Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn dilyn fy natganiad ym mis Hydref, ynglŷn â pharatoi ar gyfer gaeaf 2019/20, rwy’n gwneud y datganiad hwn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am bwysau’r gaeaf ar draws y system iechyd a gofal.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith yn rhagor i staff ledled y GIG a’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru sy’n gweithio mor galed i ddarparu gofal ar gyfer pobl Cymru. Mae’r gaeaf yn gyfnod heriol bob amser, ond eleni – yn fwy nag unrhyw flwyddyn arall – rydym wedi gweld pwysau di-baid ar draws y system, ac mae hynny wedi creu amgylchedd gweithio hynod o anodd i’r staff rheng-flaen.
Dechreuodd y gwaith cynllunio ar ddechrau 2019, yn seiliedig ar adolygiad o gadernid y ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod gaeaf 2018/19.
Rwyf wedi sicrhau bod £30m ar gael i’r byrddau iechyd a’r awdurdodau lleol, a hynny yn gynharach yn y flwyddyn nag erioed o’r blaen er mwyn cefnogi cynlluniau ar gyfer y gaeaf. Eleni, am y tro cyntaf, rwyf wedi neilltuo rhan sylweddol o’r cyllid hwn ar gyfer y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn benodol. Ein bwriad oedd sicrhau bod byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd, a chyda partneriaid eraill, i gyd-gynllunio gwasanaethau ar draws eu cymuned iechyd a gofal cymdeithasol.
Cafodd y cynlluniau iechyd a gofal cymdeithasol integredig a baratowyd ar gyfer y gaeaf eu cwblhau’n derfynol ym mis Hydref 2019, a dyma enghreifftiau o’r gwelliannau i wasanaethau:
- Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cyflwyno nifer o gynlluniau i gynyddu capasiti yn ystod cyfnod y gaeaf, gan gynnwys sicrhau bod rhagor o glinigwyr yn ei ganolfan gyswllt glinigol, i gefnogi, cyfeirio, a rhyddhau cleifion dros y ffôn
- Cynyddu capasiti’r gofal sylfaenol a ddarperir y tu allan i oriau, ac ehangu mynediad at feddygon teulu yn ystod penwythnosau a chyda’r nos, drwy gynnal cynlluniau peilot mewn rhannau o Gymru
- Ymestyn gwasanaeth 'Llesiant a Gartre’n Ddiogel' ar gyfer Adrannau Brys – sef gwasanaeth a ddarperir gan y Groes Goch Brydeinig – am chwe mis arall mewn wyth adran frys, gan ei ehangu i dri safle ychwanegol, er mwyn cefnogi staff a gwella profiad y claf
- Darparu gwasanaethau integredig megis rhaglen 'Cadw’n Iach Gartref' Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a rhaglen Adre o’r Ysbyty Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sy’n rhoi cymorth i bobl yn eu cartrefi ac yn y gymuned, gan osgoi derbyn pobl i’r ysbyty’n ddiangen, a sicrhau bod y cleifion mewn ysbytai’n cael eu rhyddhau’n amserol
- Bydd 400 o welyau neu ddarpariaeth gyfatebol ychwanegol ar gael ar safleoedd ledled Cymru yn ystod y gaeaf. Mae hynny’n cyfateb i ysbyty cyffredinol dosbarth mawr o ran maint y capasiti y mae hyn yn ei ychwanegu at y system.
Mae pwysau ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan yn cynyddu yn ystod misoedd y gaeaf, a hynny oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys y ffaith bod pobl sydd â norofeirws a symptomau tebyg i’r ffliw yn mynd i’r adrannau brys, a bod cynnydd yn nifer y bobl hŷn a’r cleifion sy’n salach sy’n mynd i’r adrannau hyn.
Er i’r tywydd fod yn gymharol fwyn hyd yn hyn y gaeaf hwn, rydym wedi gweld pwysau eithriadol ar draws ein system drwy gydol cyfnod yr ŵyl a dechrau mis Ionawr. Mae’r data a gyhoeddwyd heddiw, ar gyfer y cyfnod 18 Rhagfyr 2019 hyd at 5 Ionawr 2020, yn dangos nifer o adegau o gynnydd sydyn yng ngweithgarwch y gwasanaeth ambiwlans, y llinell ffôn sy’n darparu cyngor, a gwasanaethau adrannau argyfwng. Mae’r math hwn o gynnydd sydyn yn rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau, a bydd yn cymryd amser iddynt ddychwelyd i’w sefyllfa arferol. Hefyd bu gwahaniaeth amlwg yn lefel a natur y galw ar draws y gwasanaethau argyfwng a gofal brys.
