Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy'n falch o gael rhoi'r newyddion diweddaraf am y gwaith a wnaed o ran Dysgu ar gyfer Troseddwyr ers fy natganiad ym mis Mawrth. Mae hyn hefyd yn gyfle i mi ddweud wrthych am ein dull gweithredu ni ar gyfer cyfoethogi addysg a chyfleoedd cyflogaeth i droseddwyr yng Nghymru.

Mae trafod â'r sector cyfan, gan gynnwys y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, Gyrfa Cymru, y sector gwirfoddol, Sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn ogystal â phartneriaid yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus, yn elfen sylfaenol ar gyfer gwireddu unrhyw uchelgais yn y maes hwn. Rwy'n benderfynol o barhau i wella ein trafodaethau gyda'r holl bartneriaid o’r fath er mwyn gwella deilliannau addysgol  a chanlyniadau cyflogaeth i bob dyn yng ngharchardai Cymru, a phob menyw o Gymru yng ngharchardai Lloegr.

Mae gennym berthynas waith gadarnhaol â'n cydweithwyr yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, a diolch i'r berthynas honno, rydym wedi llwyddo i gyflwyno nifer o'r argymhellion a geir yn Adolygiad Hanson.

Yn gynharach eleni, sefydlwyd Pwyllgor Dysgu, Cyflogaeth a Diwydiannau, sydd wedi darparu fforwm ar gyfer canolbwyntio ar ddeilliannau addysg a chanlyniadau chyflogaeth i'r holl garcharorion yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor hwn hefyd yn rhoi cyfle i gydweithwyr ar draws y carchardai rannu gwybodaeth a hefyd yn hwyluso perthynas weithio agosach rhwng Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, Llywodraethwyr Carchardai, Penaethiaid Dysgu a Sgiliau mewn Carchardai, Estyn, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru.

Rydym yn cyflwyno prosbectws dysgu a sgiliau cyffredin er mwyn gwella cysondeb ac ansawdd yr wybodaeth sydd ar gael i droseddwyr, gan eu galluogi i fanteisio i'r eithaf ar y llwybrau dysgu gydol eu cyfnod yn y carchar. Mae'r fformat newydd yn cael ei gyflwyno ar hyn o bryd ym mhob un o'r carchardai yng Nghymru a bydd ei effaith yn cael ei werthuso unwaith y caiff ei ymgorffori yn y system.

I ategu'r cyfleoedd dysgu hyn, mae Cynllun Datblygiad Personol, Dysgu a Gwaith cyffredinol wedi'i ddatblygu hefyd. Bydd y fenter ddigidol newydd hon yn caniatáu i’r troseddwyr fynd â'u taith ddysgu gyda nhw ar draws yr ystâd ac i'r gymuned. Mae'n darparu cyfle ar gyfer dull symlach o olrhain, mesur a monitro cynnydd dysgwyr a'u taith addysg, gan fonitro eu  lles, gofal, y cymorth a’r arweiniad y maent yn ei gael hefyd.

Roedd trafod â rhanddeiliaid a'u hatebolrwydd yn argymhelliad arall o fewn Adolygiad Hanson ac roedd yn bleser cael mynd i'n gweithdy cyntaf i randdeiliaid Dysgu a Chyflogadwyedd Troseddwyr ym mis Gorffennaf. Yno, lansiwyd y Strategaeth Dysgu a Sgiliau ar gyfer Carchardai yng Nghymru. Rhoddodd y gweithdy gyfle i mi glywed gan gynrychiolwyr o fyd busnes, y byd academaidd darparwyr hyfforddiant a chan sefydliadau'r trydydd sector. Dyma gyfle euraid i'r holl randdeiliaid gydweithio a chlywed am brosiectau, strategaethau a mentrau sy’n digwydd ledled Cymru.

Rwy'n edrych ymlaen at weld mwy o'r trafodaethau hyn yn cael eu cynnal drwy sefydlu grŵp newydd, sef Grŵp Llywio ar gyfer Dysgu a Chyflogadwyedd Troseddwyr, fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach eleni. Rhan o gylch gwaith y grŵp hwn fydd hwyluso ein gallu i ddysgu gan y naill a’r llall i fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau sy’n wynebu troseddwyr wrth chwilio am waith. Bydd y grŵp yn allweddol wrth ddatblygu ein polisi Dysgu ar gyfer Troseddwyr at y dyfodol, a byddwn yn atebol iddo am gyflawni'r camau polisi hynny, gan ddefnyddio barn a phrofiadau dynion a menywod mewn carchardai.

