Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Addewais i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad Cenedlaethol am hynt y gwaith o weithredu’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol diwygiedig ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) yng Nghymru.

Mae’r CPCP yn gymhwyster gorfodol i bob ymarferydd yng Nghymru sydd am fynd yn bennaeth ysgol. Yn ddiweddar, adolygwyd y trefniadau a ddefnyddir mewn perthynas â gweithlu ysgolion Cymru i gynnal safonau proffesiynol, rheoli perfformiad a sicrhau datblygu proffesiynol parhaus. Casgliadau’r adolygiad hwnnw oedd bod angen cryn ddiwygio ar y trefniadau presennol yng Nghymru.

O ganlyniad, lluniwyd ffordd newydd o ddarparu’r CPCP, fel y’i nodir yn Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) (Diwygio) 2011. Y prif newid oedd gwneud yr CPCP yn asesiad trylwyr o ymarfer ymgeiswyr gan weithwyr proffesiynol profiadol, a hynny yn erbyn y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth a oedd mewn grym ar y pryd. Roedd yr ymchwil a gynhaliwyd gan Estyn ac eraill wedi dangos nad oedd yr hen fodel yn gweithio, a bod angen ei newid.

Cynhaliwyd rhaglen beilot yn 2011 i dreialu’r ffordd newydd o ddarparu’r cymhwyster. Mae’r egwyddorion eu hunain yn rhai sydd wedi hen ennill eu plwyf ac maent yn seiliedig ar ymchwil ryngwladol. Nod y rhaglen beilot felly oedd treialu’r broses ar gyfer dyfarnu’r CPCP.

Mae’n dda gennyf ddweud wrth yr aelodau mai llwyddiant oedd y rhaglen beilot, ac hefyd fod y rhanddeiliaid o’r farn fod y ffordd newydd o ddarparu’r CPCP yn welliant amlwg o’i chymharu a’r model blaenorol. Mae’r dull gweithredu diwygiedig hwn bellach wedi ei gyflwyno i gohort newydd o ymgeiswyr ledled Cymru gan defnyddio’r Safonau Arweinyddiaeth newydd.

Ar ddiwedd y Peilot, cysylltodd fy swyddogion ag amrywiaeth o bobl a oedd wedi cymryd rhan ynddo. Roeddent yn cynnwys cynrychiolwyr o gonsortia, uwch-weithwyr proffesiynol a oedd wedi asesu ymgeiswyr, yr ymgeiswyr eu hunain, a swyddogion awdurdodau lleol a oedd wedi cynorthwyo’r ymgeiswyr yn ystod y broses.

Y neges glir gan bawb ledled Cymru yw bod y CPCP ar ei newydd wedd yn drylwyr, yn heriol, ac yn gadarn ei seiliau, a dim ond yr ymgeiswyr sy’n gallu dangos eu bod yn bodloni’r Safonau Arweinyddiaeth sy’n cael ennill y cymhwyster i fynd ymlaen i arwain ysgolion yng Nghymru. Hefyd, roedd yn amlwg bod y Peilot wedi llwyddo i gyflawni ei brif nod, sef annog ymgeiswyr i fyfyrio ar eu hymarfer, a chanolbwyntio ar effaith eu gwaith.

Roedd llwyddiant y Peilot yn dibynnu ar ewyllys da consortia ac ymarferwyr ledled Cymru, a hoffwn dalu teyrnged i’w parodrwydd i weithio gyda Llywodraeth Cymru yn y maes pwysig hwn.

Lle’r oedd gwersi i’w dysgu, rydym wedi gwrando ac wedi gwneud y newidiadau priodol yn barod ar gyfer cyflwyno’r CPCP diwygiedig yn genedlaethol. Mae’r gwaith o’i gyflwyno bellach bron wedi ei gwblhau. Sicrhawyd na fu unrhyw fwlch yn y ddarpariaeth o benaethiaid ar gyfer ysgolion yng Nghymru. Roedd yna fwy o ymgeiswyr (82) wedi cymryd rhan yn y cyflwyniad cenedlaethol o’r CPCP. Maent i gyd bellach wedi cael eu hasesu. Mae’r cymedroli bellach wedi ei gwblhau ac mae’r canlyniadau ar gyfer y cylch asesu wedi eu cadarnhau, yn amodol ar unrhyw apeliadau. Mae’r cyflwyniad cenedlaethol hefyd wedi mynd rhagddo’n dda ac, pan y bydd wedi ei gwblhau’n derfynol, fe fydd fy swyddogion yn edrych a oes unrhyw wersi pellach i’w dysgu ar gyfer cylchoedd asesu y dyfodol.

Rhan o broses y CPCP fydd adolygu’r sefyllfa’n barhaus i wneud yn siŵr bod nifer yr ymgeiswyr yng nghylchoedd y dyfodol yn briodol. Er mwyn asesu’r anghenion ar gyfer y dyfodol, byddwn yn cydweithio ag awdurdodau lleol a chonsortia addysg i sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng nifer yr ymgeiswyr a nifer y swyddi gwag a ragwelir ar y naill law, ac ar y llaw arall sicrhau bod digon o ymgeiswyr i greu cystadleuaeth iach ar gyfer pob swydd wag.

Bydd y dull newydd o ddarparu’r CPCP yn golygu bod yr ymgeiswyr sy’n ennill y cymhwyster yn gallu dangos eu bod yn meddu ar y safonau, y sgiliau a’r rhinweddau angenrheidiol; a’u bod yn barod ar gyfer ymgymryd â swydd pennaeth.

Mae gan arweinwyr ein hysgolion rôl allweddol yn yr ymdrechion i wella eu safonau. Mae’r CPCP diwygiedig yn rhan allweddol o’r ymgyrch i sicrhau bod gan y genhedlaeth nesaf o arweinwyr ysgolion y sgiliau a’r rhinweddau y mae eu hangen i sicrhau gwelliannau go iawn i blant a phobl ifanc Cymru.