Er enghraifft:
- Bu cynnydd o 23% yn nifer y galwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol, neu alwadau Coch, i Wasanaeth Ambiwlans Cymru o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd [troednodyn 1]. Hefyd bu cynnydd o 8.4% yn nifer y galwadau Oren yn ystod yr un cyfnod.
- Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru dros 100 o alwadau Coch, bob dydd ar 8 allan o’r 17 o ddiwrnodau hynny, gyda’r nifer uchaf, sef o 119 o alwadau, ar 20 Rhagfyr.
- Gwelodd yr adrannau brys y nifer uchaf o bobl erioed yn ystod cyfnod yr ŵyl, gyda nifer o adegau o gynnydd sylweddol a sydyn yn eu gweithgarwch a oedd yn achosi pwysau eithriadol ar rai diwrnodau [troednodyn 2].
- O fewn y cynnydd ehangach hwn yn nifer y bobl a ddefnyddiodd y gwasanaethau, bu cynnydd o 8.4% yn nifer y bobl dros 75 oed o’i gymharu â’r llynedd, a chynnydd o 8.6% o’i gymharu a phum mlynedd yn ôl.
- Bu cynnydd o 5.2% mewn derbyniadau brys ymhlith pobl dros 75 oed o’i gymharu â’r llynedd.
Mae’r lefel hon o bwysau ychwanegol, yn dod â heriau sylweddol, ac yn anffodus, o ganlyniad, mae rhai cleifion wedi aros yn hirach cyn cael mynediad at ofal. Hefyd mae’r pwysau’n cael effaith ar lesiant y staff, ac mae ymrwymiad a sgil y timau rheng-flaen yn amlwg wrth iddynt weithio i barhau i ddarparu gofal amserol i’r rhan fwyaf o bobl.
Yn ystod y dyddiau diwethaf, rydym wedi gweld effeithiau ehangach y pwysau ychwanegol hyn ar rannau eraill o’r system, gyda rhai triniaethau a oedd wedi eu trefnu’n cael eu gohirio ar safleoedd ledled Cymru er mwyn ymdopi â’r cynnydd yn y galw ar gyfer ymdrin ag achosion brys.
Fel arfer, mae sefydliadau’n lleihau nifer y llawdriniaethau sy’n cael eu trefnu ar gyfer cyfnod y gaeaf, yn enwedig ym mhythefnos cyntaf y flwyddyn newydd. Maent yn gwneud hynny er mwyn sicrhau bod digon o gapasiti i gleifion y mae angen eu derbyn ar frys. Hoffwn bwysleisio bod y triniaethau dan sylw wedi cael eu gohirio yn hytrach na’u canslo, ac y byddant yn digwydd ar ddyddiad yn nes ymlaen.
Wrth edrych i’r dyfodol, rwyf wedi ystyried y cynnydd a wnaed yn erbyn argymhellion yr adolygiad o alwadau Oren a wnaed i Wasanaeth Ambiwlans Cymru, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2018.
Roedd yr adolygiad o alwadau Oren yn dangos mai nifer yr ambiwlansiau a oedd ar gael oedd y prif ffactor y tu ôl i brydlondeb yr ymatebion i alwadau Oren. Nododd yr adolygiad amryw o faterion sy’n lleihau nifer yr adnoddau ambiwlans sydd ar gael, gan gynnig argymhellion i wella’r sefyllfa. Gwnaed cynnydd yn erbyn yr argymhellion hynny, ond rwy’n credu y bydd angen gwneud mwy er mwyn inni allu sicrhau’r gwelliannau y mae eu hangen ar y gwasanaeth ambiwlans.