Bwriadaf ofyn i'r Grŵp Llywio ystyried arferion recriwtio arloesol er mwyn creu cyfleoedd cyflogaeth i gyn-droseddwyr yn y sector preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector. Bwriadaf ofyn iddynt hefyd i edrych ar strategaeth i gynyddu nifer y troseddwyr hynny sy'n ystyried cyfleoedd hunangyflogaeth. Bydd y Grŵp Llywio yn dechrau drwy edrych ar argymhelliad David Hanson, AS ynghylch hygyrchedd Cardiau Sgiliau Adeiladu. 

Mae lansiad gwasanaeth cynghori Cymru’n Gweithio ar 1 Mai 2019, a ddarperir gan Gyrfa Cymru, yn rhoi cyfleoedd i sicrhau bod y system newydd yn cael ei hintegreiddio'n llawn o fewn y strwythurau ailsefydlu presennol a gwasanaethau "Through the Gate". Mae Gyrfa Cymru a'r Gwasanaeth Prawf wedi cymryd camau i sicrhau bod gwasanaeth di-dor ar gael bellach sy'n darparu cyngor gyrfaol mewn gwahanol leoliadau.  

Roedd Adolygiad Hanson yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi i wella'r sgiliau cyffredinol sydd ar gael.  Mae llythrennedd digidol yn un o'r meysydd y mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi a Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i weithio arnynt. 

Mae Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru, a ddefnyddir yng ngharchardai Caerdydd ac Abertawe ar hyn o bryd, yn cynnwys asesiad o sgiliau digidol unigolyn a fydd yn nodi a oes angen cymorth pellach arno. Rhagwelir, erbyn diwedd 2020, y bydd y Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru yn cael ei gyflwyno yn yr holl garchardai yng Nghymru i sicrhau cysondeb, a pharhad yr asesu a'r hyfforddiant a ddarperir.

Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i wella deilliannau dysgu troseddwyr. Hoffwn annog mwy o brosiectau fel yr un sy'n cael ei yrru ymlaen gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sydd wedi cytuno i gefnogi datblygiad cynnig dysgu digidol i droseddwyr yng Nghymru. Bydd y cwrs peilot ar gael yn y lle cyntaf i droseddwyr astudio yng ngharchar Abertawe a, diolch i'r cydweithio â'r awdurdodau lleol, ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Dim ond drwy drafod a chydweithredu ar draws y sector, y byd academaidd ac awdurdodau lleol y mae prosiectau fel y rhain yn bosibl a hoffwn weld mwy o'r math yma o beth yn y dyfodol. 

I’r menywod hynny o Gymru sydd mewn carchardai yn Lloegr ar hyn o bryd, byddwn yn cydweithio'n agos â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi ar y ddwy ochr i'r ffin i edrych am gyfleoedd addysg a chyflogaeth realistig sy'n adlewyrchu anghenion, amgylchiadau personol a sgiliau ein troseddwyr benywaidd. Byddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod cyflogadwyedd benywod sy’n troseddu yn cael ei ystyried fel rhan o ddull gweithredu integredig y broses adsefydlu.

Wrth edrych tua’r dyfodol, rwyf wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd dysgu ar gyfer troseddwyr sy'n gweithio i droseddwyr; gan sbarduno cydweithio gyda phawb ar draws y sector i ddatblygu system addysg mewn carchardai sy'n ennyn diddordeb ac yn ysbrydoli pobl ac un sy'n rhoi'r bachyn i gydio ynddo i gymell pobl i beidio ag aildroseddu.

Fe wyddom fod darparu addysg o safon, sgiliau a chyflogaeth yn ffactor enfawr sy’n cyfrannu at ostwng y gyfradd aildroseddu, ac rwy’n benderfynol o gyflwyno rhaglen addysg a chyflogaeth i droseddwyr sy’n cefnogi llwybr effeithiol a ffordd amgen i’r rhai sy’n troseddu.  Gyda'n gilydd, byddwn yn manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael i ni, er mwyn magu synnwyr o obaith a chyfleoedd i garcharorion, staff carchardai a'r gymuned yn ehangach.