Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod cyfleoedd chwarae yn werthfawr tu hwnt a’u bod yn bwysig iawn i fywydau plant yn ein cymdeithas. Mae gan blant hawl sylfaenol i allu chwarae, mae hynny'n bwysig er mwyn iddynt fwynhau bywyd ac mae'n cyfrannu at eu hiechyd, eu llesiant a’u datblygiad.  

Ym mis Tachwedd, fe wnaethom nodi 30 mlynedd ers i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn amlinellu’r hawl i chwarae yn Erthygl 31. Mae Cymru’n ymfalchïo mai ni oedd wlad gyntaf yn y byd i ddiogelu hynny mewn cyfraith. Wrth ddathlu’r garreg filltir hon, mae’n bwysig inni barhau i gydnabod yr hawl unigryw hwnnw, a’r cyfraniad a all wneud i lawer o’n gwasanaethau ehangach. Rwyf wedi penderfynu cynnal Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae am y rheswm hwnnw.

Mae nifer o newidiadau deddfwriaethol allweddol wedi digwydd ers y tro diwethaf inni adolygu’r polisi chwarae yn 2014 wrth gyhoeddi Cymru: Gwlad lle mae cyfle i chwarae. Rydym hefyd yn ymwybodol bod cyflymder bywyd yn cynyddu i blant yn ogystal ag oedolion. Mae’r pwysau sy’n ymwneud ag addysg a gweithgarwch ffurfiol yn golygu bod plant yn fwy prysur nag erioed. Mae cyfarpar digidol yn dipyn o atyniad gyda gliniaduron, cyfrifiaduron llechi a ffonau clyfar ar gael yn rhwydd. Mae felly’n bwysicach nag erioed i ni sicrhau bod gan blant yr amser a’r gofod i fod yn blant – i greu, i ddychmygu ac i chwarae.

Nod yr adolygiad felly yw asesu lle ydyn ni erbyn hyn o ran y polisi chwarae a chyfrannu at y ffordd y byddwn yn datblygu ac yn symud ymlaen yr agenda chwarae yn y dyfodol. Bydd yr adolygiad yn ystyried y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer chwarae, ac a yw'r weledigaeth honno yn parhau i fod yn berthnasol. Bydd yn amlinellu’r camau y mae angen eu cymryd i symud ymlaen gyda’r agenda chwarae er mwyn cyflawni’r weledigaeth.

Mae Grŵp Llywio wedi’i sefydlu i gefnogi’r adolygiad, ac mae'n cynnwys sefydliadau allweddol o’r sector gwaith chwarae a swyddogion polisi o amrywiol adrannau Llywodraeth Cymru. Cyfarfu’r Grŵp Llywio ym mis Hydref 2019 i ddechrau amlinellu’r materion sy’n ymwneud â chwarae a’r opsiynau cychwynnol.

Rydym hefyd wedi nodi’r meysydd canlynol y mae angen i ni eu hystyried ymhellach:

Cofrestru Lleoliadau / Rheoleiddio Lleoliadau / Eithriadau

Mae angen i ni edrych ar gofrestru a rheoleiddio lleoliadau gwaith chwarae, gan gynnwys yr eithriadau. Byddwn yn edrych ar fodelau o bob rhan o'r DU a'r tu hwnt i weld beth y gallwn ei ddysgu.

Dyletswydd Cyfleoedd Chware Digonol, Cyllid a Gweithio Traws Bolisïau  

Mae Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Awdurdodau Lleol 2019 yn dangos cynnydd da er gwaethaf materion cyllid a chapasiti staff. Mae cydweithio a gwaith partneriaeth yn parhau ar draws adrannau a meysydd polisi, ond mae mwy i'w wneud ar y lefel leol a chanolog. Dyna pam rydym wedi sicrhau bod gennym gynrychiolwyr o feysydd iechyd, cynllunio, addysg, trafnidiaeth, tai, chwaraeon a hamdden yn ymwneud â'r gwaith hwn.

Rwyf hefyd wedi cytuno i edrych eto ar drefniadau cyllido fel rhan o'r adolygiad hwn, ond gan ystyried y sefyllfa ariannol ehangach, nid oes modd i mi wneud unrhyw ymrwymiad nac addewidion cyn cael canfyddiadau'r adolygiad.

Y Gweithlu

Wrth i amser ar gyfer chwarae digymell leihau, mae darpariaeth chwarae wedi'i staffio yn mynd yn bwysicach nag erioed. Rhaid inni helpu'r gweithlu gwerthfawr hwnnw i gyflawni eu potensial llawn. Byddwn yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer hyfforddiant a chymwysterau, yn ogystal â phroffesiynoli'r gweithlu.

Cyfiawnder Gofodol a Chyfranogiad Cymdeithas

Rhaid i ni sicrhau bod ein hamgylchedd a'n cymdeithas yn annog ac yn croesawu cyfleoedd chwarae. Mae angen inni edrych ar sut y gallwn ddatblygu'r ymgyrchoedd chwarae gwych sydd eisoes ar waith yng Nghymru, fel Plentyndod Chwareus, i wneud yn siŵr bod pob oedolyn yn deall ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd chwarae.

Er bod rhain i gyd yn feysydd pwysig iawn er mwyn sicrhau dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer chwarae, nid oes modd i ni anghofio am farn plant a phobl ifanc eu hunain. Rydym yn gweithio gyda Cymru Ifanc i gynnwys plant a phobl ifanc yn yr adolygiad, a bydd ganddynt swyddogaeth hanfodol wrth sicrhau bod ein gweledigaeth, ein nodau a'n gweithredoedd o ddifrif yn darparu cyfleoedd chwarae i bawb.

Rwy'n bwriadu ymgynghori ar unrhyw newidiadau i'r polisi chwarae sy'n cael eu hargymell gan yr adolygiad yn ystod 2020.