ar gyfer diwygio, rydym hefyd wedi ystyried yr angen am gronfa bontio briodol a'r goblygiadau uniongyrchol y byddai cronfa o'r fath yn eu cael ar y pwysau ariannol ehangach sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd. Credaf fod y dull hwn yn dangos ymrwymiad parhaus i drethiant teg a blaengar, yn ogystal ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wrando ar bobl Cymru. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i'n nod o wneud y dreth gyngor yn decach a'i diweddaru. Rydym eisoes wedi cyflawni llawer iawn tuag at y nod hwn ac rwy'n awyddus yn awr i amlinellu llwybr clir a phendant ar gyfer cyflawni gwelliannau pellach o 2028 ymlaen. 

Cymru yw'r unig wlad yn y DU sydd wedi ailbrisio'r dreth gyngor, sy'n golygu y caiff y dreth gyngor yn Lloegr a'r Alban ei chodi o hyd yn unol â gwerth eiddo yn 1991. Fodd bynnag, mae bandiau’r dreth gyngor yng Nghymru nawr wedi'u seilio ar wybodaeth sydd fwy nag ugain mlynedd ar ei hôl hi.  Rydym wrthi'n sefydlu cylchoedd ailbrisio rheolaidd ym Mil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) y mae'r Senedd yn craffu arno ar hyn o bryd. Byddaf yn cyflwyno gwelliant i'r Bil i ddechrau prosesau ailbrisio bob pum mlynedd o 2028 ymlaen. Bydd hyn yn cadw'r dreth gyngor yn deg ac yn ymatebol i amgylchiadau economaidd. Bydd hefyd yn rhoi cyfle rheolaidd i drethdalwyr ymwneud â'r broses ailbrisio, gan wella’r tryloywder ynglŷn â sut y mae pethau'n gweithio. Mae rhoi diweddariadau rheolaidd ar sail statudol yn rhoi’r eglurder y mawr ei angen i drethdalwyr ac awdurdodau lleol. 

O ran ailbrisio, rydym wedi gwneud cynnydd rhagorol. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi datblygu technoleg newydd yn sgil trafodaeth ag arbenigwyr rhyngwladol ar ddulliau prisio. Mae gennym bellach systemau ar waith sy'n darparu gwybodaeth gynhwysfawr a chadarn am y gwerthoedd eiddo diweddaraf er mwyn ein helpu i roi'r diwygiadau hyn ar waith yn 2028. 

Rydym hefyd yn bwriadu rheoleiddio erbyn diwedd tymor y Senedd hon i wella'r broses apelio fel ei bod yn symlach, yn fwy effeithiol ac yn haws ei defnyddio. Rydym yn gweithio gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio i wella tryloywder gwybodaeth a'r modd y gall trethdalwyr gymryd rhan yn y broses prisio eiddo. Nod hyn yw sicrhau bod yr asiantaeth yn gallu darparu gwasanaeth gwell a mwy modern i drethdalwyr. 

Byddwn yn rheoleiddio erbyn diwedd y Senedd hon i helpu aelwydydd sy'n wynebu ôl-ddyledion. Bwriadwn egluro a gwella'r camau y gall awdurdodau lleol eu cymryd yn ystod y broses orfodi er mwyn sicrhau ein bod yn gwreiddio arferion gorau wrth ddelio ag aelwydydd sy'n ei chael yn fwyaf anodd, gan sicrhau bod y rhai sy'n gallu fforddio cyfrannu yn gwneud hynny.

Hoffwn gydnabod cyfraniad sylweddol y Sefydliad Astudiaethau Cyllid tuag at y gwaith o ddiwygio’r dreth gyngor. Roedd adroddiad y Sefydliad, ochr yn ochr â'n hymgynghoriad Cam 2 ni, yn darparu asesiad manwl o'r posibiliadau. Byddwn yn mireinio'r opsiynau ac yn parhau i weithio gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio, llywodraeth leol a'r cyhoedd ar ddylunio treth gyngor decach a'i rhoi ar waith. 

Rydym hefyd, drwy Fil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), yn deddfu ar gyfer yr hyblygrwydd ychwanegol sydd  ei angen arnom o ran disgowntiau a gostyngiadau fel eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben ymhell i'r dyfodol. Mae bron i hanner aelwydydd Cymru yn cael rhyw fath o ddisgownt neu ostyngiad ar eu bil treth gyngor, gan gynnwys cymorth hanfodol a ddarperir i aelwydydd incwm isel drwy ein Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Rydym yn ymgynghori ar fesurau i wneud Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn haws ei ddefnyddio ac yn symlach i'w roi ar waith. Rydym wedi ymrwymo i gadw'r disgownt un oedolyn ac i gadw lefel y disgownt ar 25%, gan leihau'r dreth gyngor ar gyfer hanner miliwn o gartrefi. Gan fod y nifer sy'n manteisio ar fathau eraill o gymorth yn gallu bod yn isel neu'n amrywiol, mae'r gostyngiad un oedolyn yn bwysig i lawer o aelwydydd yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau ariannol.

Yn olaf, rydym yn adolygu'r wybodaeth sydd ar gael i drethdalwyr ynghylch y dreth gyngor er mwyn codi ymwybyddiaeth o sut mae'n gweithio a'r hyn y mae'n talu amdano, gan ystyried y cyfraniad y mae'n ei wneud at wasanaethau megis addysg, gofal cymdeithasol, tai a phlismona. 

Mae'r dreth gyngor yn parhau i fod yn elfen hollbwysig o'r ffordd rydym yn ariannu llywodraeth leol yng Nghymru. Mae pawb bron yn elwa mewn rhyw ffordd ar y cyfraniad y mae'n ei wneud i waith ein hawdurdodau lleol. Fodd bynnag, mae'n rhaid inni sicrhau bod y dull ar gyfer casglu’r dreth gyngor yn deg ac wedi’i seilio ar yr wybodaeth orau a mwyaf cyson sydd ar gael inni. Yn ogystal, mae’n rhaid inni gydnabod y pwysau ariannol y mae cartrefi yn ei wynebu ar hyn o bryd. 

Byddaf yn parhau i weithio drwy'r heriau hyn yn y blynyddoedd sydd i ddod. Rwyf hefyd yn diogelu gwasanaethau lleol gymaint â phosibl ar adeg o bwysau enfawr ar gyllideb Llywodraeth Cymru a chyllidebau llywodraeth leol.

Mae’r gwaith uchod yn mynd i'r afael â'n hymrwymiad i greu system dreth gyngor sy'n decach gan sicrhau bod ein trefniadau yn deg o ran eu gweithredu a’u cyflwyno.