Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Yn dilyn fy nghyhoeddiad yn y Ffair Aeaf, derbyniodd dros hanner busnesau ffermio Cymru eu rhandaliad Cynllun y Taliad Sylfaenol (oddeutu 80% o gyfanswm taliadau busnesau ffermio unigol), yn ystod wythnos gyntaf y ffenestr dalu o saith mis (1 Rhag 2015 – 30 Mehefin 2016). Rwyf yn falch o roi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau bod 67% o fusnesau ffermio wedi derbyn eu rhandaliad o Gynllun y Taliad Sylfaenol yn ystod Rhagfyr 2015.
Rydym bellach wedi talu 70% o’n busnesau fferm, mae hyn yn golygu ein bod wedi cyrraedd y targed a gyhoeddwyd gennym ac yn cymharu’n ffafriol iawn â’r sefyllfa yn Lloegr a’r Alban. Mae Taliadau Gwledig Cymru yn parhau i fod ar y trywydd iawn i dalu mwyafrif llethol y ffermwyr yn yr wythnosau a ddaw. Bydd achosion mwy cymhleth yn cymeryd mwy o amser i’w talu. Byddwn yn cysylltu â’r ffermwyr hynny sydd heb eu talu erbyn diwedd Ionawr i roi’r newyddion diweddaraf iddynt am y datblygiadau, a rhoi gwybod iddynt pryd yr oeddent yn debygol o dderbyn taliad. Bydd y taliadau olaf (20%) yn cael eu gwneud ym mis Ebrill, yn unol â’r targed a gyhoeddwyd gennym.
O ystyried pa mor gymhleth yw rhoi cynllun newydd ar waith, a’r heriau a wynebwyd gennym ar y ffordd, rwy’n siwr y bydd yr Aelodau yn cytuno bod hyn yn llwyddiant mawr.
I’n helpu i sicrhau ein bod yn cadw at y perfformiad uchod - y gorau ym Mhrydain, mae’n rhaid imi ofyn i ffermwyr barhau i beidio â ffonio y Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid yn holi am eu taliad, gan y bydd hyn yn rhwystro’r staff rhag prosesu taliadau ac felly yn golygu y bydd oedi wrth dalu. Mae hyn yn rhywbeth fyddai neb am ei weld - gan gynnwys y ffermwyr. Os ydym angen gwybodaeth gan ffermwyr i brosesu eu hawliad byddwn yn cysylltu ar unwaith. Fodd bynnag, os yw yr Aelodau yn gwybod am etholwyr sy’n dioddef problemau ariannol difrifol, a fyddech cystal â’m hysbysu o hyn.
Rwy’n falch o’ch hysbysu, er mwyn helpu inni ddelio ag ymholiadau ffermwyr a’u pryderon ynghylch mapio coed ac ardaloedd eraill anghymwys, rwyf wedi cyflwyno proses apelio cam 1 symlach. Dim ond anfon neges at Daliadau Gwledig Cymru Ar-lein sy’n rhaid i ffermwr ei wneud, neu ysgrifennu/ anfon e-bost gyda Chyfeirnod y Cwsmer, eu Henw Masnachu a chyfeirnodau eu caeau, a bydd y staff yn defnyddio’r wybodaeth hon i wirio hyn ac yna ymateb yn gyflym i’r ymholiad.
Rwy’n gobeithio y bydd y ffermwyr yn defnyddio’r cyfleuster hwn yn synhwyrol ac yn gymesur, ac na fyddant yn tynnu sylw ein staff yn ddi-angen oddi wrth y mater pwysig o dalu’r rhandaliadau sy’n weddill.
Hoffwn gymeryd y cyfle hwn i ddiolch i’r nifer fawr iawn o bobl sy’n rhan o hyn, gan gynnwys Undeb Ffermwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol Ffermwyr Cymru, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru, asiantaethau ac eraill, sydd wedi gweithio’n ddi-flino ac mewn partneriaeth â’m swyddogion yn ystod cyfnod Ffurflen y Cais Sengl a thu hwnt i hynny i sicrhau canlyniadau mor gryf yn y flwyddyn gyntaf a heriol hon o Gynllun newydd y Taliad Sylfaenol.