Jeremy Miles, Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Fel y bydd yr aelodau’n ymwybodol, mae’r Prif Weinidog wedi gofyn imi ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros gynrychioli buddiannau Cymru mewn perthynas â masnach ryngwladol o ganlyniad i’r newid i gyfrifoldebau Gweinidogion fis diwethaf. Wrth inni nesáu at ddiwedd y Cyfnod Pontio, rydym ar fin colli’r sicrwydd a ddaw o fod yn rhan o floc masnachu mwyaf y byd. Yn ei le, am y tro cyntaf mewn bron 50 mlynedd, mae’r DU yn cynnal polisi masnach annibynnol ac, fel rhan allweddol o hyn, mae’n ceisio negodi cytundebau masnach rydd gydag UDA, Awstralia a Seland Newydd. Mae pob dadansoddiad credadwy yn awgrymu na fyddai’r cytundebau masnach posibl hyn, gyda’i gilydd, yn gwneud iawn mewn unrhyw ffordd am golli mynediad i farchnad yr UE sydd ar fin digwydd inni. Dylai cytundebau masnach rydd gyda’r gwledydd blaenoriaeth hyn fod yn ychwanegol at gytundeb masnach cynhwysfawr â’r UE, ac nid ei ddisodli.
Pwrpas y datganiad hwn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am drafodaethau Llywodraeth y DU â phartneriaid masnach newydd; sut mae’r Llywodraethau Datganoledig yn cyfrannu at y trafodaethau hynny; a sut rydym yn gwrando ar fusnesau a chymunedau Cymru.
Cytundebau Parhad
Cafodd y cytundeb masnach gyda Siapan ei lofnodi ar 23 Hydref. Mae hyn yn disodli’r cytundeb a oedd gennym yn flaenorol fel rhan o’r UE. Rydym yn croesawu’r cytundeb hwn gan y bydd yn rhoi parhad a sicrwydd i fusnesau Cymru ar ôl i’r Cyfnod Pontio ddod i ben.
Rydym hefyd yn cydnabod bod y cytundeb yn cynnig manteision penodol o ran data a thechnoleg seibr ac mae posibilrwydd y bydd ein cynnyrch unigryw o Gymru, megis cig oen a halen môr Môn yn cael ei gydnabod yn Siapan. Fodd bynnag, dylem gofio y byddem wedi cael cytundeb sydd bron yn union yr un fath petaem wedi aros yn yr UE. Mewn gwirionedd, mae Llywodraeth y DU yn gorfod ymdrechu’n galed i gael cytundebau sy’n cyfateb i’r rheini oedd gennym eisoes fel rhan o’r UE.
Mae’r cytundeb â Siapan yn rhan o raglen parhau masnach Llywodraeth y DU i “barhau” â'r holl gytundebau masnach presennol gyda’r UE. Mae oddeutu 21 o gytundebau o’r fath wedi’u llofnodi hyd yma ac mae trafodaethau ar oddeutu 17 cytundeb yn parhau. Mae nifer o’r gwledydd hyn yn fach ac ychydig o fasnachu sydd â Chymru, ac eithrio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd/EFTA a Thwrci. Mae Llywodraeth y DU yn anelu at roi’r holl drefniadau parhad ar waith erbyn diwedd y Cyfnod Pontio, ond mae’r amser yn brin erbyn hyn. Os na fydd yn llwyddo i wneud hyn, gallai busnesau wynebu rhwystrau newydd rhag masnachu â gwledydd yr effeithir arnynt.
Cytundebau Masnach newydd
Fel y nodwyd eisoes, mae Llywodraeth y DU yn cynnal trafodaethau ar hyn o bryd gyda nifer o wledydd blaenoriaeth – UDA, Awstralia a Seland Newydd. O’r rhain, mae’n amlwg mai UDA yw’r un a allai fod fwyaf arwyddocaol, a gallai gael effaith fawr ar fasnach yng Nghymru. Digwyddodd y pumed cylch o drafodaethau gydag UDA ym mis Hydref.
Er bod manteision posibl pwysig i fusnesau Cymru o gael mwy o fynediad at farchnadoedd yr Unol Daleithiau, mae bygythiadau gwirioneddol hefyd i’n heconomi a’n cymdeithas. Rydym wedi bod yn glir iawn gyda Llywodraeth y DU ei bod yn rhaid diogelu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru rhag unrhyw gonsesiynau a allai agor y drws i gorfforaethau UDA. Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld pa mor gwbl hanfodol inni yw gwasanaeth iechyd gwladol sy’n eiddo cyhoeddus, sydd am ddim i’r defnyddiwr ac sy’n ymateb i gynllunio cydlynol ar draws y system, a byddwn yn parhau i ddadlau’n gryf dros hyn.
