Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, mae’n bleser gennyf fod wedi gosod Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Cymru) 2021 a fydd yn cael eu trafod yn Senedd Cymru ar 9 Mawrth 2021.

Mae’r Rheoliadau yn sbardun allweddol i fynd i’r afael ag anfantais economaidd-gymdeithasol yng Nghymru.

Bydd y Rheoliadau yn diwygio adran 1(3) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 drwy ychwanegu awdurdodau cyhoeddus perthnasol o Gymru at y rhestr. Bydd hyn yn sicrhau pan gychwynnir adran 1 o Ddeddf 2010, bydd y Ddyletswydd yn gymwys i’r cyrff Cymreig hynny sydd wedi’u rhestru.

Bydd yn ofynnol dan y Ddeddf i’r cyrff cyhoeddus a restrir, wrth wneud penderfyniadau strategol, megis penderfynu ar flaenoriaethau a phennu amcanion, ystyried sut y gall eu penderfyniadau helpu i leihau anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol.

Mae Memorandwm Esboniadol, gan gynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol, hefyd wedi’u cyhoeddi ochr yn ochr â’r Rheoliadau, a gellir ei weld ar Wefan Senedd Cymru ynghyd â chrynodeb o’r Asesiad Effaith Integredig i ategu’r ddyletswydd,

Roeddwn yn meddwl y byddai’n ddefnyddiol darparu copi o’r canllawiau statudol a fydd yn cael eu cyhoeddi pan gychwynnir y Ddyletswydd. Mae copi o’r canllawiau wedi’u gosod yn y Swyddfa Gyflwyno a gellir eu gweld ar Wefan Senedd Cymru. Bydd y canllawiau yn cael eu cyhoeddi’n ffurfiol ar yr amod bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau.

Datblygwyd y canllawiau statudol hyn mewn partneriaeth â chynrychiolwyr cyrff cyhoeddus perthnasol, TUC, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a chyrff yn y trydydd Sector. Mae’n adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn yr Alban, sydd wedi cychwyn y Ddyletswydd, a’r canllawiau interim a gyhoeddais ar 1 Ebrill 2020. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm wrth y gwaith hwn.

Mae’r Canllawiau Statudol y darparu gwybodaeth ychwanegol ar faterion megis i bwy y mae’r Ddyletswydd yn berthnasol a pham, gorfodi ac adolygiad barnwrol, cyfrifoldeb am gydymffurfio â’r Ddyletswydd, a monitro/adrodd blynyddol. Mae tudalennau gwe'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn cynnwys adnoddau pellach a gyd-gynhyrchwyd y mae cyrff cyhoeddus wedi’u defnyddio i baratoi ar gyfer y ddyletswydd.

Er fy mod yn cydnabod bod rhai o’r farn nad yw cychwyn y ddyletswydd yn ystod pandemig byd-eang yn ddelfrydol, rwy’n meddwl bod angen y ddyletswydd hon yn awr yn fwy nag erioed gan fod Covid-19 yn gwaethygu’r anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru.  Mae wedi dod yn amlwg bod rhai grwpiau wedi dioddef yn fwy nag eraill, er enghraifft, cymunedau lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, menywod a phobl ifanc. Nod y Ddyletswydd yw gwella'r sefyllfa honno i'r rhai sy'n dioddef anfantais economaidd-gymdeithasol. Drwy'r canllawiau interim a gyd-gynhyrchwyd uchod ac adnoddau cyhoeddedig, credaf fod pob mesur rhesymol wedi'i gymryd i gefnogi cyrff cyhoeddus i baratoi ar gyfer cychwyn y Ddyletswydd.