Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ym mis Mawrth fe gyhoeddais benodi’r Athro Graham Donaldson i arwain adolygiad annibynnol cynhwysfawr eang ei gwmpas ynghylch y trefniadau asesu a’r cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru. Gofynnais iddo gyflwyno gweledigaeth glir a chydlynol ar gyfer addysg yng Nghymru o'r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4, gan gysylltu’n uniongyrchol â'n system gymwysterau newydd.
Rwyf wedi derbyn diweddariad gan yr Athro Donaldson ar yr hyn a wnaed hyd yma o ran yr adolygiad. Gwn fod gan nifer ohonoch chi ddiddordeb yn yr adolygiad hwn felly credaf y byddai’n ddefnyddiol rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf gan yr Athro Donaldson â chi ar yr adeg yma. Gallwch ddefnyddio’r ddolen ganlynol i weld y diweddariad.
Mae’n arbennig o galonogol clywed am yr “ymateb hynod bositif ac adeiladol” a gafodd yr Athro Donaldson wrth iddo gasglu ynghyd ei dystiolaeth drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid – yn eu plith benaethiaid, athrawon, disgyblion, rhieni a nifer o sefydliadau ac unigolion allweddol sydd â diddordeb ym maes addysg ledled Cymru. Mae hyn yn amlwg o’r 713 o ymatebion a dderbyniodd i’w gais am dystiolaeth a gwn i rai ohonoch chi eich hunain ymateb yn uniongyrchol i’r cais yma.
Yn ei ddiweddariad, awgryma’r Athro Donaldson ei fod yn datblygu set o egwyddorion ar gyfer cynllunio cwricwlwm y bydd yn eu defnyddio nid yn unig i werthuso arferion cyfredol ond hefyd i gyfeirio a phrofi ei gynigion at y dyfodol. Mae’r rhain wedi’u cynnwys mewn atodiad i’w ddiweddariad ond da o beth fyddai cael golwg arnynt rhag-blaen:
Dylai’r cwricwlwm:
fod yn ddilys: wedi’i wreiddio yng ngwerthoedd a diwylliant Cymru gan gyd-fynd â chyfres o ddibenion y cytunwyd arnynt a’u datgan;
cael ei seilio ar dystiolaeth: manteisio ar yr arferion gorau yng Nghymru ac o fannau eraill ac yn seiliedig ar ymchwil gadarn;
ymateb i wahanol anghenion: gan fod yn berthnasol i anghenion heddiw (yn unigol, yn lleol ac yn genedlaethol) ond gan roi hefyd yr wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau sydd eu hangen ar bobl ifanc i wynebu heriau’r dyfodol fel dysgwyr gydol oes;
bod yn gynhwysol: hawdd i bawb ei ddeall – gan gynnwys yr hawl i addysg o safon uchel i bob plentyn a pherson ifanc ac ystyried eu safbwyntiau yng nghyd-destun Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a safbwyntiau rhieni a’r gymdeithas ehangach;
bod yn uchelgeisiol: gan gynnwys disgwyliadau uchel a pheidio â phennu terfynau artiffisial ar gyflawniad a her i bob plentyn a pherson ifanc;
grymuso: datblygu cymwyseddau a fydd yn galluogi pobl ifanc i allu wynebu heriau eu bywydau yn y dyfodol yn hyderus;
uno: sicrhau dilyniant a llif gydag elfennau sy’n cyfuno ac yn datblygu i ffurfio undod;
ennyn diddordeb: annog mwynhad wrth ddysgu a boddhad wrth feistroli pynciau heriol;
cael ei seilio ar sybsidiaredd: ennyn hyder pawb ac annog perchnogaeth a phenderfyniadau priodol gan y rhai sydd agosaf at y broses ddysgu ac addysgu;
bod yn hylaw: cydnabod y goblygiadau o ran y trefniadau asesu ac atebolrwydd priodol a chael cefnogaeth y trefniadau hynny hefyd.
Yr hyn sy’n glir o’r hyn sydd yn niweddariad yr Athro Donaldson, wrth i ni adeiladu ar y cryfderau sydd eisoes yn bodoli yn ein system, yw y bydd goblygiadau sylweddol i’w gynigion o ran ein cwricwlwm yma yng Nghymru a hefyd o ran asesu cynnydd ein plant a’n pobl ifanc yn y dyfodol. Wrth i’r Athro Donaldson lunio ei adroddiad terfynol felly rydw i wedi gofyn iddo ystyried sut y gellid rhoi ei argymhellion ar waith yn y tymor hir, gan edrych hefyd ar faterion yn ymwneud â chefnogi a datblygu capasiti’r gweithlu yn ogystal â’r system ehangach.
Edrychaf ymlaen at dderbyn adroddiad terfynol yr Athro Donaldson fel mae’n siwr yr ydym ni i gyd. Bydd yn cael ei gyflwyno yn y flwyddyn newydd ac edrychaf ymlaen at rannu ei gynnwys gyda chi cyn gynted ag y bydd yn ymarferol wedi hynny.