Rydym hefyd yn benderfynol o gynnal ein safonau uchel ar ddiogelwch bwyd, ac iechyd a lles anifeiliaid, ac i ddiogelu ein diwydiant amaethyddol rhag cystadleuaeth annheg. Mae angen inni sicrhau hefyd nad yw’r cytundeb masnach rydd yn llesteirio ein hymdrechion mewn unrhyw ffordd i ymateb yn frwdfrydig i’r argyfwng hinsawdd. Felly, gallai cytundeb masnach ag UDA beryglu cytundeb â’r UE. Byddwn yn parhau i wneud yn glir bod yn rhaid inni flaenoriaethu’r berthynas â’r UE fel ein partner masnachu pwysicaf.
Dechreuodd y DU drafod ag Awstralia ar 29 Gorffennaf a dechreuodd yr ail rownd ym mis Medi. Ar 18 Mehefin, dechreuodd y trafod â Seland Newydd. Dim ond 1% o gyfanswm allforion Cymru rydym ni’n ei allforio i’r ddwy wlad. Ac ystyried maint eu heconomïau a’u bod mor bell, ni fydd unrhyw enillion yn debygol o fod yn fawr iawn. Rhaid inni sicrhau na fydd unrhyw gytundebau masnach ag Awstralia, neu Seland Newydd, yn arwain at lacio sylweddol na chyflym ar y tariffau ar y nwyddau amaethyddol mwyaf sensitif, oherwydd gallai hyn danseilio hyfywedd ein cymunedau gwledig. Mae’n bosibl bod mwy o risgiau na manteision i Gymru agor ei marchnadoedd i Awstralia a Seland Newydd.
Ein perthynas â pholisi Masnach y DU
Yn ein papur polisi ‘Polisi Masnach: Materion Cymru’, fe wnaethom nodi ein barn ynghylch pam mae cydweithredu rhwng llywodraethau wrth fasnachu mor bwysig, a’r strwythur gorau ar gyfer hyn. Mae’n hanfodol ein bod yn gallu creu consensws ar draws y DU a chreu cysylltiadau masnach newydd gyda gweledigaeth gyffredin. Mae hyn yn cryfhau sefyllfa negodi’r DU, ac yn diogelu’r undeb.
Er bod y berthynas â Llywodraeth y DU ar fasnach ryngwladol y tu hwnt i’r Undeb Ewropeaidd yn well nag yw mewn sawl maes polisi arall, mae lle o hyd am ddull gweithredu mwy tryloyw ac aeddfed gan Lywodraeth y DU. Mae llawer o wledydd neu flociau masnachu yn gweithio’n agos gyda’u gwledydd cyfansoddol (neu’n fwy cyffredinol, gwladwriaethau neu ranbarthau) i ddod o hyd i safbwyntiau cyffredin cyn dechrau trafodaethau rhyngwladol, felly nid yw hyn yn ddim byd newydd. Rydym am fod yn bartneriaid adeiladol ac ni ddylai ein cyfraniad fod yn ymarfer ‘ticio blychau’. Dyna pam y byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ffurfioli sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd drwy lofnodi’r concordat.
Rwyf yn falch bod Llywodraeth y DU wedi cytuno i sefydlu Fforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach. Mae’r fforwm wedi cyfarfod deirgwaith eleni hyd yma, ym mis Ionawr, Ebrill a Gorffennaf, ac mae’r trafodaethau wedi bod yn adeiladol. Er bod hyn yn gadarnhaol, mae llawer mwy o bryder ynghylch datblygiadau sy’n digwydd ar ffurf Bil y Farchnad Fewnol, sydd nid yn unig yn ceisio torri cyfraith ryngwladol o ran Protocol Gogledd Iwerddon ond sy’n ymosodiad difrifol ar y setliad datganoli hefyd. Bydd yr Aelodau’n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo gwelliannau sylweddol i’r Bil yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Wrth i’r holl drafodaethau hyn fynd rhagddynt, mae’n hanfodol bod diwydiannau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael eu diogelu. I wneud hyn, mae angen inni ddeall beth sy’n digwydd ar lawr gwlad gyda busnesau allforio Cymru a rhanddeiliaid eraill. Felly, rydym wedi sefydlu’r Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach i ddod ag arweinwyr diwydiannau allweddol, gwasanaethau cyhoeddus a mudiadau’r sector gwirfoddol ynghyd. Rwy’n ddiolchgar i’r rheini sydd wedi cytuno i wasanaethu ar y Grŵp hwn.