Oherwydd yr amgylchedd gweithredu newidiol, mae’n glir nad yw’n bosibl gwella’r ymateb i alwadau Oren mewn modd sydd wedi ei ynysu o’r materion ehangach sy’n ymwneud â pha mor ar gael y mae ambiwlansiau’n gyffredinol.
Rwyf wedi penderfynu sefydlu Tasglu Gweinidogol ar argaeledd ambiwlansiau, gan arwain ar y canlynol:
- Gweithredu argymhellion o adolygiad annibynnol a gomisiynwyd yn ddiweddar i ystyried galwadau a chapasiti
- Darparu llwybrau amgen ac atebion yn y gymuned yn gyflym er mwyn atal cleifion rhag cael eu cludo i adrannau brys yn ddiangen
- Sicrhau bod y broses a ddefnyddir gan y criwiau ambiwlans i drosglwyddo’r claf mor effeithlon â phosibl
- Gwella perfformiad mewn perthynas â galwadau Coch.
- Adeiladu ar y cynnydd a wnaed gan Raglen Gweithredu’r Adolygiad o Alwadau Oren
Bydd y tasglu’n cael ei gadeirio ar y cyd gan Stephen Harrhy, Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans a’r Athro David Lockey, Cyfarwyddwr Cenedlaethol EMRTS Cymru, a bydd yr aelodaeth yn cynnwys arweinwyr perthnasol o wahanol rannau o’r system iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn ogystal â chanolbwyntio ar yr ymateb i alwadau Oren, bydd y dull gweithredu hwn yn ystyried yr angen i sicrhau gwelliannau ehangach sy’n adlewyrchu’r ffaith bod yr amgylchedd yn newid, gan gynnwys y sefyllfa newidiol o ran galwadau Coch a’r perfformiad sy’n gysylltiedig â nhw; y cynnydd yn yr oedi sy’n digwydd yn y broses o drosglwyddo’r claf; a’r dirwedd iechyd a gofal cymdeithasol ehangach.
Yn olaf, bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’r effaith y gallai’r oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansiau ei chael ar brofiad y claf a chanlyniadau clinigol, sef oedi sy’n digwydd oherwydd cyfyngderau ar y capasiti sy’n ymwneud ag argaeledd ambiwlansiau.
Rwy’n pryderu am y dirywiad mewn perfformiad sy’n ymwneud â throsglwyddo cleifion o ambiwlansiau yn ystod y misoedd diweddar. Fel cam y gellir ei gymryd yn syth, rwyf wedi gofyn i swyddogion ddatblygu cynigion ar gyfer system o gymhellion er mwyn sicrhau’r gwelliannau y mae eu hangen. Rwy’n disgwyl gwneud penderfyniad o fewn yr wythnos neu ddwy nesaf er mwyn inni allu cyflwyno’r system newydd mewn pryd i gael effaith ar berfformiad yn ystod y gaeaf hwn.
Bydd hon yn un elfen o ddull gweithredu ehangach ar gyfer gweithredu cymhellion a fydd maes o law yn canolbwyntio ar rannau eraill o’r system argyfwng a gofal brys er mwyn ysgogi gwelliannau mewn perfformiad.
[1] Fel rhan o’r adolygiad parhaus o’r model ymateb clinigol, mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn cynnal adolygiadau rheolaidd o’i arferion ymdrin â galwadau a sut mae’n categoreiddio digwyddiadau. Cafodd ei harferion ymdrin â galwadau eu diweddaru yn ystod yr haf eleni, gan arwain at gynnydd yn nifer y galwadau coch. Mae rhagor o waith yn cael ei wneud i ddeall y newid hwn. Felly, ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl cymharu nifer y galwadau coch a dderbyniwyd dros y misoedd diwethaf.
[2] Mae cymariaethau â phum mlynedd yn ôl wedi cael eu gwneud yn erbyn yr ystadegau swyddogol ar gyfer y cyfnod, yn hytrach na gwybodaeth reoli’r GIG ei hun. Mae gan wybodaeth reoli’r GIG cyn 2018-19 nifer uchel o gofnodion nad ydynt yn nodi oedran. Gan fod gwahaniaethau rhwng yr wybodaeth reoli a’r ystadegau swyddogol, mae’n bosibl bod y newid, mewn gwirionedd,yn wahanol i’r 8.6% a nodir.